Grayson Perry: A Show for Normal People
Dydd Llun 8 Tachwedd 2021, 7.30pm
Bwciwch NawrSerch bod yn artist arobryn, yn gyflwynydd teledu enillodd wobr Bafta, yn Ddarlithydd Reith ac yn awdur sy’n gwerthu fel slecs, rhywun normal ydi Grayson Perry – ac yn union run fath â phobl normal eraill, mae’n rhyw frith ymwybodol ein bod ni i gyd yn mynd i farw.
Yn Essex ym 1960 y ganed Grayson ac mae ei yrfa’n ymestyn dros ddeugain mlynedd. O’i A House for Essex, adeilad parhaol a godwyd yng nghefn gwlad gogledd Essex yn 2015, hyd at Grayson Perry’s Big American Road Trip – cyfres deithio ddogfen deiran lle chwiliodd ystyr y Freuddwyd Americanaidd yn yr oes sydd ohoni - a Grayson’s Art Club, a ddaeth â’r cenhedloedd ynghyd yn ystod y clo drwy gelfyddyd, gwneud gweithiau newydd a llywyddu dosbarthiadau meistr, mae Perry yn dipyn o hen law ar wneud lemonêd o gyffredinedd bywyd.
Dewch at Grayson gael iddo fynd â chi drwy noson fydd yn agoriad llygad ac yn syndod, lle mae’r math yma o ddirfodaeth yn plymio o’r gwiw i’r gwirion. Gewch chi fynd adre’n ddiogel ac yn glyd o wybod, yn y pen draw, na does dim byd o bwys beth bynnag.
Dewch at Grayson ac yntau’n gofyn, ac efallai’n ateb, y cwestiynau mawr hyn mewn noson a fydd, does dim dwywaith, yn tynnu’ch meddwl chi oddi ar ddiffyg ystyr bywyd fel na all neb ond dyn mewn ffrog.
A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07391 791934. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.
*Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.