The 80s Show - WEDI'I GANSLO
Y Deyrnged Fwyaf i’r Degawd Mwyaf
Dydd Sadwrn 11 Mai 2024, 7.30pm
The 80's Show – Y Deyrnged Fwyaf i’r Degawd Mwyaf – yn dod â’r parti wyth degau GORAU ar y Blaned atoch chi!
Fel y gwyddon ni i gyd, heigio o egni ac arloesi oedd pethau’r wyth degau a gynhyrchodd rai o fandiau ac arddulliau mwya cofiadwy’r oesoedd.
Roedd pob band yn gwneud ei orau glas i fod yn wahanol ac agos i’r un ohonyn nhw’n swnio’r un fath felly roedd modd nabod y rhan fwyaf o recordiau hit yn syth bin cyn pen yr ychydig eiliadau cynta.
Mae The 80s Show yn cwmpasu cymaint o’r cyfnod ag y bo modd ac wedi rhoi pob ewin ar waith i ymorol bod y seiniau a’r gerddoriaeth i gyd i’r dim i fynd â chi ar daith Hiraeth i’r oes aur pan oedd HWYL yn mynd â hi.
Yn cynnwys dim ond y cerddorion a’r canwyr gorau sydd, a chanwyr sacs ac offerynnau taro benywaidd, mae’n anodd gweld y gwahaniaeth rhwng y band yma a’r Record!
At hynny, sioe oleuadau/fideo/laser a gewch chi ganu a dawnsio o’i hochor hi i hits Frankie Goes To Hollywood, Duran Duran, Whitney Houston,Tears For Fears, Madonna, Spandau Ballet, Kim Wilde, Wham, Tiffany, Go West, Level 42, Belinda Carlisle, OMD, Erasure, Elton John, David Bowie a rhagor di-ri, ac ambell i syrpréis bach braf hefyd.
Meddai Frankie "Don't miss it!"
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.