Cynllun Seddi
- Stalau – Canol (mynediad drwy ddrysau Lefel 3)
Dosbarthir yr adran yma o’r seddi’n seddi gorau ac maen nhw yn y canol, o flaen y llwyfan. Mae’r adran yma’n cynnwys 15 rhes o A-P a’r rhes gyntaf wedi’i rhestru AAA.
Mae’r nifer o seddi mewn rhes yn amrywio o 13 (yn rhes AAA) i 19 (yn rhes P).
Fel arfer mae yna 5 o ddefnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith yn rhes P a 2 o ddefnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith yn rhes AAA.
Rhowch ganiad i’r Swyddfa Docynnau ar 07391 791934 i gadw’r seddi hyn.
O ran gweld, cofiwch fod rhesi AAA i E ar y gwastad ac o res F ymlaen maen nhw wedi’u codi ar fformat gwasgarog. - Stalau – yr eil chwith yn wynebu’r llwyfan (mynediad drwy ddrysau Lefel 3)
Dosbarthir yr adran yma o’r seddi’n seddi gorau ac maen nhw ar yr ochr chwith yn wynebu’r llwyfan. Mae’r adran yma’n cynnwys 15 rhes o A-P a’r rhes gyntaf wedi’i rhestru AAA.
Mae’r nifer o seddi mewn rhes yn amrywio o 4 (yn rhes AAA) i 18. - Stalau – yr eil dde yn wynebu’r llwyfan (mynediad drwy ddrysau Lefel 3)
Dosbarthir yr adran yma o’r seddi’n seddi gorau ac maen nhw ar yr ochr dde yn wynebu’r llwyfan. Mae’r adran yma’n cynnwys 15 rhes o A-P a’r rhes gyntaf wedi’i rhestru AAA.
Mae’r nifer o seddi mewn rhes yn amrywio o 4 (yn rhes AAA) i 18. - Rheng 1 (mynediad drwy ddrysau Lefel 3)
Dosbarthir yr adran yma o’r seddi hefyd yn seddi gorau gan fod iddyn nhw well sain acwstig a chan eu bod yn y canol ac wedi’u codi, o flaen y Stalau. Mae’r adran yma’n cynnwys 6 rhes - A, B, CC, DD, EE ac FF.
Mae rhesi AA, BB ac CC yn cynnwys 23 o seddi ym mhob rhes a rhesi DD, EE ac FF yn cynnwys 27 ym mhob rhes, a grisiau’n mynd at bob rhes. - Rheng 2 (mynediad o ddrysau Lefel 5)
Mae’r adran yma o seddi uwchben y Stalauar ochr chwith yr awditoriwm a rhwng Rhengoedd 3 a 13. Mae’n cynnwys 6 rhes - A, B, C, D, E ac F. Mae’r nifer o seddi mewn rhes yn amrywio o 10 i 14. - Rheng 3 (mynediad o ddrysau Lefel 5)
Mae’r adran yma o seddi rhwng Rhengoedd 2 a 4 ar ochr chwith yr awditoriwm. Mae’n cynnwys 5 rhes - A, B, C, D ac E. Mae’r nifer o seddi mewn rhes yn amrywio o 10 i 18.
Cofiwch mai ochr-olwg ar y llwyfan sydd o’r seddi hyn. - Rheng 4 (mynediad o ddrysau Lefel 5)
Mae’r adran yma o seddi ar ochr chwith y llwyfan.Mae’n cynnwys 4 rhes - A, B, C a D. Mae’r nifer o seddi mewn rhes yn amrywio o 9 i 14.
Cofiwch mai ochr-olwg ar y llwyfan sydd o’r seddi hyn. - Rheng 5 (mynediad o ddrysau Lefel 5)
Mae’r adran yma o seddi tua chefn y llwyfan.Mae’n cynnwys 3 rhan – canol, ochr chwith ac ochr dde.Mae’r adran ganol yn cynnwys 7 rhes - A, B, C, D, E, F ac G. Mae’r nifer o seddi mewn rhes yn amrywio o 26 i 50.
Cofiwch mai golwg gyfyngedig sydd o’r seddi hyn ac ychydig o le i’r coesau. - Rheng 6 (mynediad o ddrysau Lefel 5)
Mae’r adran yma o seddi ar ochr dde’r llwyfan.Mae’n cynnwys 4 rhes - A, B, C a D. Mae’r nifer o seddi mewn rhes yn amrywio o 9 i 14.
Cofiwch mai ochr-olwg ar y llwyfan sydd o’r seddi hyn. - Rheng 7 (mynediad o ddrysau Lefel 5)
Mae’r adran yma o seddi rhwng Rhengoedd 6 ac 8 ar ochr dde’r awditoriwm. Mae’n cynnwys 5 rhes - A, B, C, D ac E. Mae’r nifer o seddi mewn rhes yn amrywio o 10 i 18.
Cofiwch mai ochr-olwg ar y llwyfan sydd o’r seddi hyn. - Rheng 8 (mynediad o ddrysau Lefel 5)
Mae’r adran yma o seddi uwchben y Stalau ar ochr dde’r awditoriwm a rhwng Rhengoedd 7 a 9. Mae’n cynnwys 6 rhes - A, B, C, D, E ac F. Mae’r nifer o seddi mewn rhes yn amrywio o 10 i 14. - Rheng 9 (mynediad o ddrysau Lefel 6)
Mae’r adran yma o seddi ar y lefel uchaf ar ochr dde’r awditoriwm.Mae’n cynnwys 6 rhes - A, B, C, D, E ac F. Mae’r nifer o seddi mewn rhes yn amrywio o 6 i 17. - Rheng 10 (mynediad o ddrysau Lefel 6)
Mae’r adran yma o seddi ar y lefel uchaf ar ochr dde’r awditoriwm ar ôl Rheng 9. Mae’n cynnwys 8 rhes - A, B, C, D, E, F, G ac H. Mae’r nifer o seddi mewn rhes yn amrywio o 10 i 15. - Rheng 11 (mynediad drwy ddrysau Lefel 5 – rhesi A-E; rhesi F-K mynediad drysau lefel 6)
Mae’r adran yma o seddi ar y lefel uchaf ac ar ganol yr awditoriwm.Mae ar ôl Rheng 10 ac uwchben Rheng 1. Mae’n cynnwys 10 rhes - A, B, C, D, E, F, G, H, I a J. Mae’r nifer o seddi mewn rhes yn amrywio o 15 i 17. - Rheng 12 (mynediad drwy ddrysau Lefel 6)
Mae’r adran yma o seddi ar y lefel uchaf ar ochr chwith yr awditoriwm ar ôl Rheng 11. Mae’n cynnwys 8 rhes - A, B, C, D, E, F, G ac H. Mae’r nifer o seddi mewn rhes yn amrywio o 10 i 15. - Rheng 13 (mynediad drwy ddrysau Lefel 6)
Mae’r adran yma o seddi ar y lefel uchaf ar ochr chwith yr awditoriwm ar ôl Rheng 12. Mae’n cynnwys 6 rhes - A, B, C, D, E, ac F. Mae’r nifer o seddi mewn rhes yn amrywio o 6 i 17.