Galliard Ensemble - WEDI'GANSLO
Cyngerdd Awr Ginio
Dydd Mawrth 21 Mai 2024, 1.00pm
Rhaglen
Ferenc Farkas: Dawnsiau Cynnar Hwngari
Intrada, Dawns Lázár Apor / Apor Lázár tánca
Dawns Lamu / Ugrós
Franz Danzi: Pumawd yn B feddalnod fwyaf, Op 56, Rhif 1
Darius Milhaud: La Cheminée du Roi René
Norman Hallam: Cyfres Ddawns: Waltz, Bossa Nova a Charleston
Kathryn Thomas (Ffliwt) | Owen Dennis (Obo) | Sarah Thurlow (Clarinét) |
Richard Bayliss (Corn) | Helen Storey (Basŵn)
Mae Artistiaid y Genhedlaeth Newydd y BBC gynt, y Galliard Ensemble, wedi ennill ei blwy yn un o grwpiau siambr blaenllaw Prydain, a chanddo repertoire yn amrywio o Mozart a Beethoven i Berio a Birtwistle.
Bellach ar ei ddegfed flwyddyn ar hugain, perfformiodd yr ensemble mewn llawer o oedfannau a gwyliau blaenllaw’r byd, yn cynnwys Wigmore Hall, South Bank Centre, Bridgewater Hall, Sage Gateshead ac yn y BBC Proms.
Perfformiodd hefyd ym Mhortiwgal, yn Sbaen, Ffrainc, Iwerddon a Slofenia ac fe’i darlledir yn aml ar BBC Radio 3 ac ym mhedwar ban byd.
Mae’r Galliard Ensemble yn adnabyddus am ei arddull berfformio amryddawn, difyr ac arbennig a daeth clod yn eang i ran ei recordiadau: mae’r Sunday Times, BBC Music Magazine, Gramophone, a BBC Radio 3 i gyd wedi dewis CD gan Galliard Ensemble yn "eithriadol" neu’n Ddewis y Beirniaid.
Cydweithiodd yn glòs â llawer o gyfansoddwyr cyfoes blaenllaw, gan gynnwys György Ligeti a chyda Syr Harrison Birtwistle, ar ei bumawd Five Distances (i’w perfformiad yn y BBC Proms) a arweiniodd at ei CD arobryn o gerddoriaeth siambr Birtwistle i chwythbrennau.
Yn 2013 rhedodd y 'Galliard Anniversary Composition Competition' i nodi ei ugeinfed flwyddyn.
Rhyddheir ei recordiad diweddaraf, From the Beginning, yn hydref 2023 i nodi ei ddengmlwyddiant ar hugain.
Mae’r Galliard Ensemble yn frwd dros ddod â cherddoriaeth i gynulleidfa amrywiol o sylweddoli’r effaith gadarnhaol ar ddysgu a datblygiad personol all dod yn sgil cerddoriaeth. Mae ei waith addysgol yn amrywio o gyngherddau i blant i ddosbarthiadau meistr mewn conservatoires a phrifysgolion blaenllaw megis Royal Northern College of Music, Prifysgol Caerdydd, Trinity Laban, ac yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Darllenwch fywgraffiadau llawn
Llun gan: Pip Bacon @ Purple Raspberry
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.
*Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.