Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Canllawiau ar Gyfer Rigwyr Cwmni Allanol

  • Pan ydych yn cyrraedd prif neuadd Neuadd Dewi Sant, rhowch wybod pwy ydych chi i aelod o Adran Dechnegol y Llwyfan.
  • Os oes gennych ddogfennaeth (NRC, Yswiriant Atebolrwydd a.y.b.), os gwelwch yn dda, sicrhewch fod y ddogfennaeth hon ar gael i'w harchwilio ar gais. Os nad yw’r ddogfennaeth ar gael, bydd Neuadd Dewi Sant yn cadw’r hawl i wrthod mynediad i’r gofod yn y to.
  • Sicrhewch eich bod yn gwisgo'r Cyfarpar Diogelu Personol cywir pan fo angen.
  • Nid oes modd mynd i ofod to Neuadd Dewi Sant ond trwy ganiatâd aelod o Adran Dechnegol y Llwyfan. Rhoddir cod mynediad drws cywir i chi ar gais.
  • Rhowch wybod i bob gweithiwr sydd ar y llwyfan pan ydych yn mynd i’r to neu’n dod oddi yno. Bydd staff Adran Dechnegol y Llwyfan yn creu ardal het galed islaw ac yn sicrhau y gwisgir y Cyfarpar Diogelu Personol angenrheidiol.
  • Peidiwch â dal drws mynediad i’r to ar agor.
  • Cyn dringo’r ysgol olaf, gwagiwch yr holl eitemau nad oes eu hangen arnoch i’r blwch wal a ddarperir. Dylech wagio pob poced a thynnu eitemau rhydd (ffonau symudol, beiros, arian a.y.b.) ohonynt.
  • Mae’n rhaid i chi gynnau goleuadau gweithio’r gofod to wrth fynd yno a’u diffodd wrth adael. Cyfrifoldeb y rigiwr allanol yw sicrhau hyn, oherwydd bod gwneud
  • Dylech rigio o ddistiau sydd wedi eu marcio a’u sgorio yn amlwg yn unig. Mae Neuadd Dewi Sant yn cadw'r hawl i ofyn am ail-rigio rhannau os nad ydynt yn cydymffurfio â'r amod hon.
  • Mae staff Technegol y Llwyfan yn cadw’r disgresiwn terfynol ar unrhyw waith rigio y mae rigiwr allanol yn ei wneud. Os ydynt yn anfodlon ar unrhyw agwedd ar y gwaith, bydd ganddynt yr hawl i ofyn am gael cwblhau'r gwaith at safon foddhaol.
  • Mae’n rhaid i bob pwynt fod wedi ei atgyfnerthu, oni bai fod y ffin ddiogelwch yn dangos nad yw hyn yn angenrheidiol. Mae gan Adran Dechnegol y Llwyfan ddisgresiwn ynghylch pob penderfyniad terfynol ynghylch ceblau diogelwch.
  • Mae’n rhaid gosod ceblau diogelwch yn sownd yn y trawst tra mae ar y llawr ac yna ei dynnu i fyny i’r to pan fydd y trawst yn ei leoliad cywir. Ni chaniateir gosod y cebl diogelwch yn sownd yn y trawst os yw hwnnw yn yr awyr.
  • Mae’n RHAID gwisgo harnais corff â sgôr ddiogelwch gywir wrth ddringo'r trawstiau. Mae’n rhaid i o leiaf un pwynt gysylltu’r trawst â'r harnais corff ar bob adeg.
  • Ni ddylid gosod y ceblau diogelwch ond pan fydd y gwaith trawstiau wedi ei gwblhau (cerdded y trawst, ffocysu a.y.b). Mae ein polisi achub yn dibynnu ar y gallu i hedfan i mewn o unrhyw bwynt petai rigiwr sy’n dringo yn syrthio oddi ar drawst. Mae gosod llinellau diogelwch cyn gwneud y gwaith ar drawstiau yn torri amodau ein Polisi Achub ac felly ni cheir gwneud hynny.
  • Pan fo’r perfformiad wedi dod i ben, ni chaniateir mynd i'r gofod yn y to ond pan fydd y neuadd yn wag. Ni ddylid tynnu’r ceblau diogelwch tan fydd y neuadd yn wag.
  • Adrannau Technegol y Llwyfan fydd yn gwneud y penderfyniadau olaf ynghylch rigio, ymarferion rigio neu Iechyd a Diogelwch. Os ceir bod unrhyw rigio’n anfoddhaol, anniogel neu â risg uchel, mae hawl ganddynt i ofyn am gael ail-rigio neu, mewn achosion eithafol, ohirio’r perfformiad tan fydd y sefyllfa wedi ei chywiro.
  • Eir i’r afael ag unrhyw enghraifft o ymddygiad anniogel, diffyg ymwybyddiaeth Iechyd a Diogelwch, camddefnyddio cyffuriau neu alcohol neu anallu i gyflawni’r tasgau rigio yn unol â dymuniadau Neuadd Dewi Sant, a gallai hyn arwain at wrthod mynediad i aelodau'r cwmni allanol i'r gofod to neu ofyn iddynt adael yr adeilad yn gyfan gwbl.

Diweddarwyd Ionawr 2017

Ymuno â'r rhestr bostio