Syr Ranulph Fiennes - I'W GADARNHAU | Gwybodaeth wedi'i diweddaru i ddilyn
Mad, Bad and Dangerous to Know
Dydd Sul 18 Chwefror 2024, 7.30pm
Dewch i fwrw noson yng nghwmni rhyfeddol Syr Ranulph Fiennes, OBE – ‘the world’s greatest living explorer’ – ac yntau’n mynd y tu hwnt i’w orchestion dorrodd recordiau i chwilio’r dyn y tu ôl i’r myth.
Yn fyw ar lwyfan bydd Syr Ranulph yn rhannu hanesion ei gampau a’i anturiaethau chwedlonol, yn adrodd straeon heb eu dweud - straeon gorchestion menter a fforio rhyfeddol.
Mae’n adrodd ei hanesion yn ei ffordd ddihafal ei hun ac i’w canlyn mae delweddau a fideos cartre digon i’ch hurtio nas gwelwyd erioed o’r blaen – dyma sioe fydd yn eich difyrru, does dim dau, ac yn eich ysbrydoli i fynd ar ôl eich anturiaethau bywyd eich hun.
CYFYNGIAD OED: 12+