Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Thelerau

POLISI PREIFATRWYDD

Diweddarwyd Mai 2018 

  • Pan fyddwch yn codi tocynnau yn y Neuadd Dewi Sant, byddwch yn rhoi rhywfaint o wybodaeth bersonol sylfaenol i ni er mwyn i ni brosesu eich archeb.
  • Mae’r wybodaeth bersonol a rowch i ni i brosesu eich archeb yn cael ei chadw gennym ni er mwyn (a) prosesu a chofnodi’ch taliad a (b) eich hysbysu os oes unrhyw beth yn newid mewn perthynas â’ch archeb - er enghraifft, y perfformiad yn cael ei ganslo. Dim ond er mwyn prosesu taliad y byddwn yn rhannu’r wybodaeth hon â’ch banc, neu ag unrhyw un arall os bydd gofyn i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith. 
  • Pan fyddwch yn archebu, byddwn yn gofyn i chi hefyd a ydych am dderbyn gwybodaeth am gynyrchiadau a digwyddiadau sydd i ddod yn y Neuadd Dewi Sant. Os rhowch eich caniatâd, cysylltwn â chi o dro i dro i roi’r wybodaeth hon i chi.  

    O bryd i'w gilydd, fe allem lywyddu digwyddiad yn Neuadd Dewi Sant gyda phartner digwyddiad.  Pan ddigwydd hyn, gofynnir i chi'n benodol a ydych yn fodlon i'ch gwybodaeth gael ei rhannu â'r partner digwyddiad.

  • Bob tro y cysylltwn â chi byddwn yn cynnig y cyfle i chi beidio â derbyn unrhyw wybodaeth yn y dyfodol, naill ai trwy e-bost neu drwy gysylltu â’n Swyddfa Docynnau ar 029 20 87 84 44.
  • Mae Cyngor Caerdydd yn gofrestredig â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth rhif Z5832396.

Amodau a Thelerau

Tocynnau

  • Rydym yn gwneud ein gorau glas i ymorol bod yr holl wybodaeth hyrwyddo a gyflenwir yn gywir ond rydym yn argymell eich bod chithau’n ymorol yn briodol am wirio gwybodaeth o’r fath. Mae Neuadd Dewi Sant yn gwadu’n ffurfiol bob atebolrwydd dros unrhyw golled neu niwed uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol a achosir os bydd y defnyddiwr yn dibynnu ar unrhyw ddatganiad, gwybodaeth neu gyngor sydd yn neunydd print Neuadd Dewi Sant, ar y wefan neu unrhyw ddeunydd hyrwyddo a gynhyrchir gan y corff.
  • Mae derbyn eich archeb yn creu cytundeb cyfreithiol gyfrwymol rhwng Neuadd Dewi Sant a chi. Rheolir y cytundeb rhwng Neuadd Dewi Sant a chi a’i ddehongli yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr, a bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdod i dorri unrhyw ddadleuon.
  • Does dim dal y bydd tocynnau bob amser ar gael.
  • O roi eich archeb rydych yn gwarantu bod yr holl fanylion a rowch i ni at ddiben codi tocynnau, archebu neu brynu nwyddau neu wasanaethau yn gywir, mai chi piau’r cerdyn credyd neu ddebyd rydych yn ei ddefnyddio a bod yno ddigon o gyllid i ymorol am gost y tocyn neu’r gwasanaeth. Os oes yna unrhyw newidiadau yn y manylion a rowch chi eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i ni.
  • Yn unol ag arfer safonol y diwydiant, nid yw Neuadd Dewi Sant yn cefnogi ailwerthu tocynnau i ddigwyddiadau. Ni chaiff cwsmeriaid godi tocynnau gyda’r bwriad o’u gwerthu am grocbris. Cadwn yr hawl i wrthod mynediad i unrhyw un sy’n dal tocynnau a gafwyd drwy fannau answyddogol a safleoedd tocynnau trydydd parti lle digwyddodd hyn ac i wrthod rhannu tocynnau a gadwyd at y diben hwn. 

Cyfyngiadau ar Ailwerthu Tocynnau: 

  • Trwydded bersonol, ddiddymadwy yw eich tocyn a deil i fod, bob amser, yn eiddo’r hyrwyddwyr.  Rhaid rhoi’r tocyn hwn i’r hyrwyddwyr os gofynnir amdano.
  • Gwerthir eich tocyn/nau gan yr hyrwyddwyr yn uniongyrchol i chi, y cwsmer.  Diddymir unrhyw docynnau a brynir gan fusnes neu fasnachwyr sy’n torri amodau a thelerau gwerthu tocynnau. Drwy dderbyn yr amodau a’r telerau hyn rydych yn cadarnhau eich bod yn gwsmer.
  • Bydd eich tocyn/nau yn ANNILYS AR UNWAITH os cânt eu hailwerthu NEU EU CYNNIG I’W GWERTHU oni bai bod y gwerthiant drwy sianelau ailwerthu swyddogol yr Artist fel y’u hysbysebir, neu gyfnewid rhwng selogion asiant tocynnau (lle bo’n berthnasol).  Nid yw tocynnau a werthir drwy drydydd person a safleoedd gwerthu diawdurdod eraill, gan gynnwys mannau ocsiwn ar lein, yn ddilys ar gyfer mynediad.  Mae ailwerthu tocyn yn ei wneud yn annilys a gall arwain at wrthod mynediad.
  • Dim ond tocynnau a godir drwy asiantaethau tocynnau cydnabyddedig sy’n ddilys ar gyfer mynediad.  Ceidw’r oedfan yr hawl i wrthod mynediad.
  • Mae gan staff Neuadd Dewi Sant awdurdod i wrthod gadael i chi fynd i mewn i’r oedfan ac maen nhw’n cadw’r hawl i wneud hynny os ydi’ch ymddygiad chi, yn eu barn ddiamod, cyfryw â’i fod yn debygol o darfu neu aflonyddu ar bobl eraill sy’n dod i’r Neuadd. Ceidw Neuadd Dewi Sant hefyd yr hawl i roi terfyn ar eich caniatâd i fod yn yr adeilad a’ch troi allan.
  • Mae meddu ar docyn dilys yn rhoi hawl i’r deiliad fynd i’r awditoriwm yn union cyn i’r perfformiad ddechrau ond unwaith y bydd y perfformiad wedi dechrau mae’r canlynol yn berthnasol. Rhag aflonyddu ar y gynulleidfa a’r perfformwyr, ni chaiff hwyrddyfodiaid fynd i’r awditoriwm tan yr egwyl.  Hwyrach y bydd modd dilyn y perfformiad ar deledu cylch cyfyng yn y barrau.
  • Rhaid i bob aelod o’r gynulleidfa feddu ar docyn dilys. Ni fydd tocynnau wedi’u newid neu eu difwyno yn ddilys.
  • Nid yw cadarnhad derbyn eich archeb trwy e-bost yn gwarantu gwerthiant y tocyn (gwerthiannau rhyngrwyd yn unig). 
  • Cofiwch wirio eich tocynnau gan nad oes bob amser modd cywiro camgymeriadau. 
  • Rydym yn sylweddoli bod rhai pobl yn methu dod ar y dyddiad newydd ac rydym yn fodlon ad-dalu cost y tocyn yn llawn.  Fodd bynnag, allwn ni ddim cynnig ad-daliad chwe wythnos neu lai cyn y dyddiad newydd

Ailwerthu tocynnau

  • Nid yw Neuadd Dewi Sant yn cefnogi ailwerthu tocynnau i ddigwyddiadau. Ni chaiff cwsmeriaid godi tocynnau gyda’r bwriad o’u hailwerthu am grocbris. Cadwn yr hawl i wrthod mynediad i unrhyw un sy’n dal tocynnau a gafwyd drwy fannau answyddogol a safleoedd tocynnau trydydd parti lle digwyddodd hyn ac i wrthod rhannu tocynnau a gadwyd at y diben hwn.

Diogelu Ad-dalu TicketPlan

  • Mae’r cynllun Diogelu Ad-daliad TicketPlan ar gael ar gyfer eich archeb. Rydym yn argymell yn daer eich bod yn cynnwys y dewis yma. Chewch chi mo’ch arian yn ôl o ddychwelyd tocynnau. Bydd ychwanegu cynllun diogelu TicketPlan yn eich diogelu chi os bydd gofyn i chi ganslo oherwydd damweiniau, tarfu ar deithio a gwaeledd annisgwyl.
  • Mae’r manylion llawn yn Amodau a Thelerau TicketPlan, rydym yn eich cynghori i’w darllen a’u cadw.
  • Mae Diogelwch Ad-daliad Archebion yn wasanaeth dewisol a gynigir gan y gwerthwr archebu, ac mae TicketPlan yn ei weinyddu ar ei ran. Nid yw’n bolisi yswiriant.

Dyfeisiau symudol a chamerâu

  • Rydym wrth ein boddau o weld eich sylwadau Trydar a Gweplyfr a hyfryd o beth yw bod arnoch eisiau dweud wrth bobl eich bod yn cael hwyl.  Ond er cysur aelodau eraill o’r gynulleidfa, cofiwch mai yn yr egwyl neu cyn ac ar ôl y cyngerdd mae defnyddio ffonau symudol a dyfeisiau’r rhyngrwyd.  Dylid diffodd ffonau symudol a dyfeisiau eraill i gyd yn ystod y perfformiad ei hun. Diolch i chi!
  • Ni chaniateir ar unrhyw gyfrif na gwneud recordiadau na ffotograffiaeth, gyda neu heb fflach.
  • Rhaid i chi ddiffodd cyfleuster canu eich ffôn symudol pan fyddwch yn yr awditoriwm neu’n agos ato. Yn yr un modd, rhaid i chi beidio â siarad ar ffôn symudol pan fyddwch yn yr awditoriwm neu’n agos ato. Mewn argyfwng cewch siarad ar ffôn symudol yn ymyl y Swyddfa Docynnau ond ar wahân i hynny rhaid i chi wneud hynny’r tu allan i’r oedfan. 
    Dylech ddwyn unrhyw gwynion am y sioe neu’r olygfa o’r seddi at y Rheolwr ar Ddyletswydd yn ddi-oed, cyn neu yn ystod y perfformiad.
  • Ceidw Neuadd Dewi Sant yr hawl iddi hi ei hun neu drydydd person wneud ffilmio a recordio sain cyffredinol yn yr adeilad neu ei gyffiniau. Mae codi tocyn yn golygu bod y deiliad yn cydsynio i gael tynnu ei lun neu recordio ei lais ac i’r defnydd masnachol o ffilm neu recordiad o’r fath heb unrhyw hawl ar daliad. Rhaid i unrhyw ddeiliad tocyn sy’n gwrthwynebu cael tynnu ei lun neu ei recordio roi gwybod i’r Rheolwr ar Ddyletswydd cyn i’r perfformiad ddechrau.

Newidiadau yn y rhaglen a disgwyliadau

  • Ceidw Neuadd Dewi Sant yr hawl i newid neu amrywio’r perfformiad neu’r digwyddiad oherwydd digwyddiadau neu amgylchiadau’r tu hwnt i’n rheolaeth heb orfod ad-dalu arian na newid tocynnau. Cadwn yr hawl i wneud newidiadau yn y cast neu’r rhaglen os oes rhaid.  Nid yw hyn yn effeithio ar eich hawliau statudol.
  • Nid yw Neuadd Dewi Sant yn gallu gwarantu cwrdd â’ch disgwyliadau personal chi gan berfformiwr neu berfformiad.  Mae hyn am fod disgwyliadau personal a beth sydd at ein dant ni yn ddi-ben-draw o amrywiol.  At hynny, nid yw Neuadd Dewi Sant yn gallu gwarantu na chewch chi mo’ch pechu gan iaith, ymddygiad neu olwg unrhyw berfformiwr. Rydym yn argymell eich bod yn holi yn y Swyddfa Docynnau cyn codi tocyn os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch natur perfformiad. Bydd polisi ad-dalu Neuadd Dewi Sant ar waith.
  • Mae Neuadd Dewi Sant yn rhoi gwerth ar ymroddiad mynychwyr theatr yn codi tocynnau’n fuan ac mae’n cydnabod bod argyfyngau weithiau’n nadu i bobl ddod. Mae’r ddau wasanaeth sy’n dilyn ar gael:
  • Ceir ffeirio tocynnau am unrhyw ddigwyddiad arall am yr un pris neu fwy (o dalu’r gwahaniaeth).  Rhaid i docynnau ddod i law yn y Swyddfa Docynnau dim hwyrach na 48 awr cyn y perfformiad gwreiddiol. Mae yna dâl o £2.00 y tocyn am y gwasanaeth yma. Os bydd angen tocynnau dyblyg, codir tâl o £2.50 y tocyn am y gwasanaeth yma. (Gwaetha’r modd, ni ellir ffeirio nac ailwerthu yn Neuadd Dewi Sant docynnau a godir trwy Ganolfan Gofal Cwsmeriaid y BBC neu asiantaethau allanol). 
  • Fel arall, derbynnir tocynnau i’w cynnig i’w hailwerthu ar yr amod benodol mai tocynnau Neuadd Dewi Sant sydd heb eu gwerthu a werthir gyntaf. Cynigir y gwasanaeth ailwerthu yma ar yr amod eich bod yn derbyn nad yw Neuadd Dewi Sant yn gwarantu y bydd unrhyw docyn a gynigir i’w ailwerthu yn cael prynwr newydd. Mae’r gwasanaeth yma ar gael ar yr amod llwyr eich bod yn dychwelyd y tocynnau gwreiddiol yn gyntaf i’r Swyddfa Docynnau a’ch bod yn cytuno ymlaen llaw i dalu cost dros ben o 20% am y gwasanaeth ar werth unrhyw docyn a werthir.
  • Ar wahân i’r ddau wasanaeth uchod neu os canslir perfformiad, does dim ad-daliadau na rhan ohonyn nhw ar gael ar ôl i chi godi tocyn.

Cynulleidfaoedd ifainc

  • Cynigir GOSTYNGIADAU PLANT i bobl ifanc os ydyn nhw’n dal yn yr ysgol. Ni ddylech dybio bod caffaeledd gostyngiadau plant yn golygu y caech chi’r sioe’n addas i bawb yn y categori yma. Gan fod barnau rhieni/gwarcheidwaid o ran beth sy’n addas i ystod oedran neilltuol yn amrywio gryn dipyn, rhaid i chi eich argyhoeddi’ch hun o ran addasrwydd sioe o holi’n gyntaf yn y Swyddfa Docynnau.
  • Mae rhai perfformiadau sydd heb fod yn addas i blant bach iawn (o dan ddwyflwydd). Er eich cysur chi eich hun a chyngherddwyr eraill byddem yn argymell i blant o dan ddwyflwydd beidio â mynd i berfformiadau a hysbysebir ar gyfer grwpiau oedran penodol.
  • Arweinwyr grwpiau ieuenctid (gan gynnwys partïon ysgol) sy’n gyfrifol am ymddygiad eu parti. Nid yw Neuadd Dewi Sant yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am oruchwylio pobl ifanc yn eich gofal chi. Rhaid i chi ymorol bod digon o staff goruchwylio yn dod gyda’r grŵp. Gofynnir i’r grŵp neu rai ohonyn nhw adael y theatr os tarfir ar y perfformwyr neu’r gynulleidfa.

Ysmygu ac yfed

  • A ninnau’n oedfan adloniant trwyddedig, rydym yn hybu yfed cyfrifol. Os bydd unrhyw gwsmeriaid yn dangos arwyddion o feddwdod, ymosodedd neu ymddygiad gwrthgymdeithasol, oherwydd diod neu rywbeth arall, cânt eu hebrwng o’r adeilad ac ni chynigir dim ad-daliadau tocynnau.
  • Ni chaniateir na smocio na defnyddio sigaréts electronig yn unman yn yr adeilad.
Mesurau diogelwch
  • Mae cynulleidfaoedd weithiau’n gorfod mynd drwy fesurau diogelwch felly cofiwch gyrraedd yr oedfan mewn da bryd. Diolch i chi ymlaen llaw am eich cymwynas a’ch amynedd

Neuadd Dewi Sant

  • Mae ein gwefannau a’n Hysbysebion Swyddogol yn cael eu rheoli, eu cynhyrchu a’u gweithredu gan Neuadd Dewi Sant o’n swyddfeydd yn y Deyrnas Unedig. Nid yw Neuadd Dewi Sant yn honni bod y deunydd a’r wybodaeth a ddangosir ar ein gwefan neu sydd ar gael drwy ein gwefan yn addas nac ar gael i’w defnyddio mewn Gwledydd eraill y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
  • Mae Neuadd Dewi Sant yn gyfleuster a ddarparir gan Gyngor Caerdydd ac o hyn ymlaen byddwn yn cyfeirio ati fel “Neuadd Dewi Sant”

Ewch i’r dudalen Preifatrwydd a Chwcis am wybodaeth am sut rydym yn trin eich data personol.

Ymuno â'r rhestr bostio