Perfformiad Cyfnod Cloi Peter Hewitt o Beethoven
Roedd y pianydd Peter Hewitt i fod i berfformio mewn Cyngerdd Amser Cinio yn Neuadd Dewi Sant ddydd Mawrth 26 Mai gyda'r feiolinydd enwog Peter Fisher.
Yn anffodus, cafodd ei ganslo oherwydd sefyllfa sydd ohoni gyda Covid-19 ond mae Peter Hewitt yn garedig iawn wedi anfon perfformiad i ni o'r symudiad miniwét arbennig hwn gan Beethoven (Sonata Op 14 Rhif 1 yn E Ail Symudiad).
Mae Peter Hewitt yn gerddor meistrolgar, sydd wedi cael canmoliaeth fawr am ei berfformiadau eithriadol, sy'n cyfuno techneg heb ei ail gyda cherddgarwch naturiol a deallusrwydd craff.
"Mae’n gallu rhoi sylw i fanylder ac ymroddiad i'r gerddoriaeth. Mae Hewitt yn gerddorol iawn – mae wedi fy nghyffwrdd." Vladimir Ashkenazy
"Mae rhinweddau hynod sylwgar Hewitt a’i enaid hynod sensitif yn gweddu mor dda i'r gerddoriaeth hon ... ysbrydoledig!" John Lill CBE
"Yr agwedd fwyaf trawiadol ar gelfyddyd Peter Hewitt yw nad yw'n tynnu’n sylw oddi ar y gerddoriaeth ar unrhyw adeg – mae Beethoven yn siarad yn uniongyrchol â ni. Mae gan Hewitt dechneg heb ei hail" International Record Review