Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Datganiad Hygyrchedd Gwefan Neuadd Dewi Sant

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i:

www.stdavidshallcardiff.co.uk

www.neuadddewisantcaerdydd.co.uk 

Mae Neuadd Dewi Sant yn ymroddedig i wella’r safonau hygyrchedd ar hyd ac ar led pob rhan o’n gwefan.

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.stdavidshallcardiff.co.uk ar bob porwr a dyfais bwrdd gwaith.

Cyngor Caerdydd sy’n rhedeg ein gwefan a John Good Cyf. sy’n ei letya.Darparir elfennau tocynnau’r wefan gan Viva Ticket, darparwr masnachol gwasanaethau tocynnau.

Mae arnom eisiau i gynifer o bobl ag y bo modd allu ei defnyddio’n hyderus a’i chyrchu’n rhwydd.Mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • Darllen y wefan mewn Cymraeg clir, croyw.
  • Llywio rhan o’r safle gan ddefnyddio dim ond byseddell ar gyfrifiadur bwrdd gwaith.
  • Cyrchu peth cynnwys gan ddefnyddio darllenydd sgrin – mae’r cynnwys wedi’i strwythuro gan ddefnyddio penawdau (tagiau H) a phwyntiau bwled lle bo angen ac ychwanegwyd testun alt at rai delweddau.
  • Deall i ble y bydd hyperddolenni’n mynd â chi cyn i chi glicio arnynt.
  • Cyrchu map y safle.
  • Cael hyd i wybodaeth ynghylch sut i gael fersiynau hygyrch ein llyfrynnau.

Hefyd gwnaethom destun y wefan mor syml ei ddeall ag y bo modd.

Ewch i wefan AbilityNet, lle cewch gyngor ynghylch gwneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd. 

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Gwyddom fod rhai rhannau o’r wefan hon heb fod eto’n gwbl hygyrch.Caiff y rhan fwyaf o’r problemau isod eu datrys pan gawn ein gwefan newydd (a ddylai fod yn 2021). Ar hyn o bryd nid yw’r canlynol yn bosib:

  • Ar hyn o bryd nid yw’r cyferbyniad rhwng lliw’r testun a lliw’r cefndir mewn cymhareb o 4.5:1 – gallai hyn beri problemau gwelededd i rai defnyddwyr. (Maen Prawf Llwyddiant 1.4.1)
  • Mae rhai testunau a labeli ffurflenni yn eisiau os ydych yn defnyddio darllenydd sgrin a/neu’n llywio gan ddefnyddio’r swyddogaeth tab, efallai na fydd yn amlwg pa wybodaeth mae pob maes ffurflen yn gofyn i chi ei darparu.(Maen Prawf Llwyddiant 1.1.1)
  • Pan fyddwch yn tabio i brif lywio’r safle, rydych yn gallu tabio drwy’r is-dudalennau, ond ni allwch weld eich bod yn tabio drwyddynt - mae hyn yn golygu, os ydych yn llywio gan ddefnyddio dim ond byseddell, efallai na fyddwch yn gallu gweld ymhle’r ydych ar y dudalen. (Maen Prawf Llwyddiant 2.4.1)
  • Weithiau mae testun botwm yn eisiau mae darllenwyr sgrin yn methu dweud wrth ddefnyddwyr ar beth maent yn clicio. (Maen Prawf Llwyddiant 1.1.1)
  • Yn aml mae dolenni cyfagos yn mynd i’r un URL– gall hyn fod yn ddryslyd pan fydd rhywun yn defnyddio darllenwyr sgrin. (Maen Prawf Llwyddiant 2.4.8)
  • Nid oes modd neidio dros y faner a’r wybodaeth lywio i fynd i brif gynnwys y dudalen - nid yw cynnwys y ddewislen wedi’i amlygu pan fyddwch yn tabio drwyddo, a allai fod yn ataliol i ddefnyddwyr sy’n llywio o gwmpas y safle gan ddefnyddio byseddell neu drwy ddarllenydd sgrin.(Maen Prawf Llwyddiant 2.4.1)
  • Weithiau mae testun yn eisiau ar fotymau, sy’n newid lliw i ddangos eich bod yn hofran drostynt – gallai hyn olygu bod defnyddwyr sy’n ddall i liwiau neu a chanddyn nhw nam ar eu golwg yn ei chael yn anodd llywio’r swyddogaethau hyn. (Maen Prawf Llwyddiant 1.3.3)
  • Nid oes gan focsys ticio ddisgrifiad geiriol – os ydych chi’n defnyddio darllenydd sgrin a/neu’n llywio gan ddefnyddio’r swyddogaeth tab, efallai na fydd yn amlwg ar beth rydych chi’n cytuno.(Maen Prawf Llwyddiant 1.1.1)
  • Ar y dudalen ‘Llogi Lleoliad ac Ystafelloedd’, mae labeli’n bresennol ond heb eu cysylltu â’r rheolydd ffurflen.Nid yw label wedi’i gysylltu’n anghywir yn cynnig na swyddogaeth na gwybodaeth ynghylch y rheolydd ffurflen i’r defnyddiwr – os ydych chi’n defnyddio darllenydd sgrin a/neu yn llywio gan ddefnyddio’r swyddogaeth tab, efallai na fydd yn amlwg pa wybodaeth mae pob maes ffurflen yn gofyn i chi ei darparu. (Maen Prawf Llwyddiant 2.4.9)
  • Mae testun alt yn eisiau ar rai delweddau rydym yn gweithio i ychwanegu testun alt at yr holl ddelweddau, ond efallai y bydd defnyddwyr sy’n cyrchu’r cynnwys gan ddefnyddio darllenwyr sgrin yn methu cyrchu’r cynnwys yn y delweddau. (Maen Prawf Llwyddiant 1.1.1)
  • Mae rhywfaint o’r testun alt rhybudd yr un fath â’i deitl – efallai na fydd hyn yn rhoi digon o wybodaeth i chi allu cwblhau tasg. (Maen Prawf Llwyddiant 1.4.8)
  • Mae llywio Actifyddion Artistig yn mynd â chi ymaith o’r safle i safle newydd yn ddirybudd - gallai hyn fod yn ddryslyd os nad ydych yn disgwyl gadael gwefan Neuadd Dewi Sant. (Maen Prawf Llwyddiant 2.4.4)
  • Mae’r fformat sgrifennu a gwybodaeth yn anghyson (dylai amseroedd, dyddiadau a rhifau ffôn ddilyn canllaw arddull penodol ac weithiau ni ddefnyddir Cymraeg croyw) – ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar ddatblygu ac ail-ddylunio’r cynnwys hwn. (Maen Prawf Llwyddiant 1.4.8)
  • Efallai bod rhywfaint o’r drefn bylchau yn peri bod y testun yn anodd ei ddarllen gan ein bod ar hyn o bryd yn methu addasu uchdwr y llinellau na’r bylchau yn y testun. (Maen Prawf Llwyddiant 1.4.8)
  • Mae rhai o’n ffurflenni ar lein yn anodd eu llywio gan ddefnyddio dim ond byseddell. (Maen Prawf Llwyddiant 2.1.2)
  • Mae yna derfyn ar faint y gallwch chwyddo’r map ar ein tudalen ‘Cysylltu â Ni’. (Maen Prawf Llwyddiant 1.4.4)

Ymateb a gwybodaeth gysylltu

Os oes arnoch angen gwybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel print bras, recordiad sain neu Braille, cysylltwch â’r canlynol:

  • Ebost:  SDHpress@cardiff.gov.uk
  • Rhowch ganiad i: 073 9179 1934 (cofiwch mai rhif Swyddfa Docynnau dros dro yw hwn tra bydd Neuadd Dewi Sant yn dal i fod ar gau oherwydd clefyd COVID-19).Gwaetha’r modd, ni allwn ateb na negeseuon testun na negeseuon llais ar y rhif hwn).
  • Post:Neuadd Dewi Sant, Yr Aes, Caerdydd, CF10 1AH (casglir y post yn rheolaidd o hyd tra mae’r oedfan ar gau oherwydd COVID-19).

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn tri diwrnod gwaith.

Os na allwch weld y map ar ein tudalen ‘Cysylltu â Ni’ rhowch ganiad i 073 9179 1934 neu anfon ebost atom yn SDHpress@cardiff.gov.uk i gael cyfarwyddiadau.

Riportio problemau hygyrchedd ynghlwm â’r wefan hon

Rydym bob amser â’n bryd ar wella hygyrchedd y wefan hon.Os cewch chi unrhyw broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon neu os ydych o’r farn nad ydym yn cwrdd â gofynion hygyrchedd, ebostiwch SDHpress@cardiff.gov.uk  

Trefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).Os nad ydych yn fodlon ar ein dull o ymateb i’ch achwyniad, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).  

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni’n bersonol

Rydym yn cynnig gwasanaeth cyfnewid testun i bobl sy’n B/byddar, â nam ar eu clyw neu nam ar eu lleferydd.

Mae gan ein swyddfeydd ddolenni clywed sain, neu os cysylltwch â ni cyn dod hwyrach y gallwn drefnu cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Gewch chi wybod yma sut i gysylltu â ni:

  • Ebost:  SDHpress@cardiff.gov.uk 
  • Rhowch ganiad i:073 9179 1934 (cofiwch mai rhif Swyddfa Docynnau dros dro yw hwn tra bydd Neuadd Dewi Sant yn dal i fod ar gau oherwydd clefyd COVID-19).Gwaetha’r modd, ni allwn ateb na negeseuon testun na negeseuon llais ar y rhif hwn). 
  • Post:Neuadd Dewi Sant, Yr Aes, Caerdydd, CF10 1AH (casglir y post yn rheolaidd o hyd tra mae’r oedfan ar gau oherwydd COVID-19).  

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Neuadd Dewi Sant yn ymroddedig i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Nid yw’r wefan hon yn cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau fersiwn 2.1 AA safonol.  

Cynnwys sydd heb fod yn hygyrch

Bydd y cynnwys sydd heb fod yn hygyrch yn yr adran ‘Pa mor hygyrch yw’r wefan hon’ yn cael ei ddatrys pan fydd gwefan newydd Neuadd Dewi Sant yn gweithio.   

Peidio â chydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Bydd y problemau o ran diffyg hygyrchedd yn yr adran ‘Pa mor hygyrch yw’r wefan hon’ yn cael eu datrys unwaith y cawn ein gwefan newydd.Ar hyd o bryd rydym yn trafod caffael â chyflenwyr.

Bydd y wefan newydd yn gwbl hygyrch ar ddyfeisiau symudol a bwrdd gwaith.Byddwn yn rhoi prawf arno gyda defnyddwyr yn rhan o’r broses ddatblygu ac yn gweithio i ddylunio ein cynnwys i fod mor gydnaws â defnyddwyr ag y bo modd yn rhan o’r un broses.  

Baich anghymesur

Diweddariadau datblygiadol yw llawer o’r diweddariadau mae gofyn eu gwneud, a fyddai’n galw am gyfraniad tâl gan yr asiantaeth datblygu gwefannau, John Good – asiantaeth contract allanol, yn hytrach na thîm datblygu gwefannau mewnol.

O ganlyniad uniongyrchol i glefyd pandemig Covid-19 a’r cyfnod clo canlynol yn dechrau ym mis Mawrth 2020, mae Neuadd Dewi Sant yn dal i fod ar gau i’r cyhoedd a’r staff yn gweithio o bell.Cofiwch fod John Good Cyf hefyd wedi rhoi eu staff i gyd ar ffyrlo pan frigodd pandemig Covid-19.  

Llywio a chyrchu gwybodaeth

  • Does dim modd bob amser newid gogwydd y ddyfais o lorwedd i fertigol heb ei gwneud yn anos gweld y cynnwys.
  • Does dim modd i ddefnyddwyr newid maint y testun heb i rywfaint o’r cynnwys orgyffwrdd.

Offer rhyngweithiol a thrafodion

Mae rhai o’n ffurflenni rhyngweithiol yn anodd eu llywio gan ddefnyddio bysellfwrdd.Er enghraifft, am fod tag ‘label’ yn eisiau ar rai rheolwyr ffurflen.

Rydym wedi asesu cost datrys y problemau llywio a chyrchu gwybodaeth, a’r problemau offer rhyngweithiol a thrafodion.A chynlluniau eisoes ar y gweill hefyd i ailddatblygu ein gwefan yn gyfangwbl, yn ein tyb ni byddai talu am newidiadau yn ein gwefan bresennol a’n System Rheoli Cynnwys (CMS) yn y fan hon yn ychwanegu costau dros ben a byddai’n faich anghymesur yn ôl ystyr y rheolaidau hygyrchedd.Byddem yn talu am ddiweddaru system gaiff ei hailwampio o fewn ychydig fisoedd.

Gwnawn asesiad arall pan fydd y wefan newydd ar fynd ac yn gweithio. 

PDF a dogfennau eraill

Mae rhai o’n PDFau a’n dogfennau Word yn hanfodol i gynnig ein gwasanaethau.Er enghraifft, mae gennym PDFau ac ynddynt wybodaeth ynghylch sut y gall defnyddwyr gyrchu ein gwasanaethau, a ffurflenni wedi’u cyhoeddi’n ddogfennau Word.Erbyn Tachwedd 2020, rydym yn cynllunio naill ai i roi trefn ar y rhain neu i roi tudalennau HTML hygyrch yn eu lle.

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn gofyn gennym roi trefn ar PDFau na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.Er enghraifft, nid ydym yn cynllunio i roi trefn ar [enghraifft o ddogfen sydd heb fod yn hanfodol].

Bydd unrhyw PDFau neu ddogfennau Word y byddwn yn eu cyhoeddi yn cwrdd â safonau hygyrchedd.

Fideo byw

Nid ydym yn cynllunio i ychwanegu capsiynau at ffrydiau fideo byw gan fod fideo yn rhydd o gwrdd â’r rheoliadau hygyrchedd. 

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ddydd Mercher 23 Medi 2020. Fe’i hadolygwyd am y tro olaf ddydd Mercher 23 Medi 2020.

Rhoddwyd prawf ar y wefan hon ddiweddaraf ar 10 Gorffennaf 2020. Yn fewnol y gwnaed y prawf. Rhoesom brawf ar bob tudalen o’r wefan, yn hytrach na detholiad sampl.Ni roesom brawff gan ddefnyddio technoleg gynorthwyol, ond byddwn yn ymorol ein bod yn gwneud profion eang gyda defnyddwyr, gyda phobl sy’n cyrchu cynnwys gan ddefnyddio technolegau cynorthwyol pan fyddwn yn gwneud datblygiadau gwefan i ddod.

Ymuno â'r rhestr bostio