Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

The World According to Kaleb - WEDI'I GANSLO

  • Rhaid i blant dan 14 oed fod gydag oedolyn
 

Caewch y giât! Mae Kaleb Cooper, cawr ymhlith ffarmwrs o fri Chipping Norton ac un o awduron gwerthwyr gorau’r Sunday Times, a hyrddiodd i enwogrwydd yn serennu yng nghyfres Prime Video, Clarkson’s Farm, wedi penderfynu bod yn drech na’i ofn yr anhysbys a’i chychwyn hi ar ei daith theatr gyntaf erioed yn THE WORLD ACCORDING TO KALEB – KALEB GOES ON TOUR.

Mae Kaleb wedi cipio calonnau gwylwyr drwy’r byd yn grwn yn ei ymgais – sy’n aml yn seithug – i ddysgu ambell i beth am ffarmio i Jeremy Clarkson, ac at hynny ei sylwadau digri dros ben am fywyd, y bydysawd a phopeth.  Ffarmwr yn anad dim ydi Kaleb sydd bellach yn dysgu rhywbeth newydd ei hun, yn camu allan o filltir sgwâr ei Chippy annwyl i dretio cynulleidfaoedd i reiat sgubol o sioe.

Caiff ei selogion ddisgwyl clywed barn ddiysgog Kaleb ar fyrddiwn o bethau – gan gynnwys defaid (‘stupid’), Jeremy Clarkson (f***ing idiot’), geifr (‘they’re a proper good clear-up animal – they eat everything – no wonder they taste horrible’), Efrog Newydd (‘if it’s like London where there are no tractors, that’s no good’), enwogion, pam mai ffarmio ydi’r gwaith gorau yn y byd a materion o’r pwys mwyaf ym myd dillad megis steils gwallt – yn enwedig ei steil gwallt ei hun!

Serch ei safle annisgwyl yn enw ar enau pawb, deil Kaleb i fod yr un un ffarmwr diwyd, di-lol â’i draed yn sad ar y ddaear. Yn y sioe fe rydd i gynulleidfaoedd y cyfle i gymryd rhan mewn difyrion cefn gwlad pur ddiddorol, yn ogystal â dwyn i’r amlwg rai o’r heriau lawer sy’n wynebu ffarmwrs Prydain heddiw a hwyrach rannu sut y gallwn ni i gyd helpu i wneud gwahaniaeth a’u cefnogi.

THE WORLD ACCORDING TO KALEB - KALEB GOES ON TOUR 
A’i smaldod sy’n aml yn ddiarwybod, ei draddodi di-wên a’i sylwadau dihafal, mae Kaleb yn ei mentro hi i dref yn eich cyffiniau chi, i ddweud ei ddweud fel y gwêl yntau bethau!

 
  • Pris safonol: £29.50 | £34.50 | £39.50
  • Grwpiau o 10 neu fwy (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444): pob tocyn £2 yr rhatach
  • Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) @ £29.50 yr un

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

Logo Hynt

 

 
Wedi’i ganslo