The Gilmour Project - WEDI'I GANSLO
Band sy’n sêr i gyd yn chwilio cerddoriaeth Pink Floyd a David Gilmour
Dydd Sadwrn 10 Chwefror 2024, 7.00pm
Drysau yn agor am 7pm
Yn perfformio cerddoriaeth fythol Pink Floyd a David Gilmour gyda band sy’n sêr i gyd, mae THE GILMOUR PROJECT yn falch iawn o gyhoeddi eu taith début yng ngwledydd Prydain.
Jeff Pavar (gitâr blaen gyda CSN, David Crosby/CPR, Phil Lesh), Kasim Sulton (gitâr bas a llais gyda Todd Rundgren, Utopia, Meatloaf), Prairie Prince (cydsylfaenydd The Tubes, drymiwr gwreiddiol gyda Journey, drymiau gyda Todd Rundgren), Mark Karan (gitâr a llais gyda Bob Weir, RatDog, The Other Ones), Scott Guberman (allweddell a llais gyda Phil Lesh & Friends) ydi aelodau The Gilmour Project sy’n dwyn ynghyd rai o chwaraewyr mwya’u parch byd cerdd i chwilio blynyddoedd Gilmour catalog Pink Floyd yn eu holl gymhlethdod, ochr yn ochr ag uchelfannau nodedig o ganon solo Gilmour ei hun.
Maen nhw newydd ddod i ben taith enfawr bum oed a hanner cant ar draws Gogledd America i ddathlu campwaith Pink Floyd o’r flwyddyn 1973, The Dark Side of The Moon, taith gafodd groeso aruthrol gan y wasg a chynulleidfaoedd fel ei gilydd.
Does dim golwg arafu dim ar y galw am y band ac yn 2024 bydd The Gilmour Project yn dod â’i sioe ddi-ail i wledydd Prydain am y tro cyntaf un. Mae ganddyn nhw dair sioe ar ddeg drwy fis Chwefror y flwyddyn nesaf a’r daith yn mynd â nhw i oedfannau ymhlith goreuon cenhedloedd Prydain, o Royal Concert Hall Nottingham (2 Chwefror), i Roundhouse Llundain (6 Chwefror), cyn dod i ben yn Bridgewater Hall Manceinion ar 19eg Chwefror.
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.
Ensemble pum darn sy’n Sêr i Gyd ydi The Gilmour Project a buan y cafodd y gair o droi’r sgript ‘Band Teyrnged’ ar ei phen yn sgil ei berfformiadau archwiliol o glasuron eiconig ac anhysbys Pink Floyd, cyfansoddiadau solo David Gilmour neu lle mae wrth eu craidd, a thynnu campweithiau roc clasurol annisgwyl allan o’u hetiau. Ymddangosodd ‘Running Up That Hill’ Kate Bush yn eu setiau, wythnosau o flaen ei hatgyfodiad i frig y siartiau a’r wasg drwy’r byd yn grwn ar gefn ‘Stranger Things’, yn fwganllyd o amserol.
Yn cychwyn o galon saernïaeth gerddorol Pink Floyd, mae’r arch-sêr yma’n rhoi cyfle i’w gilydd esgyn mewn byrfyfyrio cydweithredol i fynegi o’r eigion enaid y gerddoriaeth ddofn yma. Mae’r cerddorion stadiwm, y cerddorion oes hyn, yn ychwanegu min newydd, dilys at effaith bencampwriaethol y cyfansoddiadau, yn well na dim ond band teyrnged. Roedd penboethion Floyd ledled Gogledd America (yr Unol Daleithiau, Canada a Mecsico) yn syfrdan syn o weld sioncrwydd yr artistiaid unplyg ymroddedig a hybarch hyn yn plymio i ddyfnderoedd catalog o hits, traciau anhysbys a gweddau syfrdanol ar ganeuon pobol eraill yn unedig â synfyfyrdod Pink Floyd anorthrech.
Roedd eu sbloets ‘Floydaidd’ amlgyfrwng wreiddiol yn ymgadw rhag dwyn asedau a delweddau cynhyrchu Floyd/Gilmour – yn dibynnu, yn hytrach, ar gyneddfau gweledol a grëwyd gan LD Hans Shoop (Blondie a Todd Rundgren) mawr ei glod a dylunio sain pedryffonig ac effeithiau sain arbennig gan The Duke of New York (cynhyrchydd Graceland – The Remixes Paul Simon). Ffrydiwyd pob sioe yn fyw, gyda moderneiddio tudalen o ganllaw marchnata nihilistaidd Grateful Dead, ac ymorol bod y perfformiadau ar gael am ddim drwy’r byd yn grwn i’r rheini oedd yn methu dod oherwydd pryderon Covid, neu’n methu dod am eu bod ar ochr arall y blaned.
Dyma’r Gilmour Project:
· Jeff Pevar (gitâr blaen gyda CSN, David Crosby/CPR, Joe Cocker, Ray Charles, Bette Midler, Phil Lesh & Friends, Ricki Lee Jones, Marc Cohn).
· Kasim Sulton (cyfarwyddwr cerddorol a gitâr bas gyda, gitâr bas a llais gyda Todd Rundgren’s Utopia, Blue Oyster Cult, Hall & Oates, Cheap Trick, Cyndi Lauper a Joan Jett).
· Prairie Prince (cyd-sylfaenydd The Tubes, drymiwr gwreiddiol gyda Journey, drymiau gyda Todd Rundgren, Blue Floyd, Jefferson Starship, Phil Lesh & Friends, XTC, George Harrison, Chris Isaak, Dick Dale).
· Mark Karan (gitâr a llais gyda Bob Weir, RatDog, The Other Ones, Dave Mason, Live Dead ’69).
· Scott Guberman allweddell a llais gyda Phil Lesh & Friends, Live Dead ’69, Keystone Revisited.