Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Dr Michael Mosley ac Dr Clare Bailey - Eat (well), Sleep (better), Live (longer) - WEDI'I GANSLO

Am y tro cyntaf erioed mae’r tîm gŵr a gwraig y Dr Michael Mosley a’r Dr Clare Bailey yn hel eu pac i gychwyn ar daith theatr ar y cyd yng ngwledydd Prydain, yn eu sioe lwyfan fyw newydd sbon danlli y bu mawr edrych ymlaen ati, EAT (Well), SLEEP (Better), LIVE (Longer!).

Dros y blynyddoedd mae’r Dr Michael Mosley a’r Dr Clare Bailey wedi newid bywydau â’u llyfrau sydd gyda’r gwerthwyr gorau drwy’r gwledydd, eu rhaglenni arobryn (Trust Me I’m A Doctor), a’u podlediad ar frig y siartiau (Just One Thing). Gwerthodd Michael dros bum miliwn o gopïau clawr meddwl yn Saesneg a dros 630 mil o elyfrau (The Fast 800, Fast 800 Recipe Book), a llyfrau resipis Clare yn cyrraedd Rhif Un bob tro y’u cyhoeddir.

Mewn sioe fyw fydd heb os yn llawn gwybodaeth, yn ddifyr ac yn rhyngweithiol dros ben bydd y ddau Gamaliel byd iechyd yn arddangos coginio ac yn rhannu ffeithiau tan gamp o ran be allwn ni’i wneud i gynnal ffordd o fyw iach…..

“Dr Mosley is a brilliant Mr Motivator”
The Times

Dr Mosley is lucid, informed, clever
Daily Telegraph

One of our favourite doctors of all time 
Chris Evans, broadcaster

 
  • Pris safonol: £25 | £27 | £30
  • Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) @ £25 yr un
  • Time Credits (Ychydig sydd ar gael) (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444): gredyd

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

Logo Hynt

 

 
Wedi’i ganslo
 

Wyddech Chi….

  • Fod yfed sudd betys cochion yn lleihau eich pwysau gwaed ac yn chwyddo eich perfformiad corfforol drwy ledu eich llestri gwaed
  • Bod anadlu dwfn araf yn cynnau eich system nerfol parasympathetig, gan arafu eich calon, eich tawelu a’i gwneud yn haws i chi fynd i gysgu
  • Mai un o’r prif resymau mae merched canol oed yn magu pwysau ydi am nad ydyn nhw’n bwyta digon o brotein; protein ydi’r ysgogwr chwant bwyd yn anad yr un ac mae’r lefelau protein a argymhellir ar hyn o bryd yn rhy isel o lawer, yn enwedig i ferched atal-mislifol
  • Eich bod yn mynd yn fwy heini ac yn llosgi mwy o galorïau pan fyddwch yn cerdded i lawr grisiau nag yn cerdded i fyny
  • Mai un o’r rhesymau mae dawnsio’n eli i’r galon i ni ydi am ei fod yn peri rhyddhau sylweddau fel canabis yn ein gwaed
  • Bod yfed gwin coch yn gallu gwarchod eich calon, lleihau peryg cael diabetes a rhoi hwb i iechyd eich ymysgaroedd.

Astudiodd Michael Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg yn Rhydychen ac wedyn mynd yn fancer buddsoddi cyn ailhyfforddi’n feddyg yn Royal Free Hospital Llundain. Sylweddolodd nad hyn mo’i bethau ac ymuno â’r BBC yn gynhyrchydd cynorthwyol dan hyfforddiant a dros y chwarter canrif wedyn gwnaeth raglenni dogfen gwyddoniaeth a hanes rhif y gwlith i’r BBC, yn gyntaf y tu ôl i’r camera ac yn fwy diweddar yn gyflwynydd.

Mae Clare yn feddyg teulu ers mwy na deng mlynedd ar hugain ac mae’n ymddiddori’n neilltuol mewn hyrwyddo newidiadau deiet a dull o fyw er mwyn colli pwysau, lleihau siwgr yn y gwaed a gwyrdroi diabetes math dau. Wedi gweld y manteision rhoi’r gorau i gymryd meddyginiaeth i gleifion, yn teimlo’n fwy heini ac iach, yn ogystal â theimlo gwelliannau mewn anhwylderau metabolig perthynol eraill megis clefyd iau brasterog heb fod ynghlwm ag alcohol, gordyndra, lipidau, arthritis, ac anhwylderau llidiol eraill, mae’n frwd dros ymorol bod y rhain ar gael fwy.

Mae Michael yn hen law ar lwyfan, wedi teithio – a mynd â hi – yn 2019 yn ei sioe hit Trust Fast Health a’i gwelodd yn chwalu mythau iechyd cyffredin ac yn cynnig dirnadaeth gyfareddol o deithi’r corff dynol.

A phroblemau iechyd meddwl a chorff ar eu cynnydd, bydd Michael a Clare yn ysbrydoli newidiadau syml i weddnewid eich bywyd, fel y gallwn ni i gyd Fwyta (yn Dda), Cysgu (yn Well), Byw (yn Hwy!)