Llogi Lleoliad ac Ystafelloedd
Cynadleddau
Neuadd Dewi Sant ydi Neuadd Gyngerdd Genedlaethol a Chanolfan Gynadledda Genedlaethol arobryn Cymru ac mae’n eiddo a dan reolaeth Cyngor a Sir Caerdydd.
Mae’r adeilad yn amlochrog dros ben a chanddo gyfleusterau technegol addas ar gyfer cynadleddau o bwys, cyfarfodydd cyffredinol blynyddol a chyflwyniadau corfforaethol neu, gan fod amrywiaeth o fannau cyfarfod ar gael, cyfarfodydd llai, briffio’r wasg, seminarau hyfforddi a chiniawau preifat.
Nifer y llefydd
Bwriwch olwg ar y nifer o lefydd yn ein hystafelloedd cynadledda
Yr Awditoriwm
Mae’r awditoriwm yn wledd i’r llygad, o ran acwsteg fe’i dyfarnwyd y chweched gorau yn y byd ac mae wedi’i weirio’n barhaol ar gyfer darlledu. Rhengoedd amlap cydgysylltiol ydi ei gynllun anghyffredin ac mae’n cynnig llefydd cyfforddus ar gyfer hyd at 2,000 o bobol. Ar ben digwyddiadau adloniant o bwys – gan gynnwys Canwr y Byd Caerdydd a Proms Cymru – mae wedi croesawu’n llwyddiannus gynadleddau gwleidyddol, Cyfarfodydd Blynyddol rhanddeiliaid a phartïon corfforaethol trawiadol. Ers ei agoriad brenhinol ym 1983, mae wedi croesawu cynrychiolwyr o gyrff megis Undeb Cenedlaethol yr Athrawon, Cymdeithas Siambrau Masnach Prydain a’r Sefydliad Yswiriant Siartredig.
Ystafell Llanelwy a’r Ystafell Werdd
Mae’r ddwy ystafell gyfarfod braf yma, lle mae digon o awyr, yn cael eu defnyddio’n aml fel ystafelloedd y wasg, crèche neu swyddfa’r trefnydd mewn cynadleddau. Maen nhw hefyd i’r dim ar gyfer derbyniadau, ciniawau a chroeso corfforaethol.
Ystafell Is-iarll Tonypandy
Ystafell neilltuol a chanddi ei man croeso ei hun a chyfleusterau en-suite sy’n arbennig o addas ar gyfer derbyniadau VIP, ciniawau bychain ganol dydd a chyda’r hwyr, cyfweliadau preifat a chyfarfodydd pwyllgor.
Cynteddau
Mae’r cynteddau a’r mannau bar eang yn ddigon hyblyg i gael eu defnyddio ar gyfer cyfarfodydd ychwanegol, derbyniadau, partïon a chroesawu anffurfiol. Mae arddangosfeydd masnach a chrefft (hyd at 4,500 o droedfeddi sgwâr) hefyd yn gweithio’n dda yn y mannau yma. Mae balconïau yn cynnig golygfeydd o’r ddinas ar sawl lefel.
Ymwelwyr Anabl
Buom yn fawr ein gofal yn ymorol am hygyrchedd ar gyfer ymwelwyr anabl. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys rampiau, drysau awtomatig, lifft a chanddo banel rheoli lefel isel a phlatiau Braille a chyhoeddiadau llais, system is-goch a llinell deleffon minicom ar gyfer cwsmeriaid trwm eu clyw, mannau cadeiriau olwyn yn yr awditoriwm a thai bach hygyrch.
I archebu ystafell, ac ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â Joanne John ar joanne.john@caerdydd.gov.uk neu 029 2087 8513.
I lawrlwytho Crynodeb o’r Pecyn Llogi, cliciwch yma.