Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Stori Weledol Neuadd Dewi Sant

STORI WELEDOL

Stori Weledol yw hon i'ch cynorthwyo ar eich ymweliad â
Neuadd Dewi Sant. Ei nod yw helpu i baratoi ymwelwyr ar gyfer
profiad newydd ac fel eu bod yn fwy cyfarwydd â’r
hyn sydd o’u cwmpas.

 

Croeso i Neuadd Dewi Sant lle byddwch yn dod i weld a
gwrando ar gyngerdd.

Prif Fynedfa

  • Lleolir Neuadd Dewi Sant yng nghanol dinas Caerdydd.
  • Mae 2 – 5 gris i fewn i’r adeilad (gan ddibynnu ar ba ddrws y
    defnyddiwch).
  • Mae mynedfa i’r anabl nesa at y prif ddrysau mynediad.
  • Pan gerddwch drwy’r prif ddrysau byddwch ar y llawr gwaelod.

Llawr Gwaelod

   

  • Ar y Llawr Gwaelod mae ein Swyddfa Docynnau.
  • Os nad yw’ch tocynnau gennych yn barod, bydd angen i chi eu casglu pan gyrhaeddwch.
  • Gall y Swyddfa Docynnau fod yn brysur, a gall fod ciw o bobl yn aros i godi tocynnau.
  • Hefyd, mae yna lifft, grisiau a grisiau symudol i fynd â chi i’r lloriau uwch.
  • Gall fod yn brysur pan fo pawb yn cyrraedd a gadael y gyngerdd.

  • Mae gan Neuadd Dewi Sant un lifft ar gyfer ymwelwyr. Bydd yn codi i’r lloriau sydd y tu mewn i’r adeilad, fel arfer Lefelau 2,3,4 a 5.  
  • Mae’r lifft ar y llawr gwaelod gerllaw’r Swyddfa Docynnau. 
  • Mae drychau y tu mewn i’r lifft. 

  • Mae 2 risiau symudol ar y llawr gwaelod, a 2 arall o lefel 1 i lefel 2.
  • Pan fo pobl yn cyrraedd ac angen mynd i fyny’r grisiau i’r gyngerdd bydd y grisiau symudol yn symud i fyny. Ar ddiwedd y cyngerdd, pan fo pawb yn awyddus i adael yr adeilad bydd y grisiau symudol yn symud am i lawr.

Lefel 2  

  

  • Ceir grisiau arferol yng nghefn y cyntedd ar y llawr gwaelod. Mae rhywfaint o risiau ac yna platfform sy’n parhau at 21 o risiau sy’n arwain at ben grisiau Lefel 1.
  • Mae set arall o risiau yn parhau at Lefel 2.

  • Pan ewch i fyny i Lefel 2 fe welwch ffotograffau o sioeau a chyngherddau eraill sydd wedi bod yn Neuadd Dewi Sant.

  • Mae yna siop losin ar Lefel 2 yn agos i waelod y grisiau. Gallwch brynu losin, hufen iâ a diodydd meddal yno.

  • Dyma’r grisiau i fyny at Lefel 3.
  • Gall pobl fynd i fyny neu i lawr dwy ochr y grisiau yr un pryd.

 Lefel 3
 

  • Mae yna ardal lwyfan fechan ar un pen o’r cyntedd â ffenestr liw fawr yn gefn iddi.
  • Mae bar yn rhedeg ar hyd ochr y cyntedd (ar yr ochr dde wrth i chi ddod i fyny’r grisiau).

  • Wrth y bar gallwch brynu diodydd a byrbrydau.
  • Gall yr ardal yma fod yn brysur ac efallai y bydd ciw o bobl wrth y bar yn prynu diodydd a byrbrydau i’w cael cyn ac wedi’r cyngerdd. Efallai y clywch sŵn y peiriant coffi hefyd.

  • Dyma’r grisiau i fyny at Lefel 4.
  • Gall pobl fynd i fyny neu i lawr dwy ochr y grisiau yr un pryd.

Mynedfa i’r Awditoriwm—Lefel 3 (Drws A a Drws B)

 

  • Dyma’r drysau i fynd drwyddynt i’r prif awditoriwm i wylio’r cyngerdd.
  • Bydd staff y perfformiad yno i’ch helpu chi.
  • Efallai wnewn nhw ofyn i gael gweld eich tocyn fel y gallan nhw eich hebrwng chi i’ch sedd.

Y Lolfa Jin—Lefel 4
  

  • Wrth y bar gallwch brynu diodydd a byrbrydau.
  • Gall yr ardal yma fod yn brysur ac efallai y bydd ciw o bobl wrth y bar yn prynu diodydd a byrbrydau i’w cael cyn ac wedi’r cyngerdd. Efallai y clywch sŵn y peiriant coffi hefyd.
  • Dydy’r Lolfa Jin ddim bob amser ar agor yn y pnawn, ond bydd ar agor i gyngherddau gyda’r nos.

Lefel 5

  • Dyma’r grisiau i fyny at Lefel 5.
  • Gall pobl fynd i fyny neu i lawr dwy ochr y grisiau yr un pryd. 

  • Wrth y bar gallwch brynu diodydd a byrbrydau.
  • Gall yr ardal yma fod yn brysur ac efallai y bydd ciw o bobl wrth y bar yn prynu diodydd a byrbrydau i’w cael cyn ac wedi’r cyngerdd. Efallai y clywch sŵn y peiriant coffi hefyd.  

  • Dyma’r patrwm sydd i’w weld ar garped y cyntedd drwy’r adeilad cyfan.

Cwrdd â’r Staff...

  • Bydd staff y Swyddfa Docynnau yn gwisgo topiau pinc neu ddu.

  • Bydd staff arlwyo gwrywaidd a benywaidd yn gwisgo crysau duon.

  • Staff Blaen y Tŷ (awditoriwm, ystafell gotiau a’r siop losin) – bydd y merched yn gwisgo coch a du, a’r dynion yn gwisgo crys gwyn a thei goch.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Mae sgrîn deledu wedi ei osod ar y wal ar Lefelau 2, 3 a 5 a fydd yn dangos yr hyn sy'n digwydd ar y llwyfan.
  • Caniateir cŵn tywys yn yr awditoriwm – rhowch wybod i ni wrth archebu tocynnau fel y gallwn wneud trefniadau.
  • Mae system glywed is-goch yn yr awditoriwm ac mae modd ei defnyddio gyda neu heb gymorth clyw.
  • Mae tai bach hygyrch wedi eu lleoli ar Lefelau 2,3,4, a 5. Mae cyfleusterau cymorth cyntaf a newid cewynnau babis ar gael ar Lefel 2. Am fwy o wybodaeth fanwl am y cyfleusterau sydd ar gael
    cysylltwch â Joanne John.
  • Mae tai bach cyffredin i Ferched a Dynion ar lefelau 2,3 a 5.

Awditoriwm 

  • Gelwir y brif neuadd yn Awditoriwm Dyma lle byddwch yn gwylio’r cyngerdd.
  • Byddwch yn gallu mynd i’r awditoriwm awr cyn dechrau’r gyngerdd.
  • Y llwyfan yw ble bydd y gerddorfa yn perfformio. Mae yn y blaen ac yn uwch fel y gallwch weld popeth.

  • Ar gyfer rhai cyngherddau bydd gan y llwyfan llawr ddu, a brethyn du mawr o flaen y seddau nad ydynt yn cael eu defnyddio yn y cefn.

  •  Bydd eich sedd yn edrych fel hyn.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau eich ymweliad.

 

Os hoffech fwy o wybodaeth neu gymorth cysylltwch â ni ar Gareth Griffiths neu ffoniwch 02920 878473.

Ymuno â'r rhestr bostio