Dewch yn Gyfaill
Dewch i deimlo Gwefr Neuadd Dewi Sant!
Mae’n costio £20 (gyda llyfryn digidol) neu £25 (gyda llyfryn drwy’r post a digidol) i ddod yn un o Gyfeillion Neuadd Dewi Sant am flwyddyn, a gallwch naill ai ymuno neu adnewyddu drwy glicio un o’r dewisiadau isod.Cofiwch fod gofyn i chi gofrestru cyfrif ar lein cyn prynu neu roi caniad i’n Swyddfa Docynnau ar 02920 878444.
I gael eich cerdyn aelodaeth o’r Cyfeillion, gallwch naill ai ofyn am gael ei anfon atoch (tâl postio £1.50) neu ei gasglu yn y Swyddfa Docynnau. Bydd y dewisiadau danfon ar gael pan fyddwch yn ymadael.
Archebu blaenoriaethol
Gewch chi elwa ar archebu blaenoriaethol y Cyfeillion - ymorol am y Seddi Gorau ac achub y blaen ar y cyhoedd i’r rhan fwyaf o ddigwyddiadau Neuadd Dewi Sant.
Disgowntiau Bwyd a Diod
Gallwch fwynhau gostyngiad o 10% oddi ar fwyd a diod o’n barrau. Y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw dangos eich cerdyn aelodaeth Cyfaill dilys cyfredol wrth brynu rhywbeth.
Canllaw Neuadd Dewi Sant i ddigwyddiadau
Cofrestrwch i dderbyn ein canllaw bob deufis i ddigwyddiadau trwy’r post a/neu’n ddigidol cyn y cyhoedd, gan sicrhau mai chi yw un o’r rhai cyntaf i gael gwybod am sioeau yn y dyfodol. (Os oes rhaid i sioe fynd ar werth ar fyr rybudd, lle bo modd byddwn yn cadw dogn o docynnau wrth gefn ar gyfer y Cyfeillion.
Dogn y Cyfeillion a Chynigion Dethol
Caiff Cyfeillion Neuadd Dewi Sant ddogn cyfyngedig o docynnau i’r rhan fwyaf o sioeau.Byddwn hefyd yn anfon atoch gynigion tocynnau dethol i rai sioeau pan fydd y rhain ar gael.
Gostyngiadau
Gewch chi arbed arian â gostyngiadau arbennig y Cyfeillion ar lawer o’r cyngherddau a’r digwyddiadau yn Neuadd Dewi Sant, yn cynnwys tymor Bale’r Nadolig, y Gyfres Cyngherddau Rhyngwladol a Proms Cymru.
Eisoes yn Gyfaill?
Mewngofnodwch yn mewngofnodi i weld/lwytho i lawr eich llyfryn electronig deufisol newydd (PDF) bythefnos cyn y cyhoedd. Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi, mae’r botwm ‘Llwytho i Lawr y Llyfryn' ar far cwymplen ucha’r porwr (ar yr ochr dde).Cliciwch arno i agor y llyfryn i’w weld neu’i gadw.
Canllaw Neuadd Dewi Sant i ddigwyddiadau