Polisi Preifatrwydd
Bydd Neuadd Dewi Sant yn prosesu eich data personol at ddiben creu a rheoli archebion. Mae Neuadd Dewi Sant yn gyfleuster a ddarparir gan Gyngor Caerdydd, sef y Rheolwr Data at y diben hwn.Mae Cyngor Caerdydd yn gofrestredig â Swyddfa’r Comisiynwr Gwybodaeth a bydd yn prosesu unrhyw wybodaeth yn unol â Deddf Diogelu Data 2018.
Mae’r wybodaeth rydym yn ei chasglu gennych chi’n cynnwys:
- Gwybodaeth cysylltu – enw, cyfeiriad, rhiff ffôn a chyfeiriad ebost.
- Gwybodaeth ariannol – manylion cardiau credyd/debyd
- Gwybodaeth archebu ynghylch y sioeau y daethoch iddynt.
Defnyddiwn eich data personal i:
- Brosesu a chofnodi taliadau archebu
- Eich hysbysu ynghylch unrhyw newidiadau yn eich archeb
- Defnyddio data dienw i ddadansoddi patrymau a thudeddiadau archebu.
- Anfon gwybodaeth atoch am gynyrchiadau a digwyddiadau i ddod, lle rhoddwyd caniatâd
Er mwyn prosesu taliadau byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â’ch banc neu gyrff eraill lle bo gofyn yn ôl y gyfraith.
Dim ond gyhyd ag y bo gofyn y cadwn eich data personol a byddwn yn dileu eich data pan na fydd bellach yn ofynnol.
O bryd i’w gilydd bydd Neuadd Dewi Sant yn anfon gwybodaeth am ddigwyddiadau i ddod, lle rhoddwyd caniatâd ymlaen llaw. Os nad oes arnoch bellach eisiau cael yr hysbysiadau hyn, mae gennych yr hawl i ddiddymu eich caniatâd pryd y mynnwch.Gallwch wneud felly drwy gysylltu â ni drwy ebost St.DavidsHallReception@cardiff.gov.uk neu deleffon 029 2087 8444.
Mae gennych yr hawl i weld copïau’r data rydym yn eu dal yn eich cylch a gallwch ofyn am gywiro eich data personol os ydi’n anghywir neu wedi dyddio.
I weld polisi preifatrwydd llawn Cyngor Caerdydd neu i gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ewch i https://www.cardiff.gov.uk/CYM/Hafan/Ymwadiad/Pages/default.aspx