Gwirfoddolwr
Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli?
Ydych chi am fagu profiad mewn rôl sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid?
Oes gennych chi amser rhydd i ddod yn Wirfoddolwr Blaen y Tŷ?
Mae cyfle i bobl sydd wrth eu bodd â byd y theatr a cherddoriaeth gael blas ar waith yn y maes drwy gynllun newydd sy'n annog gwirfoddolwyr i chwarae rhan weithredol ym myd y celfyddydau yng Nghaerdydd.
Mae Neuadd Dewi Sant a'r Theatr Newydd wedi lansio Cynllun newydd i Wirfoddolwyr Blaen y Tŷ ac maen nhw'n chwilio am 50 o wirfoddolwyr!
Gofynnir i bawb sy'n cymryd rhan gytuno i wirfoddoli am o leiaf chwe mis, gan weithio 3-5 o shifftiau bob mis yn Neuadd Dewi Sant.
Yn gyfnewid, byddant yn cael eu hyfforddi fel gwirfoddolwyr blaen y tŷ, gan eu galluogi i fagu profiad o wasanaethau cwsmeriaid ac iechyd a diogelwch, a chael cyfle i fanteisio ar gynigion a thocynnau arbennig hefyd. Gan fod perfformiadau hwyr yn y ddau leoliad, gofynnir i wirfoddolwyr fod dros 18 oed.
Mae pecynnau ymgeisio a rhagor o wybodaeth ar gael i'w lawrlwytho nawr. Cliciwch yma