Scott Bradlee’s Postmodern Jukebox - WEDI'I GANSLO
Dydd Iau 16 Mai 2024, 7.00pm
Drysau yn agor am 7pm
Pan gychwynnodd y pianydd Scott Bradlee y gydweithfa gerddorol ystumio amser o randy islawr yn Queens, Efrog Newydd, ganed stori lwyddiant, “dân gwyllt” ar lein — stori a arweiniodd yn fuan at sioe werthodd bob tocyn drwy hyd a lled Gogledd America ac Ewrop yn haf 2014.
Daeth adolygiadau’n ei chanmol i’r cymylau i ran yr act deithiol, yng nghyhoeddiadau’r diwydiant a gan artistaid byd-enwog fel ei gilydd. Yn y blynyddoedd wedyn meithrinodd “PMJ” y gair o fod yn “Saturday Night Live of Singers” drwy gyflwyno cynulleidfaoedd i ddwsinau o artistiaid cerddorol eithriadol — llawer ohonyn nhw wedi’u hanwybyddu hyd hynny gan y diwydiant recordiau modern — a’u troi’n sêr go iawn.
Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, a’u gwylio ddwy filfiliwn o weithiau ar eu sianel YouTube, mae un o sioeau Postmodern Jukebox bellach yn dipyn o draddodiad cerddorol blynyddol i gannoedd o filoedd o selogion pybyr drwy’r byd yn grwn — selogion sy’n aml yn dangos eu pig yn grand o’u coeau yn eu dillad d’wetydd o dras, ar dân i ymdrwytho yn y profiad.
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.