Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Average White Band - I'W GADARNHAU | Gwybodaeth wedi'i diweddaru i ddilyn

Mae’r Average White Band, un o fandiau canu’r enaid a ffync gorau’r oesoedd, wedi cyhoeddi eu taith canu’n iach ym misoedd Ebrill a Mai 2024.

Ar eu taith ddau oed ar bymtheg bydd y grŵp yn perfformio eu hits mwyaf a ffefrynnau’r selogion, megis Let’s Go Round Again, Cut The Cake, Atlantic Avenue a’r Rhif Un yn yr Unol Daleithiau Pick Up The Pieces.

Yn rhyfedd iawn, o gofio’u gwreiddiau yn yr Alban, yn Llundain ym 1972 yr ymffurfiodd y band chwe darn, cydio yn nylanwadau eu harwyr Rhythm a’r Felan megis Marvin Gaye, James Brown a Stevie Wonder, a meithrin eu naws ddilys eu hunain a chynulleidfaoedd croenddu yn yr Unol Daleithiau a mewn mannau eraill yn cythru amdani’n frwd. Yn sgil cyfansoddi caneuon cyson ddawnus y grŵp bu ganddyn nhw sawl albwm aur a phlatinwm ac enwebiadau Grammy rhif y gwlith gyda’r label chwedlonol Atlantic Records.

Ar ben senglau hit y band, cafodd llawer o’u traciau albwm megis Schoolboy Crush a Person to Person, ymhlith eraill, eu samplo’n helaeth gan y Beastie Boys, Public Enemy, Ice Cube, A Tribe Called Quest ac Arrested Development a’u tebyg – gymaint felly fel bod AWB yn un o’r pymtheg o actau a samplwyd fwyaf erioed.

Ers dros hanner can mlynedd mae’r Average White Band yn byw ac yn bod mewn pennaf oedfannau dwy’r byd yn grwn a’u taith canu’n iach ydi’r cyfle olaf, rhy dda i’w golli, i sawl cenhedlaeth o selogion brofi egni cerddorol a naws nodweddiadol un o’r bandiau canu’r enaid gwirioneddol fawr.

Yn sôn am y daith canu’n iach, meddai un o’r aelodau sylfaenu Alan Gorrie, “AWB has been our life for the last 50-plus years and has brought unbelievable highs – and some lows – to us throughout that tumultuous half-century, touring the globe and seeing the millions of happy and friendly faces that have greeted us wherever we have performed.”

Darllenwch fwy yma

Gwefan: https://www.averagewhiteband.com/ 
Facebook: https://www.facebook.com/AverageWhiteBand/
Twitter: https://twitter.com/AverageWhiteBnd 

 
  • Pris safonol: £28 | £38 | £53
  • Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) @ £28 yr un

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

Logo Hynt