Spencer a Vogue - WEDI'I GANSLO
Dydd Iau 15 Chwefror 2024, 7.30pm
Y FFEFRYNNAU PODLEDU
SPENCER MATTHEWS A VOGUE WILLIAMS YN DOD Â’U
SIOE SGUBOL O LWYDDIANNUS I GAERDYDD
Mae dau o bodledwyr mwyaf poblogaidd gwledydd Prydain, y darlledwyr a’r pâr priod Spencer Matthews a Vogue Williams, yn cefnu ar y bwth recordio i’w chychwyn hi ar eu Taith FYW! gyntaf erioed ac maen nhw’n dod i GAERDYDD.
Ym mis Awst 2020 y cychwynnodd y podlediad Spencer and Vogue ac aeth ar ei ben i frig y siartiau podledu ar gefn dim ond y rhagflas.Bellach dyma nhw’n gwahodd y gwrandawyr i ddod atyn nhw’n FYW!i noson o straeon a chipiau ar eu bywyd a be sy’n eu gyrru nhw.
Mae’r daith newydd, Spencer and Vogue LIVE! yn dod i Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd nos Iau Chwefror 15 ac yn cynnwys noson yn y London Palladium byd-enwog.
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.
Fel mae’r miliynau o wrandawyr sy’n codi Spencer and Vogue bob wythnos yn gwbod yn barod, chewch chi fyth sgwrs ddiflas na diffyg barn pan fydd y ddau yma’r tu ôl i’r meicroffon. Caiff cynulleidfaoedd Spencer and Vogue LIVE! wybod be maen nhw’n ei wneud, ei feddwl ac yn anghydweld amdano, yn glòs ac yn y cnawd.
Yn sôn am y daith newydd, meddai’r cyflwynydd a’r DJ Vogue: “I’m so happy we get to take our podcast on tour.We have dug deep and I have managed to find some unexpected things about Spenno that I can’t wait to share with you!He on the other hand would rather they stay in the vault… We want everyone to have a great night out and as much fun as possible at our show.”
Ac meddai’r gwneuthurwr ffilmiau, y podledwr a’r entrepreneur Spencer wedyn: “The things that Vogue is looking to put in the show are absolutely ghastly and the thought of sharing them with an audience has me on edge to say the least….I can’t imagine you won’t find it funny.”
Rhannodd Spencer a Vogue eu bywyd ar y cyd ar y sioeau E4 Spencer, Vogue and Baby Too a Spencer, Vogue and Wedding Two cyn troi at bodlediadau.
Aeth y podlediad dan eu henwau’u hunain Spencer and Vogue i frig siart podlediadau Apple ar gefn dim ond eu rhagflas, cyn iddyn nhw hyd yn oed recordio rhaglen gyflawn.Ymhlith eu podlediadau eraill mae sioe Spencer ar BBC Sounds 6 Degrees with Jamie and Spencer a’r podlediad busnes Big Fish i Global, a sioe fawr ei chlod Vogue My Therapist Ghosted Me.
Cyfarfu’r pâr yn 2017 pan aeth y ddau ar y gyfres Sianel 4 The Jump, yr aeth Spencer ymlaen i’w ennill – a Vogue yn gorfod gadael y sioe ar ôl anaf hyfforddi.Priododd y ddau’r flwyddyn wedyn ac mae ganddyn nhw dri o blant.
Yn gynharach eleni rhyddhaodd Spencer y rhaglen ddogfen Finding Michael, lle teithiodd i Everest i chwilio am gorff ei frawd Michael aeth ar goll dair blynedd ar hugain yn ôl.Sylfaenodd y brand dim alcohol Clean yn 2019 a chystadlu mewn heriau heinifrywdd eithafol gan gynnwys Marathon Des Sables a Jungle Ultra Marathon.
Ochr yn ochr â’i phodlediadau, mae Vogue fwyaf adnabyddus am ei gwaith teledu gan gynnwys Send NudesE4, Steph’s Packed Lunch ar Sianel 4, a hicyn ffasiwn rheolaidd ar Lorrainear ITV.