Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Pink Martini - WEDI'I GANSLO

Ym 1994 yr ymffurfiodd Pink Martini, dan arweiniad y pianydd Thomas Lauderdale, a buont yn gwthio terfynau cerddorol bob gafael, yn swyno gwrandawyr â’u halawon cyfareddol a’u trefniannau egnïol ochr yn ochr â’r gantores China Forbes – a ychwanegodd ei llais arbennig at naws arwyddnod y band.

Daeth clod y beirniaid i ran eu camp o albwm ‘Hotel Amour’ (ymddangosiadau gwadd gan Rufus Wainwright, y teulu von Trapp a’r diweddar Michel Grand a Barry Humphries) - albwm sy’n morio yn harddwch amrywiaeth gerddorol.Ffrydiwyd eu sengl ddiweddar ‘The Lemonade Song’ dros wyth miliwn o weithiau ar Spotify yn unig ac maen nhw wedi chwarae mewn deg cerddorfa a thrigain drwy’r byd yn grwn.

Y flwyddyn nesaf mae Pink Martini yn dathlu deng mlynedd ar hugain o berfformio ac maen nhw’n llawn cyffro o ddod â’u taith i wledydd Prydain i ddathlu gyda’u holl selogion.Ar hyn o bryd maen nhw yn y stiwdio’n gwneud albwm newydd a wêl olau dydd yn 2024.

 
  • Pris safonol: £37.00 | £42.00
  • Defnyddwyr cadair olwyn ac un cydymaith (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444) @ £37.00 pob tocyn

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

Logo Hynt

 
Wedi’i ganslo