Steve Hackett Genesis Greats, Lamb Highlights & Solo - LLEOLIAD A NEWID DYDDIAD
Dydd Iau 10 Hydref 2024, 7.45pm
25ain Medi 2023: Y gitarydd chwedlonol Steve Hackett yn cyhoeddi oedau ei daith 2024 yng ngwledydd Prydain: Steve Hackett - Genesis Greats, Lamb Highlights & Solo. Mae’r daith yn mynd i bymtheg oedfan drwy hyd a lled gwledydd Prydain ac yn dod i ben yn Royal Albert Hall Llundain nos Fercher 23ain Hydref. I nodi hanner canmlwyddiant The Lamb Lies Down On Broadway mae Hackett yn cynnwys detholiad o uchelfannau o’r albwm eiconig yma gan Genesis.
Roedd canu gitâr bythol Steve Hackett yn rhan o wead catalog Genesis o albymau clasurol drwy gydol y saith degau. Mewn blynyddoedd diweddar mae yntau a’i reng eithriadol, sef Roger King (allweddelli), Nad Sylvan (llais), Jonas Reingold (bas, llais yn gefn), Rob Townsend (sacsoffon, ffliwtiau, allweddelli dros ben) a Craig Blundell (drymaiu) wedi dod â llawer o’r albymau yma yn eu holau i’r neuadd gyngerdd, yn fawr eu clod. Bydd y gwestai arbennig, Amanda Lehmann, ar y gitâr a’r llais ar hyd y daith yng ngwledydd Prydain. Bu selogion lawer hefyd yn gofyn am gynnwys rhagor o draciau o The Lamb. Pa ffordd well o ddathlu hanner canrif o’r albwm hynod yma na chynnwys detholiad o Uchelfannau Lamb ochr yn ochr â pheth o waith solo gorau Hackett a Mawrion Genesis rhy dda i’w colli.
“I’m hugely looking forward to the 2024 UK tour,” says Steve Hackett, “including ‘The Lamb Lies Down on Broadway’ favourites as well as other iconic Genesis numbers along with solo gems. It’ll also be exciting to return to the wonderful Royal Albert Hall!”
STEVE Hackett Ar-lein:
www.hackettsongs.com
www.facebook.com/pages/Steve-Hackett/123101228589
www.twitter.com/HackettOfficial
http://hackettsongs.com/tour.html
______________________________________
Utilita Arena Caerdydd - polisi bagiau/mynediad ar gyfer 2024
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.
CYFYNGIADAU AR AILWERTHU TOCYNNAU:
Ddechrau 1971 yr ymunodd Steve Hackett â Genesis ac ennill bri drwy’r gwledydd yn gitarydd yn rheng clasurol y band ochr yn ochr â Peter Gabriel, Tony Banks, Mike Rutherford a Phil Collins. Roedd canu gitâr cywrain Hackett yn elfen allweddol yn albymau Genesis o Nursery Cryme (1971) i Wind And Wuthering (1977) gan gynnwys y Selling England By The Pound eiconig.
Ar ôl iddo adael Genesis ddiwedd 1977 dangosodd gyrfa solo Hackett, ac iddi bellach fwy na deg albwm ar hugain, ei amryw ddoniau rhyfeddol ar y gitâr trydan ac acwstig ill dau. Mae Hackett yn enwog ar gorn bod yn gerddor roc aruthrol o ddawnus a dyfeisgar ac yn gitarydd clasurol pencampwriaethol ac yn gyfansoddwr, a chydnabuwyd hyn yn 2010 pan gafodd ei urddo yn Oriel Enwogion Roc a Rôl. Gweithiodd hefyd ochr yn ochr â Steve Howe o YES yn yr arch-grŵp GTR.
Mae cyfansoddiadau Hackett dan ddylanwad llawer o genres, yn cynnwys jazz, clasurol a chanu’r felan. At ei weithiau stiwdio The Night Siren (2017) ac At The Edge Of Light (2019) chwiliodd Hackett hefyd ddylanwadau cerddoriaeth y byd. Ar deithiau diweddar gwelwyd Hackett yn dathlu ei gyfnod gyda Genesis gan gynnwys sbloets o daith yn 2018 lle gwireddodd uchelgais ers tro byd sef perfformio gweithiau Genesis yn fyw gyda’i fand a cherddorfa.
Fel y bu hi, roedd y cyfnod clo yn sgil pandemig byd-eang 2020 yn adeg arbennig o greadigol i Hackett. Dechreuodd drwy ryddhau Selling England by the Pound & Spectral Mornings: Live at Hammersmith, recordiad byw o daith aruthrol o lwyddiannus 2019 yn dathlu’r clasur hwnnw gan Genesis ynghyd â deugeinmlwyddiant un o’i hoff albymau solo. Rhoes y clo hefyd gyfle i Hackett sgwennu a recordio dau albwm stiwdio newydd yn 2021: yr hit yn Siartiau Clasurol gwledydd Prydain Under A Mediterranean Sky a’r albwm roc hit Surrender of Silence.
Aeth Hackett a’i fand yn ôl ar daith gyda Genesis Revisited - Seconds Out + More! (2021) a Genesis Revisited - Foxtrot At Fifty (2022). Wedyn daeth yr albwm byw Genesis Revisited - Seconds Out + More!, a ryddhawyd yn 2022, yn albwm byw mwyaf llwyddiannus erioed Hackett a chyrraedd rhif 28 yn Siart Albymau gwledydd Prydain a chyrraedd y safleoedd uchaf erioed yn y siartiau mewn sawl gwlad yn Ewrop. Yn ddiweddar rhyddhaodd yr albwm byw o daith 2022 - Foxtrot at Fifty + Hackett Highlights – Live in Brighton. Mae Hackett yn mynd â’r daith Foxtrot at Fifty i’r Unol Daleithiau o’r 3ydd Hydref drwodd i’r 18fed Tachwedd.