KIDZ BOP - WEDI'I GANSLO
Taith Never Stop
Dydd Iau 4 Ebrill 2024, 6.00pm
KIDZ BOP yn Cyhoeddi ei Daith Gyntaf Erioed yng Ngwledydd Prydain ar Ben y Rhaglen, yn Dod i Un Ddinas ar Ddeg yn ystod Gwyliau’r Pasg 2024.
Ar ôl i ddwy sioe fynd â hi yn Llundain a gwerthu bron bob tocyn ym mis Hydref eleni, mae Taith Fyw Never Stop KIDZ BOP yn Ychwanegu Oed Dros Ben yn Llundain ac Wedyn yn Mynd i Fanceinion, Birmingham, Caerdydd, Caeredin, Glasgow a Rhagor ym Mis Ebrill 2024.
LLUNDAIN, 25 Medi 2023 – KIDZ BOP, y brand cerddoriaeth #1 i’r crwts, wedi cyhoeddi ei fod yn ei chychwyn hi ar ei daith gyntaf erioed yng ngwledydd Prydain ym mis Ebrill 2024, mewn partneriaeth â Kilimanjaro Live. Ar ôl i ddwy sioe fynd â hi yn y New Wimbledon Theatre yn Llundain a gwerthu bron bob tocyn ym mis Hydref eleni, mae KIDZ BOP yn estyn ei Daith Never Stop. Bydd y cyngerdd pop gorau erioed i’r crwts (a phobol fawr hefyd!) yn rhoi sioe dros ben yn Llundain, wedyn yn mynd i Fanceinion, Birmingham, Caerdydd, Caeredin a Glasgow, a rhagor dros wyliau’r Pasg 2024. Mae’r gwerthiannau ymlaen llaw yn cychwyn ag O2 Priority ddydd Mawrth 26 Medi, wedyn gwerthiannau selogion KIDZ BOP ddydd Mercher 27 Medi, a gwerthiant cyffredinol ddydd Mawrth 28 Medi. I weld dyddiadau’r daith a gwybodaeth am docynnau, ewch i KIDZBOP.co.uk/tour.
Dewch i forio canu a dawnsio yng nghwmni Crwts KIDZ BOP Prydain - Chanel, Toby, Ziame a Sadie - yn perfformio hits pop mwya’n dydd ni yn fyw ar lwyfan, yn cynnwys As It Was, Anti-Hero, Green Green Grass, Trustfall a llond gwlad at hynny. Mae’r sioe gydnaws â theuluoedd hefyd yn cynnwys coreograffi sy’n hwyl fawr, effeithiau arbennig a ffefryn y selogion, Daddy Dance Off, sy’n rhoi i’r tadau gyfle i wneud sioe o’u symudiadau dawns gorau ar lwyfan.
Bydd Pecynnau KIDZ BOP VIP ar gael – yr union ffordd i wefreiddio eich profiad o’r cyngerdd, pa un a ydych chi’n benboethyn KIDZ BOP neu’n mynd â’ch crwt i’w gyngerdd cynta erioed. Mae Pecynnau VIP ar gael ar KIDZBOP.co.uk/tour, yn cynnwys tocynnau premiwm, nwyddau i VIPs yn unig a Chwrdd a Chyfarch Crwts KIDZ BOP.
Yn yr Unol Daleithiau mae Taith Fyw Never Stop KIDZ BOP newydd ddod i ben taith haf sgubol o lwyddiannus mewn amffitheatrau lle perfformiodd Crwts KIDZ BOP i gannoedd o filoedd o selogion, yn cynnwys mwy na deg sioe werthodd bob tocyn.
VIP KIDZ BOP - Ychwanegyn Cwrdd a Chyfarch @ £35.00
- Cwrdd a Chyfarch dethol a chyfle i dynnu llun gyda Chrwts KIDZ BOP!
- Un eitem KIDZ BOP wedi’i llofnodi
- Pecyn anrheg KIDZ BOP wedi’i ddylunio’n arbennig
- Cofrodd laminedig a chortyn gwddw Cwrdd a ChyfarchKIDZ BOP
- Cael tynnu’ch llun o flaen y cefnlen VIP i gofio eich noson
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.