Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Sut i Archebu

Oriau Agor y Swyddfa Docynnau

02920 878444

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod ein Swyddfa Docynnau ar agor i’r cyhoedd nawr. 

Mae Neuadd St David bellach ar agor i'r cyhoedd. Cofiwch fwrw golwg ar y wefan o bryd i’w gilydd i weld y Mesurau Diogelwch Covid-19 diweddaraf 

_____________________________________________________

ORIAU AGOR DROS Y FFÔN
Llun - Gwener   9.00am - 5.00pm
Sadwrn / Sul- AR GAU

Dros y ffôn

Bydd llinellau ffôn yn cau 25 munud ar ôl dechrau perfformiad a phan nad oes perfformiad, 5 munud cyn  amser cau.

Gellir archebu tocynnau drwy ffonio 02920 878444. Caiff eich galwad ei hateb cyn gynted ag y bo staff ar gael.

Gellir talu â cherdyn credyd neu ddebyd (mae'n bosibl y codir ffioedd ychwanegol am hynny). Rydym yn derbyn Mastercard, Visa a Delta.  Nodwch fod ffi bostio £2.00 ddewisol i ddanfon tocynnau atoch (Post Safonol i gyfeiriadu yn y DU yn unig).

Caiff archebion eu cadw am 3 diwrnod gwaith wrth aros am eich taliad, fodd bynnag, nid yw'r cyfleuster hwn ar gael o fewn 48 i'r perfformiad.

Ar-lein

Gallwch archebu ar-lein a dewis eich sedd eich hun 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos gyda'n swyddfa docynnau ar-lein diogel.

Noder* RHAID CASGLU TOCYNNAU O LEIAF 30 MUNUD CYN DECHRAU'R PERFFORMIAD

Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dod o hyd i'r sioe yr hoffech ei weld o'r rhestr, clicio ar y botwm ‘Book Online' a dilyn y camau. Anfonir e-bost atoch i gadarnhau ein bod wedi cael a chadarnhau eich cais am docyn.

Ffi postio

Codir ffi postio ddewisol o £2.00 (Post Safonol) i bostio’r tocynnau atoch chi. 

Defnyddwyr Cadair Olwyn

Mae safleoedd ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn yn gyfyngedig felly ni ellir eu harchebu ar-lein. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau ar 02920 878444 a bydd aelod o'r tîm yn gallu eich helpu gyda'ch archeb.

Rhestr Aros

Bellach mae gennym restr aros ar waith ar bob sioe. Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444 i ychwanegu eich manylion at y rhestr.. Mae cael eich ychwanegu at y rhestr aros yn rhad ac am ddim ac os llwyddwch i gael tocynnau bydd tâl gweinyddu o £2.50 y tocyn. Os ydi pob tocyn wedi’i werthu i ddigwyddiad, fe allem ryddhau seddi dros ben. Cyhoeddir y rhain drwy’r cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan.

Asiantaethau allanol

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch eich tocynnau a godwyd drwy asiantaethau allanol, cysylltwch â nhw’n uniongyrchol.

Sioeau wedi'u canslo neu eu gohirio

Os caiff perfformiadau eu canslo, byddwn yn dweud wrth y cyngherddwyr am gysylltu â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444 i brosesu eu had-daliadau.  Nid ydym bellach yn prosesu ad-daliadau’n ddiofyn.  

Weithiau, mae’n bosibl y caiff sioe ei gohirio oherwydd amgylchiadau nas rhagwelwyd.  Os digwydd hyn, byddwn yn ysgrifennu at y rhai a archebodd ac yn rhoi gwybod iddynt am y sefyllfa a’r dyddiad newydd.  Nid oes angen dychwelyd y tocyn ond dylech gadw gafael ar y tocynnau presennol i’w defnyddio ar gyfer y dyddiad newydd. 

Cynllun Gwarchod Ad-daliadau TicketPlan logo

Mae diogelwch ad-dalu TicketPlan ar gael i’ch archeb am £2.35 y tocyn.Rydym yn argymell yn daer eich bod yn cynnwys y dewis yma. Nid yw eich tocynnau’n ad-daladwy a bydd hyn yn eich gwarchod rhag canslo o ganlyniad i ddamweiniau a chlefydau annisgwyl.Mae manylion llawn yn Amodau a Thelerau TicketPlan, rydym yn eich cynghori i’w darllen a’u cadw. 

I ofyn am ad-daliad ar ôl i chi brynu Diogelwch Ad-dalu TicketPlan, rhaid i chi naill ai fynd i TicketPlan Group a llenwi ffurflen gais ad-dalu ar lein neu sgrifennu at: TicketPlan Administration Service, Leigh House, Broadway West, Leigh on Sea, Essex, SS9 2DD er mwyn gofyn am ffurflen gais ad-dalu cyn gynted ag sy’n rhesymol bosib ar ôl i chi ddod i wybod am amgylchiadau allai beri i chi ofyn am ad-daliad.

Sylwch, nid oes modd ad-dalu cost sicrwydd ad-daliad TicketPlan.

Ad-daliadau, Cyfnewidiadau a Dyblygiadau

Mae Neuadd Dewi Sant yn gwerthfawrogi ymrwymiad ei chwsmeriaid yn archebu’n gynnar ac yn cydnabod y bydd argyfyngau weithiau’n atal presenoldeb.  Gellir cyfnewid tocynnau am unrhyw ddigwyddiad am yr un pris neu’n uwch (wrth dalu’r gwahaniaeth). Nid yw’r opsiwn i gyfenwid ar gael ar gyfer cyngherddau sydd wedi gwerthu allan.  Os yw’r digwyddiad yn digwydd o fewn tymor penodol (e.e.Proms, Bale, ayyb.), cynigir tocynnau a gyfnewidir o fewn yr un tymor.  Mae’n rhaid derbyn tocynnau yn y Swyddfa Docynnau heb fod yn hwyrach na 48 awr cyn y perfformiad gwreiddiol.  Codir tâl o £2 fesul tocyn am y gwasanaeth hwn.  (Yn anffodus, ni ellir cyfenwid tocynnau a brynwyd trwy Ganolfan Gofal Cwsmeriaid y BBC neu asiantaethau allanol neu eu hailwerthu yn Neuadd Dewi Sant).

Fel arall, caiff tocynnau eu derbyn i’w hailwerthu dim ond trwy'r ddealltwriaeth y caiff tocynnau Neuadd Dewi Sant eu gwerthu yn gyntaf ac ni ellir gwarantu ailwerthu.  Ni allwn ailwerthu tocynnau oni bai y caiff y rhai gwreiddiol eu dychwelyd i’r Swyddfa Docynnau 48 awr cyn dechrau’r perfformiad.  Caiff 20% o werth unrhyw ailwerthu ei gadw

Heblaw am y ddau wasanaeth hyn neu ganslo perfformiad, ni chaiff arian ei ad-dalu wedi prynu’r tocynnau.

Os digwydd bod angen copïau dyblyg o'r tocynnau, bydd tâl o £2.50 y tocyn am y gwasanaeth hwn.

Cysylltwch â Ni

Swyddfa Docynnau
02920 878444

Neuadd Dewi Sant
Yr Aes
Caerdydd
CF10 1AH

Cwestiynau Mynych 

Beth os caiff fy sioe ei chanslo? 

Lle bynnag y bo modd rydym yn gwneud ein gorau glas i ad-drefnu sioeau er mwyn peidio â’ch siomi a chithau wedi codi tocynnau i sioeau ac yn edrych ymlaen atyn nhw. Lle na bo modd gwneud hyn a sioe yn cael ei chanslo, wrth reswm rhoddir ad-daliad llawn gwerth eich tocyn i chi. Dydi cynllun diogelu TicketPlan ddim yn ad-daladwy.

Rhowch ganiad i 02920 878444 i drefnu’r ad-daliad ac anfon eich tocynnau’n ôl i’r Neuadd i: Swyddfa Docynnau, Neuadd Dewi Sant, Yr Aes, Caerdydd, CF10 1AH. Os codoch docynnau drwy asiantaeth docynnau (e.e. Ticketmaster, Seetickets), fe gysylltan nhw â chi ynghylch ad-daliad. 

Beth os caiff fy sioe ei gohirio? 

Os caiff sioe ei gohirio, bydd y tocynnau sydd gennych sy’n dangos yr hen ddyddiad yn dal i fod yn ddilys ar gyfer y dyddiad newydd. Fodd bynnag, bydd gofyn i chi gysylltu â’r asiantaeth docynnau benodol os na thaloch yn uniongyrchol drwy’r Neuadd (e.e. Ticketmaster, Seetickets). 

Ymhle caf i’r newydd diweddaraf ynghylch canslo sioeau a dyddiadau newydd? 

Cofiwch gadw llygad ar ein gwefan (www.stdavidshallcardiff.co.uk) a’r cyfryngau cymdeithasol i weld y newydd diweddaraf ynghylch canslo neu ddyddiadau newydd unrhyw sioeau.I gael newyddion rheolaidd, ymunwch â’n rhestr bost drwy dudalen flaen ein gwefan, a’n dilyn ni ar Facebook, Twitter ac Instagram.Byddwn yn ebostio neu’n sgrifennu at bawb sydd wedi codi tocynnau os oes yna unrhyw newidiadau mewn rhaglenni sioeau. 

Byddwn wrth fy modd yn cefnogi Neuadd Dewi Sant.  Sut gallaf fod o gymorth?

Mae hyn yn adeg anodd iawn i ddiwydiant y celfyddydau.Rydym yn mawr edrych ymlaen at eich croesawu chi’n ôl i’r Neuadd unwaith y bydd hynny’n ddiiogel. Y gefnogaeth dan gamp rydym yn dal i’w chael gan ein cyngherddwyr triw ydi gwaed einioes yr oedfan ac mae’n hollbwysig o ran ymorol ein bod yn gallu cynnig i chi’r un dewis eang ac amrywiol o ddifyrrwch, ar yr un pryd â’n gwaith cymuned y mae meddwl mawr ohono, unwaith y bydd hi’n ddiogel i ni ailagor.  Tybed fyddech chi’n ystyried rhoi rhan o gostau eich tocynnau, neu’r cyfan, os canslwyd eich sioe neu os ydych chi’n methu dod ar y dyddiad newydd?

Byddai unrhyw roddion yn werth y byd i ni a byddai pawb yn Neuadd Dewi Sant yn eu mawr werthfawrogi.

Ymuno â'r rhestr bostio