Milkshake! Live

  • Hanner tymor
 

Mae Milkshake Monkey jyst â thorri’i fol o eisiau llwyfannu swae o ddrama gerdd newydd i chi i gyd! Ond pan ddaw ofn llwyfan arno, daw ei hoff ffrindiau Milkshake i roi help llaw iddo a chreu’r sioe fwya syfrdanol welsoch chi erioed!

Dewch i fod yn rhan o’r cynhyrchiad bondibethma yma, yn dysgu’r caneuon a’r dawnsiau gwych gyda’ch hoff ffrindiau Milkshake, ac yn gwylio’r gerddoriaeth, y goleuadau, y gwisgoedd a’r llwyfan yn dod at ei gilydd. Yng nghwmni ffrindiau Milkshake clòs, mae unrhyw beth yn bosib.

Yn serennu Sam Tân, Noddy, Shimmer & Shine, Digby Draig, Wissper, Nella’r Dywysoges Ddewr a’r Floogals, ochr yn ochr â dau o Gyflwynwyr Milkshake, mae gan y sioe newydd sbon danlli grai yma ddigonedd o firi, cydadwaith â’r gynulleidfa a hen hwyl a hanner i godi pawb ar eu traed! Dyma sioe i’r teulu sy’n rhy dda i’w cholli! 

Materion Cyfreithiol: 
Sianel 5: * Bydd sioe Milkshake Live yn cynnwys dau o gyflwynwyr Milkshake!. Does dim dal y bydd Jen, Derek, Kemi, Amy, Olivia, Sita, David, Nathan a Kiera yn ymddangos ym mhob oedfan. © Channel 5 Broadcasting Limited 2018. Cedwir Pob Hawl.  © 2018 Prism Art & Design Limited. © Fizzy Productions Ltd. Cedwir Pob Hawl. Wissper 2 Limited/M4E. © 2015 - 2018 Universal Kids Media Productions LLC a Rightsco TV Limited ©2018 Viacom International Inc. Cedwir Pob Hawl. Mae Nickelodeon, Nella The Princess Knight a theitlau, logos a chymeriadau perthynol i gyd yn nodau masnach Viacom International Inc. © ©2018 Viacom International Inc. Cedwir Pob Hawl. Mae Nickelodeon, Shimmer and Shine a theitlau, logos a chymeriadau perthynol i gyd yn nodau masnach Viacom International Inc. NODDY® Toyland® Noddy in Toyland™ © 2018 Chorion Rights Limited. Cedwir Pob Hawl.

 
 Oedolion £17.00
 Plant (6-12 mis) £15.50
 Plant (1-16 oed)  
 Tocyn Teulu i 4 £58.00
 Grwpiau o 10 neu'n fwy (i gadw lle ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444). £1.50 oddi wrth bob tocyn

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

 
Bwciwch Nawr
 
10.30 14.00  Bar yn agor - diodydd meddal, diodydd poeth a byrbrydau ar gael  
12.00 15.30  DECHRAU
12.35 16.05  Egwyl
13.30 17.00  DIWEDD

NODER: Amseroedd bras - gallant newid.