**CYFWELIAD ** Mike Pender o The Searchers

**CYFWELIAD ** Mike Pender o The Searchers

THE SENSATIONAL 60S EXPERIENCE
NEUADD DEWI SANT
Dydd Mercher 8 Ebrill, 7.30pm

MAE’R sioe THE SENSATIONAL 60S EXPERIENCE yn dychwelyd i Neuadd Dewi Sant ddydd Mercher 8 Ebrill 2020 gyda’r rhaglen dair awr orau eto o hiraeth llwyr. 

Mae’r daith eleni’n cynnwys grŵp roc clasurol The Trems (pob un ohonynt yn gyn aelodau The Tremeloes), The Fortunes o Birmingham, The Swinging Blue Jeans o Lerpwl a The Dakotas o Fanceinion. 

Ar frig y rhaglen mae Mike Pender - prif aelod eiconig y band Merseybeat poblogaidd, The Searchers – sydd yn dal i gynhyrchu caneuon llwyddiannus a hynny ar ôl cyrraedd brig y siartiau nôl ym 1963! 

Dyma Neil Collins yn sgwrsio â Mike Pender am y sioe a’i yrfa sydd yr un mor benigamp... 

Wyt ti’n edrych ymlaen at ddod yn ôl i Gymru? 

Rwy’n credu bod Caerdydd yn ddinas ddiddorol iawn.Roeddwn yn arfer dod i lawr a gwneud cabaret am wythnos mewn clwb nos yno yn y 60au cynnar.Byddai’n arferol gweld bandiau fel un ni, Brian Poole & The Tremeloes, The Hollies a rhai grwpiau eraill a byddwn oll yn gwneud taith o amgylch y DU; yn debyg iawn i’r hyn rydyn ni’n ei wneud heddiw.Ond, wrth gwrs, mae 50 mlynedd o wahaniaeth erbyn hyn!Yn anffodus, mae pethau’n newid ac mae pobl yn ymddeol neu’n marw, felly dydy hi ddim yn teimlo’r un fath.Ond o fy safbwynt i, o leiaf, mae llais gwreiddiol The Searchers. 

Prin y gallech glywed eich hun dros yr holl sgrech yn y 60au, ond mae cynulleidfaoedd heddiw yn eistedd ac yn gwrando.Maen nhw’n cadw eu brwdfrydedd tan y diwedd, ac mae’n deimlad gwych. 

Sut cafodd The Searchers ei enw? 

Es i i weld y ffilm John Wayne honno o’r enw The Searchers ym 1957. Des i allan o’r sinema gyda rhai o’r dynion eraill a dywedais “Am enw gwych ar grŵp – a ddylwn ni alw ein hunain yn The Searchers?” 

Y flwyddyn ganlynol, ym 1958, es i i weld Buddy holly & The Crickets yn Neuadd Ffilharmonig Lerpwl.  Rwy’n cofio’r union ddyddiad – 20 Mawrth 1958 – ac yn fy marn i, Buddy Holly dechreuodd Merseybeat.Ym 1958, ysbrydolodd ei gerddoriaeth lawer o fechgyn ifanc Lerpwl, gan gynnwys The Beatles a ni ein hunain. 

Aethom o’r fan honno i’r Star Club yn Hamburg, rhoi’r gorau i’n swyddi a manteisio ar y cyfle o’m blaenau oherwydd doedden ni ddim wedi cynhyrchu unrhyw recordiau ar yr adeg honno mewn gwirionedd.Doedd dim cyfoeth na chlod o gwbl, ond roedd hi’n le ardderchog i fynd a chyfarfod â’r holl sêr roc a rôl fel Jerry Lee Lewis, Chuck Berry a Bill Haley & The Comets. 

Daethom yn ôl i’r DU gan feddwl “Beth nawr?”Yna’n sydyn, yn sgil Love Me Do y Beatles, daeth pobl fel Tony Hatch o Lundain i weld pwy arall oedd yn Lerpwl.Daeth i’r Iron Door Club lle roeddem yn perfformio, roedd e’n hoffi ni a dywedodd “Hoffwn fynd â chi i lawr i Lundain”.Doedd hi ddim yn hir cyn i ni fynd i Stiwdios Pye a recordio Sweets for My Sweet a dod yn llwyddiant dros nos gyda’n record gyntaf yn cyrraedd Rhif 1! 

Roeddech chi’n dal i fyw gyda’ch rhieni yn Bootle ym 1963 pan ddysgoch fod Sweets for My Sweet wedi cyrraedd Rhif 1. Disgrifiwch y foment honno – roeddech chi mewn sioc, mae’n siŵr! 

Yn bendant, digwyddodd bopeth mor gyflym!Roeddem yn ffodus iawn o fod yn y lle cywir ar yr amser cywir. Dyna’r oedd hi mewn gwirionedd.Rwy’n adnabod nifer o bobl na chyrhaeddodd y brig erioed, ond roedd yn dal i fod ganddynt lawer o ddawn.Pan dwi’n edrych yn ôl dros y 50 mlynedd ddiwethaf, dwi’n sylwi ar fy lwc. 

Perfformiom rai gigs pan roeddwn i’n dal i fyw gartref, ac roeddwn i wedi dechrau mynd yn fentrus a pherfformio y tu allan i Lerpwl.Cyrhaeddais gartref yn hwyr un noson ac es i i’r gwely gyda fy radio dransistor gan wrando ar Radio Luxembourg.Dwi’n cofio’r DJ yn dweud “...a’r Rhif 1 wythnos yma yw Sweets for My Sweet gan The Searchers.”Do’n i ddim yn gallu credu’r peth! 

Pam roedd bandiau mor awyddus i fynd i Hamburg yn y 60au? 

Roedd hi’n debyg i’r Cavern Club yn Lerpwl lle'r oedd yr holl sêr mawr a’r egin fandiau’n perfformio.Roedd y Star Club yn lle hudol.Rhoddais orau i swydd dda mewn cwmni printio llyfrau yn Lerpwl dim ond i fynd i Hamburg.Ond rhaid manteisio ar gyfleoedd mewn bywyd, ac yn wir, talodd hi’r ffordd i ni! 

Roedd y sêr mawr yn perfformio yno, ond roedd rhaid i ni weithio tan 3 a 4am yn gwneud tair neu bedair sioe y noson.Roedd hi’n waith anodd iawn, ond roeddem yn fechgyn ifanc – allai ddim gwneud hynny heddiw! 

Roedd pobl yn arfer cyfeirio at y Cavern Club fel ‘y seler chwys’ oherwydd dyna sut roedd hi.Roedd un ffordd i mewn ac un ffordd allan, a phetai’r clwb ar agor heddiw mae’n sicr na fydd yn pasio’r prawf rheoliadau tân.Ond dyna oedd “y lle” i fod yn Lerpwl.Roedd yn cynnal sesiynau amser cinio hefyd ac roedd pobl o’r swyddfeydd yn mynd yno yn ystod eu hegwyl cinio i weld y grwpiau.Pan roeddwn i’n gweithio yn y cwmni printio, roeddwn i’n arfer mynd i sesiwn amser cinio a chael fy ffrindiau i fynd â fi ar y llwyfan! 

O 1963-65, cawsoch lwyddiant anhygoel gyda 3 record yn mynd i frig siartiau’r DU, ac aethoch ar daith o amgylch yr UDA.Sut amser cawsoch?  

Roedd hi wir yn arbennig cael y tair record rhif 1 mewn cyfnod o tua 12 mis ar gyfer Sweets for My Sweet, Don’t Throw Your Love Away a Needles & Pins.Mae’r tair record honno wedi profi eu hunain dros amser, a byddant yn dal i fodoli ymhell ar ôl enw’r grŵp.Byddant yn cael eu cynnwys ar gasgliadau ac ar y radio ymhell ar ôl i ni fynd. 

Needles & Pinsoedd y gân a roddodd enwogrwydd go iawn i ni yn y 60au.Hi oedd ein record aur gyntaf, y tro cyntaf i ni werthu miliwn o recordiau ac aeth hi â ni i America ac ar The Ed Sullivan Show, sef y rhaglen deledu fwyaf yn yr UDA ar yr adeg honno.Roedd Elvis Presley a Buddy Holly wedi sefyll ar union yr un llwyfan dim ond rhai blynyddoedd ynghynt, ac roedd hi fel “Wow!”Dwi’n cael croen gŵydd hyd yn oed wrth feddwl amdano nawr.

Yn y blynyddoedd cynnar, roedd y band yn rhannu cyfrifoldebau canu.Sut roeddech yn penderfynu pwy oedd yn canu beth? 

Roedd hi fel The Eagles mewn ffordd, lle'r oedd pobl yn ystyried ai’r drymiwr neu’r chwaraewr bas ddylai ganu cân benodol.Roedd gennym dri chantor, sef Tony Jackson, Ed Curtis a fi.Canodd Tony Jackson Sweets for My Sweet, a channais i Needles & Pins

Wrth i’r amser fynd heibio, dywedodd ein rheolwr yn Pye Records, Tony Hatch, wrthyf “Mae’n debyg mai ti sy’n canu’r rhan fwyaf o’r caneuon, Mike” ac yn aml iawn, fi fyddai’n canu caneuon yn fyw cyn i ni fynd i’r stiwdio.Wrth recordio Needles & Pins, roeddwn yn dod i ddiwedd ein tro yn y stiwdio pan ddaeth Tony i mewn gan ddweud “Mike, pam gannaist Needles & Pins-a?!”A dywedais i “Dwi ddim yn gwybod!”Efallai oherwydd fy mod i’n dod o Lerpwl, ac mae ychwanegu llythrennau at ddiwedd geiriau yn rhywbeth gogleddol?Beth bynnag, dywedodd Tony “Does dim ots achos dwi’n ei hoffi e”, felly adawon ni hi fel yr oedd! 

Sut wnaethoch ddatblygu’r sain Rickenbacker 12-llinyn enwog honno y mae pobl yn ei hadnabod ar unwaith fel sain The Searchers? 

Pan es i i weld Buddy Holly yn hwyr yn y 50au, doedd neb wedi clywed am gitarau Rickenbacker.Yna, es i i wylio John Lennon yn y Star Club, a meddyliais “am enw rhyfedd ar gitâr”.Roedd hi’n enw Almaenig, felly es i ati i ddysgu mwy amdano ac roedd yn gwmni Almaenig a aeth i America i wneud gitarau. 

Erbyn heddiw, dyma’r cwmni mwyaf enwog am gitarau yn America, ac mae’n gwneud y gitarau trydanol 12-llinyn orau yn y byd.Cefais fy Rickenbacker cyntaf ym 1964. Defnyddiais y gitâr honno ar gyfer When You Walk in the Room, a dwi wedi bod yn defnyddio un oddi ar hynny. 

Pe bai rhaid i chi ddewis, pa gân yw eich hoff gân gan The Searchers? 

Mae cân wych rwy’n ei pherfformio yn y sioe o’r enw Goodbye My Love.Roedd hi’n gân fawr ac aeth hi i rif 3 ar y siartiau. Rwy’n cofio Juke Box Jury yn ei chwarae a chafodd bum seren. 

Love Potion No. 9 yw un arall fydd yn y sioe.  Yn rhyfedd iawn, doedd hi ddim yn record fan hyn, ond roedd hi’n llwyddiannus iawn yn America gan gyrraedd rhif 1 yn y siartiau… wel, mewn gwirionedd, cafodd rhif 2, ond rwy’n dweud wrth bawb ei bod wedi cyrraedd rhif 1 gan mai honno oedd ein record fwyaf llwyddiannus yno.

Ond fy hoff gân yw When You Walk in the Room, a dyna’r gân rwy’n ei pherfformio i gloi.Mae’r gynulleidfa ar ei thraed yn curo dwylo ac yn cyd-ganu, ac mae’n cynnwys riff gitâr arbennig.Yn fy marn i, hi oedd ein cân orau. 

Rydych wedi rhyddhau eich hunangofiant yn ddiweddar, The Search for Myself.A wnaethoch chi fwynhau’r profiad? 

Cefais fy ysbrydoli i’w ysgrifennu ar ôl i rywun ddweud wrthyf fod Frank Allen, a oedd yn dal i fod yn rhan o The Searchers yr adeg honno, wedi cyhoeddi llyfr.Rwy’n cofio meddwl bod angen i mi ysgrifennu un fy hun gan fod llawer o bethau wedi cael eu dweud am y band nad oeddynt yn wir ac roeddwn i am gael cyfle i egluro’r hyn a ddigwyddodd go iawn. 

Roedd gennyf dipyn i ysgrifennu amdano ar ôl 50 mlynedd yn y maes, ac ar ôl teithio’r byd a chwrdd â chynifer o artistiaid. Roeddwn i’n chwilio am fi fy hun am beth amser, a chefais hyd i fy hun yn 1985 ar ôl penderfynu mynd yn annibynnol gyda Searchers Mike Pender. 

Perfformio mewn teithiau fel Sensational 60s a siarad â chynulleidfaoedd yw’r union le yr hoffwn i fod ar yr adeg hon yn fy ngyrfa.Gobeithio y gall barhau am rai blynyddoedd yn rhagor. 

Mae tocynnau yn £30.50 (ynghyd â thâl postio dewisol o £1.50) 

I gadw sedd, ewch i hafan Neuadd Dewi Sant
neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444 

Ymuno â'r rhestr bostio