Bert & Cherry's Christmas Plum Pudding

  • Lefel 1
 

Mae’r perfformiad arbennig yma gan dîm y Prom Tidli yn dod â Bert, Cherry a llawer o’u ffrindiau cerddorol at ei gilydd eto i gael hwyl a sbri.

Bydd caneuon o dri Prom Tidli poblogaidd Bert ochr yn ochr â ffefrynnau Dolig yn y sioe gerddorol fyw ryngweithiol yma sy’n ffordd dan gamp i’r plantos dan bumlwydd ailgyflwyno Dolig i’r bobol fawr sydd dan eu gofal.

Mae Bert mewn hwyliau da; mae’r goeden Dolig wedi’i gosod a phopeth wedi’i lapio’n barod at y diwrnod mawr.Mae Cherry’n dod i roi help llaw i roi’r twtchis olaf i’r addurniadau a bydd eu ffrindiau i gyd yn picio i mewn hefyd.Fel pob amser gewch chi ddisgwyl stori fywiog, llond gwlad o ganeuon gwirion i chi gael morio canu a llond plât o bwdin Dolig cerddorol.

 
Pris Safonol £8.00

Ynghyd â ffi postio opsiynol o £1.50.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

 
Bwciwch Nawr