Teithiau BBC Cymru
Camwch i ddyfodol darlledu yn stiwdios diweddaraf a mwyaf blaenllaw’r BBC yn y Sgwâr Canolog, Caerdydd. Cewch ymweld â’n stiwdios teledu a radio newydd sbon, a chael clywed sut mae creu rhaglenni’r BBC.
Darparwr tocynnau newydd ar gyfer Teithiau BBC Cymru
O Ionawr 2024, Canolfan Mileniwm Cymru yw’r darparwr tocynnau ar gyfer Teithiau BBC Cymru.
Bu’n rhaid symud y swyddfa docynnau o Neuadd Dewi Sant i Ganolfan y Mileniwm gan fod Neuadd Dewi Sant ar gau dros dro.
Mae modd prynu tocynnau BBC Cymru:
Teithiau BBC Cymru - Saesneg | Canolfan Mileniwm Cymru
Neu ffoniwch swyddfa docynnau Canolfan Mileniwm Cymru ar 029 2063 6464.