Prom Tidli: Bert and Cherry’s Christmas Plum Pudding - WEDI'I GANSLO
Dydd Sadwrn 16 Rhagfyr 2023, 10.30am
Dydd Sul 17 Rhagfyr 2023, 10.30am
Dydd Llun 18 Rhagfyr 2023, 10.30am
Dydd Mawrth 19 Rhagfyr 2023, 10.30am
Mae’r perfformiad arbennig yma gan dîm y Prom Tidli yn dod â Bert, Cherry a llawer o’u ffrindiau cerddorol yn ôl at ei gilydd i gael hwyl a sbri.
Mae’r sioe gerddorol fyw ryngweithiol yma’n cynnwys caneuon o dri Prom Tidli poblogaidd Bert ac yn ffordd i’r dim i blantos dan bumlwydd ailgyflwyno’r bobol fawr dan eu gofal i’r Dolig.
Mae Bert yn llawn hwyliau’r ŵyl, y goeden Dolig ar ei thraed a phopeth wedi’i lapio at y diwrnod mawr. Mae Cherry’n dod i roi help llaw iddo roi’r cyffyrddiadau olaf i’r addurniadau a bydd eu ffrindiau nhw i gyd yn picio heibio hefyd. Fel pob amser, gewch chi ddisgwyl stori fywiog, llond gwlad o ganeuon gwirion i chi gael morio canu a llond platiad o bwdin plwm cerddorol.
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.