Stori Weledol Neuadd Dewi Sant
STORI WELEDOL
Stori Weledol yw hon i'ch cynorthwyo ar eich ymweliad â
Neuadd Dewi Sant. Ei nod yw helpu i baratoi ymwelwyr ar gyfer
profiad newydd ac fel eu bod yn fwy cyfarwydd â’r
hyn sydd o’u cwmpas.
Croeso i Neuadd Dewi Sant lle byddwch yn dod i weld a
gwrando ar gyngerdd.
Prif Fynedfa
- Lleolir Neuadd Dewi Sant yng nghanol dinas Caerdydd.
- Mae 2 – 5 gris i fewn i’r adeilad (gan ddibynnu ar ba ddrws y
defnyddiwch). - Mae mynedfa i’r anabl nesa at y prif ddrysau mynediad.
- Pan gerddwch drwy’r prif ddrysau byddwch ar y llawr gwaelod.
Llawr Gwaelod
- Ar y Llawr Gwaelod mae ein Swyddfa Docynnau.
- Os nad yw’ch tocynnau gennych yn barod, bydd angen i chi eu casglu pan gyrhaeddwch.
- Gall y Swyddfa Docynnau fod yn brysur, a gall fod ciw o bobl yn aros i godi tocynnau.
- Hefyd, mae yna lifft, grisiau a grisiau symudol i fynd â chi i’r lloriau uwch.
- Gall fod yn brysur pan fo pawb yn cyrraedd a gadael y gyngerdd.
- Mae gan Neuadd Dewi Sant un lifft ar gyfer ymwelwyr. Bydd yn codi i’r lloriau sydd y tu mewn i’r adeilad, fel arfer Lefelau 2,3,4 a 5.
- Mae’r lifft ar y llawr gwaelod gerllaw’r Swyddfa Docynnau.
- Mae drychau y tu mewn i’r lifft.
- Mae 2 risiau symudol ar y llawr gwaelod, a 2 arall o lefel 1 i lefel 2.
- Pan fo pobl yn cyrraedd ac angen mynd i fyny’r grisiau i’r gyngerdd bydd y grisiau symudol yn symud i fyny. Ar ddiwedd y cyngerdd, pan fo pawb yn awyddus i adael yr adeilad bydd y grisiau symudol yn symud am i lawr.
Lefel 2
- Ceir grisiau arferol yng nghefn y cyntedd ar y llawr gwaelod. Mae rhywfaint o risiau ac yna platfform sy’n parhau at 21 o risiau sy’n arwain at ben grisiau Lefel 1.
- Mae set arall o risiau yn parhau at Lefel 2.
- Pan ewch i fyny i Lefel 2 fe welwch ffotograffau o sioeau a chyngherddau eraill sydd wedi bod yn Neuadd Dewi Sant.
- Mae yna siop losin ar Lefel 2 yn agos i waelod y grisiau. Gallwch brynu losin, hufen iâ a diodydd meddal yno.
- Dyma’r grisiau i fyny at Lefel 3.
- Gall pobl fynd i fyny neu i lawr dwy ochr y grisiau yr un pryd.
Lefel 3

- Mae yna ardal lwyfan fechan ar un pen o’r cyntedd â ffenestr liw fawr yn gefn iddi.
- Mae bar yn rhedeg ar hyd ochr y cyntedd (ar yr ochr dde wrth i chi ddod i fyny’r grisiau).
- Wrth y bar gallwch brynu diodydd a byrbrydau.
- Gall yr ardal yma fod yn brysur ac efallai y bydd ciw o bobl wrth y bar yn prynu diodydd a byrbrydau i’w cael cyn ac wedi’r cyngerdd. Efallai y clywch sŵn y peiriant coffi hefyd.
- Dyma’r grisiau i fyny at Lefel 4.
- Gall pobl fynd i fyny neu i lawr dwy ochr y grisiau yr un pryd.
Mynedfa i’r Awditoriwm—Lefel 3 (Drws A a Drws B)
- Dyma’r drysau i fynd drwyddynt i’r prif awditoriwm i wylio’r cyngerdd.
- Bydd staff y perfformiad yno i’ch helpu chi.
- Efallai wnewn nhw ofyn i gael gweld eich tocyn fel y gallan nhw eich hebrwng chi i’ch sedd.
Y Lolfa Jin—Lefel 4

- Wrth y bar gallwch brynu diodydd a byrbrydau.
- Gall yr ardal yma fod yn brysur ac efallai y bydd ciw o bobl wrth y bar yn prynu diodydd a byrbrydau i’w cael cyn ac wedi’r cyngerdd. Efallai y clywch sŵn y peiriant coffi hefyd.
-
Dydy’r Lolfa Jin ddim bob amser ar agor yn y pnawn, ond bydd ar agor i gyngherddau gyda’r nos.
Lefel 5
- Dyma’r grisiau i fyny at Lefel 5.
- Gall pobl fynd i fyny neu i lawr dwy ochr y grisiau yr un pryd.
- Wrth y bar gallwch brynu diodydd a byrbrydau.
- Gall yr ardal yma fod yn brysur ac efallai y bydd ciw o bobl wrth y bar yn prynu diodydd a byrbrydau i’w cael cyn ac wedi’r cyngerdd. Efallai y clywch sŵn y peiriant coffi hefyd.
- Dyma’r patrwm sydd i’w weld ar garped y cyntedd drwy’r adeilad cyfan.
Cwrdd â’r Staff...
- Bydd staff y Swyddfa Docynnau yn gwisgo topiau pinc neu ddu.
- Bydd staff arlwyo gwrywaidd a benywaidd yn gwisgo crysau duon.
- Staff Blaen y Tŷ (awditoriwm, ystafell gotiau a’r siop losin) – bydd y merched yn gwisgo coch a du, a’r dynion yn gwisgo crys gwyn a thei goch.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Mae sgrîn deledu wedi ei osod ar y wal ar Lefelau 2, 3 a 5 a fydd yn dangos yr hyn sy'n digwydd ar y llwyfan.
- Caniateir cŵn tywys yn yr awditoriwm – rhowch wybod i ni wrth archebu tocynnau fel y gallwn wneud trefniadau.
- Mae system glywed is-goch yn yr awditoriwm ac mae modd ei defnyddio gyda neu heb gymorth clyw.
- Mae tai bach hygyrch wedi eu lleoli ar Lefelau 2,3,4, a 5. Mae cyfleusterau cymorth cyntaf a newid cewynnau babis ar gael ar Lefel 2. Am fwy o wybodaeth fanwl am y cyfleusterau sydd ar gael
cysylltwch â Joanne John. - Mae tai bach cyffredin i Ferched a Dynion ar lefelau 2,3 a 5.
Awditoriwm
- Gelwir y brif neuadd yn Awditoriwm Dyma lle byddwch yn gwylio’r cyngerdd.
- Byddwch yn gallu mynd i’r awditoriwm awr cyn dechrau’r gyngerdd.
- Y llwyfan yw ble bydd y gerddorfa yn perfformio. Mae yn y blaen ac yn uwch fel y gallwch weld popeth.
- Ar gyfer rhai cyngherddau bydd gan y llwyfan llawr ddu, a brethyn du mawr o flaen y seddau nad ydynt yn cael eu defnyddio yn y cefn.
- Bydd eich sedd yn edrych fel hyn.
Gobeithio y byddwch yn mwynhau eich ymweliad.
Os hoffech fwy o wybodaeth neu gymorth cysylltwch â ni ar Gareth Griffiths neu ffoniwch 02920 878473.