Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

CWESTIYNAU CYFFREDIN

BLAEN Y TŶ

  • Ble mae Neuadd Dewi Sant?
    Rydym yng Nghanol Dinas Caerdydd.  Ein cyfeiriad yw Yr Aes, Caerdydd, CF10 1AH 
  • Beth yw capasiti Neuadd Dewi Sant?
    Yr uchafswm yw 1956, fodd bynnag, mae'n amrywio yn dibynnu ar y sioe/digwyddiad
  • Pa orsaf drenau sydd agosaf at Neuadd Dewi Sant?
    Mae dwy brif orsaf  - Gorsaf Caerdydd Canolog a Heol-y-Frenhines Caerdydd, ac mae’r ddwy tua phum munud o daith gerdded i ffwrdd.
  • Ble gallaf barcio?
    Mae maes parcio gyda 2.000 lle parcio ar ben Canolfan Dewi Sant 2 a maes parcio 550 lle o dan John Lewis.  Bydd allanfeydd i gerddwyr o’r ddau faes parcio yn mynd â chi yn uniongyrchol i’r Aes.   I gael rhagor o wybodaeth ewch i: http://www.stdavidscardiff.com | Amserau Agor Parcio Ceir.

    Yn ogystal mae
    parcio ar y stryd o gwmpas y Ganolfan Ddinesig sy’n costio £2 gyda'r nos rhwng 6-8pm.
  • Beth am barcio i bobl anabl?
    Ceir mannau parcio i bobl anabl ar Lefel P3 yng Nghanolfan Dewi Sant ac ym maes parcio John Lewis.Hefyd mae lleoedd cyfyngedig i bobl anabl ar Stryd y Cawl (ger Waterstones, Cotswold a Howells) sydd tua 100 metr o’r Neuadd.

    Gellir gollwng/codi cwsmeriaid anabl yn Stryd y Cawl.
  • Pa gyfleusterau sydd ar gael ar gyfer cwsmeriaid anabl yn y lleoliad?
    Os oes gennych unrhyw ofynion penodol o ran seddi, rhowch wybod i’r Swyddfa Docynnau wrth archebu.

    -
    Mae cyfleusterau i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn yn cynnwys lloriau gwastad, cyfleusterau tŷ bach (ar Lefelau 1, 2, 3, 4 a 5) a chownteri isel yn y Swyddfa Docynnau, yr Ystafell Gotiau a Bar Lefel 3.Gall defnyddwyr cadeiriau olwyn ac un person arall gadw seddi y tu cefn i’r seddau ar y llawr isaf am y pris tocyn isaf sydd ar gael, pan fônt ar gael, ar gyfer y perfformiad.Mae’n bosibl y bydd cwsmeriaid sydd ag anawsterau wrth gerdded yn gweld mai seddau’r llawr isaf sy’n cynnig y mynediad gorau.


    -  
    Mae gennym system dolen anwytho sy’n effeithio ar y seddau isaf yn unig a system isgoch sy'n effeithio ar haenau uchaf yr awditoriwm.Er mwyn defnyddio'r system isgoch (ac eithrio Haen 5) bydd angen i chi fenthyg clustffonau.Gellir defnyddio’r system isgoch gyda theclyn clyw a heb un. 
             
    Rhowch wybod i staff y Swyddfa Docynnau wrth archebu.

    - Mae'r wybodaeth am y digwyddiadau ar gael ar ffurf Braille ac mewn fformat print bras yn y ddesg ar lawr isaf y Neuadd, Llyfrgell Ganolog Caerdydd a Sefydliad Caerdydd i'r Deillion.Er mwyn derbyn eich copi ffoniwch yr Adran Farchnata ar 029 20878542.

    - Mae croeso i gŵn tywys.Rhowch wybod i'r Swyddfa Docynnau wrth archebu tocynnau         

  • Beth yw Hynt?
    Mae Hynt yn gynllun cenedlaethol sy’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau'r celfyddydau ar draws Gymru i wneud pethau’n glir ac yn gyson o ran polisi tocynnau teg a hygyrchedd.

    Mae gan ddeiliaid cardiau Hynt hawl ar docyn am ddim i gynorthwyydd personol neu ofalwyr yn Neuadd Dewi Sant a'r holl theatrau a chanolfannau celfyddydol sy'n cymryd rhan yn y cynllun.
    Ewch i www.hynt.co.uk  er mwyn dod o hyd i ystod o wybodaeth am y cynllun ac ymuno.

  • A oes gennych Stori Weledol ar gyfer y lleoliad?
    Mae Stori Weledol i'ch cynorthwyo ar eich ymweliad â Neuadd Dewi Sant.  Ei nod yw helpu i baratoi ymwelwyr ar gyfer profiad newydd ac fel eu bod yn dod yn gyfarwydd â’r amgylchoedd.Cliciwch ar hwn (pdf).  

    Yn ogystal, gallwch weld Neuadd Dewi Sant trwy fapiau rhyngweithiol Google.Cliciwch ar hwn (pdf).

  • Beth yw Lolfa Lefel 3?
    Mae ein Lolfa Lefel 3 yn lolfa braf ac anffurfiol sy’n cynnig profiad o agosatrwydd gyda cherddoriaeth a chomedi a bar croesawgar.  Edrychwch ar ein Rhestr ar gyfer lefel 3  ar y wefan a’r llyfryn. 

  • A ganiateir camerâu/offer recordio yn Neuadd Dewi Sant?
    Yn gyffredinol, gwaherddir yn llwyr wneud recordiadau a ffotograffiaeth, gyda fflach neu hebddo.  Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd rhai sioeau/cyngherddau penodol yn caniatáu hyn.  Ar adegau, mae’n bosibl y caniateir hyn. 

  • Ble mae’r peiriant codi arian agosaf?Mae nifer o beiriannau codi arian o gwmpas y Neuadd.  Y rhai agosaf yw: Cymdeithas Adeiladu Yorkshire, Banc Barclays, Halifax a Banc TSB ger Yr Aes.

  • Ydy’n bosibl cwrdd ag artistiaid?
    Mae’n bosibl cwrdd ag artistiaid os oes sesiwn Cyfarfod a Chyfarch wedi’i threfnu

  • Diogelwch a gwiriadau
    Yn achlysurol, ymgymerir â gwiriadau diogelwch er mwyn sicrhau diogelwch ein cwsmeriaid.  Dylai cwsmeriaid gyrraedd y ddau leoliad yn hen ddigon cynnar rhag ofn bod angen camau diogelwch ychwanegol.

  • A gaf i ddod â bwyd a diod i mewn i’r lleoliad?
    Yn anffodus, ni ellir mynd â bwyd a diodydd o’r tu allan i'r Neuadd i mewn i'r adeilad.  Mae gennym gyfleusterau bar gwych ar Lefelau 3 a 5 a lleolir bar Gin ffasiynol newydd - The Gin Lounge ar ypedwerydd llawr.

  • Beth yw’r gwahaniaeth rhwng amser agor y drysau a'r amser cychwyn?
    Amserau agor y drysau yw pan gaiff drysau’r awditoriwm eu hagor i ganiatáu i’r cwsmeriaid eistedd a'r amser cychwyn yw amser dechrau’r gyngerdd/digwyddiad a gadarnhawyd.

  • Â phwy y dylwn ni gysylltu ynglŷn ag eiddo coll?
    Ffoniwch 02920 878444 i siarad â’r Rheolwr Blaen y Tŷ sydd ar ddyletswydd.

  • A gaf i dalu gyda cherdyn Credyd/Debyd yn y lleoedd bwyd a diod?
    Cewch, croesewir cardiau credyd a debyd yn y lleoedd bwydydd a diodydd.

  • A chaniateir coetsis plant yn y lleoliad?
    Yn anffodus, ni chaniateir coetsis yn yr awditoriwm.  Fodd bynnag, mae ardal coetsis lle gallwch eu parcio ar gyfer sioeau plant.

  • Pwy sy’n darparu’r cymorth?
    Caiff Cymorth a gadarnheir ei hysbysebu ar y we ac ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

  • A oes unrhyw gyfyngiadau oedran?
    Yn achlysurol, bydd cyfyngiadau oedran oherwydd priodoldeb cynnwys y sioe.  Caiff hyn ei hysbysebu ar y wefan.

  • A gaf i wneud arwyddion er mwyn i fy hoff ganwr/artist sylwi arnaf?
    Yn anffodus, ni chaniateir arwyddion yn yr awditoriwm oherwydd y byddai hyn yn atal cwsmeriaid eraill rhag gweld.

  • Beth dylwn i ei wneud os wynebaf broblem ar adeg y digwyddiad?
    Os oes problem ar amser y digwyddiad, rhowch wybod i’r Rheolwr Blaen y Tŷ sydd ar ddyletswydd a fydd yn hapus eich helpu.

  • A fydd nwyddau’r sioe ar gael ac a oes modd defnyddio cerdyn credyd/debyd i dalu?
    Weithiau, bydd nwyddau’r ar gael i'w brynu yn y cyntedd cyn ac ar ôl y sioe.  Bydd y gallu i gymryd taliadau cardiau credyd/debyd yn ôl disgresiwn y darparwr sy’n gwerthu’r nwyddau.

  • Sut gallaf gael gwybod am hyd y sioeau?
    Fel arfer, caiff hyd sioeau ei hysbysebu ar dudalen glanio'r digwyddiad bythefnos cyn y sioe os yw ar gael.

  • Am faint o’r gloch dylwn i gyrraedd?
    Dylech gyrraedd o leiaf 30 munud cyn amser dechrau’r digwyddiad oherwydd y byddai hyn yn gadael digon o amser i chi gasglu eich tocynnau yn y Swyddfa Docynnau (os dewisoch y dull dosbarthu hwn), cliriad diogelwch, defnyddio’r tai bach a nôl lluniaeth o’r bar.  Agorir y barrau 1.5 awr cyn amser dechrau’r perfformiad.

  • Beth yw eich polisi ar gyfer cyrraedd yn hwyr?
    Er mwyn osgoi aflonyddu, gellir derbyn pobl a ddaw'n hwyr i'r awditoriwm pan fydd saib priodol yn y perfformiad yn unig.  Hefyd gellir gweld y perfformiad trwy deledu cylch cyfyng ar Lefelau 3 a 5. 

BWYD A DIOD

  • A oes gennych farrau a phryd maent ar agor?
    Lleolir ein cyfleusterau bar ar Lefelau 3 a 5 sy'n gweini diodydd alcoholig a di-alcohol yn ogystal â byrbrydau.  Hefyd rydym wedi agor bar Gin newydd ffasiynol o’r enw The Gin Lounge a leolir ar y pedwerydd llawr ac mae’n gweini dewis o dros 30 math o gin, gwirodydd o safon, coctels a siampaen.    Yn ogystal, rydym yn cynnig gwinoedd blasus, rhagor o gwrw crefft a dewis bendigedig o ddiodydd ysgafn.

    Agorir y barrau 1.5 awr cyn amser dechrau’r perfformiad.

  • Ydy’r barrau’n cymryd archebion ar gyfer diodydd yn ystod yr egwyl ac a allaf dalu gyda cherdyn? Oes, yn gyffredinol ar gyfer rhan fwyaf y perfformiadau ond dim i gyd, e.e. os oes cyfnod byr iawn rhwng y dechrau a’r egwyl.

  • A gaf i ddod â’m diodydd alcoholig fy hun?
    Yn anffodus, ni all cwsmeriaid ddod â’u diodydd alcoholig eu hunain i mewn.  Mae gennym gyfleusterau bar gwych ar Lefelau 3 a 5 sy'n gweini diodydd alcoholig a di-alcohol yn ogystal â byrbrydau.  Hefyd rydym wedi agor bar Gin newydd ffasiynol o’r enw The Gin Lounge a leolir ar y pedwerydd llawr ac mae’n gweini dewis o dros 30 math o gin, gwirodydd o safon, coctels a siampaen.    Yn ogystal, rydym yn cynnig gwinoedd blasus, rhagor o gwrw crefft a dewis bendigedig o ddiodydd ysgafn. 

  • Ble gallaf gael rhywbeth ysgafn i’w fwyta?
    Mae tapas ar gael ar gyfer sioeau penodol.  Gadwch olwg am yr arwydd  yn y llyfryn ac ar y we.

SWYDDFA DOCYNNAU A THOCYNNAU

  • A allaf archebu tocynnau dros y ffôn ac ar-lein?
    Gellir archebu tocynnau dros y ffôn.  Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau ar 07391 791934.
    Gellir prynu tocynnau ar-lein trwy http://www.stdavidshallcardiff.co.uk/

  • Nid yw fy nhocynnau wedi cyrraedd.  Beth gallaf ei wneud?
    Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07391 791934.

  • Pryd fyddai’n derbyn fy nhocynnau?
    Byddwch yn derbyn eich tocynnau 10 diwrnod cyn y digwyddiad os dewisoch eu cael drwy’r post.

  • Rwyf wedi colli fy nhocynnau.  Beth gallaf ei wneud?
    Os digwydd bod angen copïau dyblyg o'r tocynnau, bydd tâl o £2.50 y tocyn am y gwasanaeth hwn.

  • Rwyf wedi archebu trwy asiantau allanol ac nid wyf wedi derbyn fy nhocynnau, beth dylwn ei wneud?
    Cysylltwch â’r asiant allanol rydych wedi prynu’r tocynnau ganddo. 

  • Mae’r sioe rwyf am ei gweld wedi gwerthu allan, sut gallaf gael tocynnau?
    Cysylltwch â'r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444 yn nas at amser y digwyddiad i holi a oes tocynnau wedi eu dychwelyd neu ragor wedi eu rhyddhau.Os caiff seddau ychwanegol eu rhyddhau, cânt eu cyhoeddi trwy’r cyfryngau cymdeithasol ac ar ein gwefan.

  • A oes rhaid i mi dalu am bostio fy nhocynnau?
    Mae tâl £1 opsiynol er mwyn postio tocynnau atoch. (Sylwch, dim ond i gyfeiriadau yn y DU trwy Bost Safonol yn unig y gwneir hyn).  Fel arall, gallwch gasglu eich tocynnau ar amser y digwyddiad neu cyn hynny yn y Swyddfa Docynnau.   Rhowch ddigon o amser ar gyfer y gwasanaeth hwn oherwydd ei fod yn brysur yn union cyn i’r digwyddiad ddechrau.

  • Ydych chi’n gwerthu tocynnau rhodd?
    Mae’r cynllun tocyn rhodd wedi’i ddisodli gan Docynnau Theatr.Tocynnau rhodd cenedlaethol y gellir eu defnyddio mewn mwy na 240 o leoliadau gan gynnwys y Theatr Newydd, a holl theatrau West End Llundain ydy Tocynnau Theatr.

    Gallwch eu defnyddio ar gyfer pob math o gynhyrchiad - sioeau cerdd poblogaidd, y dramâu gorau, operâu, pantomeimiau, bale clasurol - chi piau'r dewis.  I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 07391 791934.

  • Beth fydd yn digwydd os caiff sioe ei chanslo?
    Os digwydd bod perfformiad yn cael ei ganslo mae’n rhaid dychwelyd tocynnau i’r pwynt prynu (e.e. os cawsant eu prynu trwy un o’n hasiantau tocynnau cydnabyddedig, dylid dychwelyd y tocynnau’n uniongyrchol atynt).

  • Beth fydd yn digwydd os caiff sioe ei gohirio?
    Weithiau, mae’n bosibl y caiff sioe ei gohirio oherwydd amgylchiadau nas rhagwelwyd.  Os digwydd hyn, byddwn yn ysgrifennu at y rhai a archebodd ac yn rhoi gwybod iddynt am y sefyllfa a’r dyddiad newydd.  Nid oes angen dychwelyd y tocyn ond dylech gadw gafael ar y tocynnau presennol i’w defnyddio ar gyfer y dyddiad newydd. 

  • Beth Yw Diogelwch Ad-dalu TicketPlan?
    MaeDiogelwch Ad-dalu TicketPlan ar gael ar gyfer eich archeb am £1.85 y tocyn. Rydym yn argymell yn daer eich bod yn cynnwys y dewis yma. Nid yw eich tocynnau’n ad-daladwy a bydd hyn yn eich diogelu rhag canslo oherwydd damweiniau a salwch annisgwyl. Mae’r manylion llawn yn Amodau a Thelerau TicketPlan, rydym yn eich cynghori i’w darllen a’u cadw. 

  • Sut mae gofyn am ad-daliad ar ôl codi Diogelwch Ad-dalu TicketPlan?
    Rhaid i chi naill fynd i www.ticketplangroup.com/refund-application-form a llenwi ffurflen gais ad-dalu ar lein neu sgrifennu at: TicketPlan Administration Service, Leigh House, Broadway West, Leigh on Sea, Essex, SS9 2DD i ofyn am ffurflen gais ad-dalu cyn gynted ag y bo modd o fewn rheswm ar ôl gwybod am yr amgylchiadau allai beri i chi ofyn am ad-daliad

  • Pa na allaf gael ateb ar y ffôn?
    Yn achlysurol, byddwn yn cael adegau gwerthu prysur pan fydd sioeau newydd yn cael eu rhoi ar werth.  Yn ystod yr adegau hyn, mae cynorthwywyr yn y Swyddfa Docynnau yn brysur wrth brosesu trafodion, fodd bynnag, byddwn yn cyflogi staff ychwanegol er mwyn ymdopi â’r galw. 

  • A gaf i gadw tocynnau a thalu nes ymlaen?
    Gallwn gadw tocynnau am dridiau yn unig

  • I ble dylwn fynd i gasglu tocynnau a archebais?
    Gallwch gasglu eich tocynnau a brynoch ar-lein amser y digwyddiad neu cyn hynny yn y Swyddfa Docynnau.   Rhowch ddigon o amser ar gyfer y gwasanaeth hwn oherwydd ei fod yn brysur yn union cyn i’r digwyddiad ddechrau.

  • Beth yw eich consesiynau?
    Mae’r consensiynau canlynol yn gymwys os nodir yn y panel prisiau bod gostyngiadau ar gael: Cyfeillion Neuadd Dewi Sant, plant dan 16 oed, myfyrwyr, pobl dros 60 oed, pobl sy’n hawlio budd-daliadau a phobl anabl (ac un cydymaith) a’r rhai heb gyflog.  Bydd un gostyngiad yn unig yn gymwys i bob tocyn ac mae gofyn am brawf o bwy ydych chi.  Dywedwch pa ostyngiad rydych yn ei hawlio adeg archebu.

    Gall defnyddwyr cadeiriau olwyn (ac un person arall) brynu'r seddau isaf ar y pris tocynnau isaf ar gyfer sioeau sy'n dangos y gostyngiad hwn.  Mae lleoedd i gadeiriau olwyn yn gyfyngedig, a dylid eu harchebu trwy'r Swyddfa Docynnau, nid ar-lein, er mwyn sicrhau bodloni anghenion penodol cwsmeriaid. 

    Tocynnau i Fyfyrwyr
    Mae tocynnau £5 hefyd ar gael ar gyfer cyngherddau yng Nghyfres Cyngherddau Rhyngwladol Neuadd Dewi Sant hyd at 6.30pm ar ddiwrnod y perfformiad.  Mae’n rhaid casglu tocynnau a chânt eu rhoi pan ddangoswch gerdyn adnabod myfyriwr dilys.

    Grwpiau  Rydym yn croesawu partïon o bob maint ac yn cynnig gostyngiadau i grwpiau o 10 neu fwy.   Ffoniwch y Llinell Gymorth i Grwpiau  pwrpasol ar 07391 791934.

    Mae Tocynnau teulu ar gael ar gyfer digwyddiadau penodol ble y dangosir hynny.Gwiriwch gyda'r Swyddfa Docynnau wrth archebu.

    *Mae’n bosibl na fydd y gostyngiad hwn yn gymwys ar gyfer rhai perfformiadau penodol.

  • Sylwch ar ein Polisi o ran Ad-daliadau, Cyfnewid a Thocynnau Dyblyg

    Mae Neuadd Dewi Sant yn gwerthfawrogi ymrwymiad ei chwsmeriaid yn archebu’n gynnar ac yn cydnabod y bydd argyfyngau weithiau’n atal presenoldeb.  Gellir cyfnewid tocynnau am unrhyw ddigwyddiad am yr un pris neu’n uwch (wrth dalu’r gwahaniaeth).Nid yw’r opsiwn i gyfenwid ar gael ar gyfer cyngherddau sydd wedi gwerthu allan.  Os yw’r digwyddiad yn digwydd o fewn tymor penodol (e.e.Proms, Bale, ayyb.), cynigir tocynnau a gyfnewidir o fewn yr un tymor.  Mae’n rhaid derbyn tocynnau yn y Swyddfa Docynnau heb fod yn hwyrach na 48 awr cyn y perfformiad gwreiddiol.  Codir tâl o £2 fesul tocyn am y gwasanaeth hwn.  (Yn anffodus, ni ellir cyfenwid tocynnau a brynwyd trwy Ganolfan Gofal Cwsmeriaid y BBC neu asiantaethau allanol neu eu hailwerthu yn Neuadd Dewi Sant).

    Fel arall, caiff tocynnau eu derbyn i’w hailwerthu dim ond trwy'r ddealltwriaeth y caiff tocynnau Neuadd Dewi Sant eu gwerthu yn gyntaf ac ni ellir gwarantu ailwerthu.  Ni allwn ailwerthu tocynnau oni bai y caiff y rhai gwreiddiol eu dychwelyd i’r Swyddfa Docynnau 48 awr cyn dechrau’r perfformiad.  Caiff 20% o werth unrhyw ailwerthu ei gadw

    Heblaw am y ddau wasanaeth hyn neu ganslo perfformiad, ni chaiff arian ei ad-dalu wedi prynu’r tocynnau.

    Os digwydd bod angen copïau dyblyg o'r tocynnau, bydd tâl o £2.50 y tocyn am y gwasanaeth hwn.

Ymuno â'r rhestr bostio