Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Noson yng Nghwmni Adrian Edmondson - WEDI'I GANSLO

  • Rhaid i blant dan 14 oed fod gydag oedolyn
 

Sut y bu hi i blentyn fagwyd ar aelwyd Fethodus lem – ac a dreuliodd flynyddoedd ei febyd dan glo mewn ysgolion preswyl gormesol – ei gael ei hun yn listio yn y chwyldro comedi? Tybed ai ei dreftadaeth Lychlynig (…berserker o bosib)?

Dewch i glywed y stori’r tu ôl i daith Adrian Edmondson i wlad comedi yn y noson dros ben llestri yma o adrodd straeon i ddathlu rhyddhau ei gofiant sydd ar fin ymddangos, Berserker!

Yn fyw ar lwyfan bydd Edmondson yn mynd â’i gynulleidfaoedd o’i ddyddiau’n torri’r rheolau yn ei ysgol breswyl giaidd hyd at gylch comedi’r wyth degau pan ganfu ei le yn y byd o’r diwedd. Bydd Edmondson yn rhannu straeon na chlywyd monyn nhw o’r blaen o’i bartneriaeth gomedi â Rik Mayall pan greodd y ddau gyda’i gilydd gomedïau sefyllfa eiconig fel The Young Ones a Bottom a dod ag anarchiaeth ac odrwydd i’r llwyfan a’r sgrîn.

Ac yntau bellach yn un o chwedlau comedi Prydain, bydd Edmondson yn bwrw trem yn ôl ar ei fywyd ac yn ateb eich cwestiynau llosg chithau. Gewch chi ddisgwyl anecdotau llawn sêr a dogn go dda o hiraeth yn deillio o fywyd rhyfedd, yn heigio gan gomedi, wedi’u cyd-weu’n ddiymdrech gan ffraethineb di-ail Edmondson a’i ddawn dweud stori.

Bydd pob tocyn byw yn cynnwys copi o Berserker! y cewch ei gasglu o’r oedfan ar noson y digwyddiad.

 
  • Pris safonol: £33.00 | £36.50 | £41.50

    Bydd pob tocyn yn cynnwys copi o Berserker!. Casglwch un ar noson y digwyddiad.

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

Logo Hynt

 
Wedi’i ganslo