Rick Wakeman - WEDI'I GANSLO
Return of the Caped Crusader performing Classic Yes + Journey To The Centre Of The Earth
Dydd Mercher 21 Chwefror 2024, 7.30pm
THE RETURN OF THE CAPED CRUSADER…
Mae RICK WAKEMAN yn mynd â’i fand ar daith mewn noson o prog roc clasurol ym mis Chwefror 2024.
Ar 22 a 23 Chwefror eleni, rhoes Rick Wakeman CBE a’r English Rock Ensemble dro drachefn am ei ôl-gatalog lluos-blatinwm – yn solo a gyda’i hen fand YES – mewn dau gyngerdd dan eu sang yn y London Palladium mawr ei fri.Cafodd eu perfformiadau’r fath groeso gorfoleddus gan y gynulleidfa a’r cyfryngau fel ei gilydd fel y penderfynodd Rick fynd â’r sioe ar daith, sef The Return Of The Caped Crusader… Taith yng ngwledydd Prydain yn 2024.
Bydd y sioe ddwyran yn cynnwys trefniannau newydd Rick o ddeunydd YES Clasurol i fand a lleisiau, ac wedyn ar ôl yr egwyl y ffefryn mawr, ei arwrgerdd Journey to the Centre of the Earth.
Rick, wrth reswm, fydd yn chwarae’r brif ran ar yr allweddellau, a rheng yr English Rock Ensemble yr un fath â sioeau’r Palladium: Dave Colquhoun (gitarau a lleisiau’n gefn), Adam Falkner (drymiau), Lee Pomeroy (gitâr bas a lleisiau’n gefn), Hayley Sanderson (lleisiau) a Adam Wakeman (allweddell, gitarau a lleisiau’n gefn).
“I was amazed to discover that we could have sold the Palladium shows many times over and the clamour for extra shows by fans who missed out was overwhelming,” meddai Rick.“Following the great reaction and reviews of the shows, I am really pleased that we can again perform the Classic YES / Journey to the Centre of the Earth Palladium programme.Who knows?If these are successful, maybe we can do the Six Wives / King Arthur show at a later date!”
Pa un ai’n artist solo, gyda’i albymau’i hun oedd yn torri tir newydd The Six Wives of Henry VIII, Journey to the Centre of the Earth a The Myths and Legends of King Arthur and the Knights of the Round Table, neu’n aelod o’r band YES, yn helpu i greu’r recordiau arloesol fel Fragile, Close To The Edge a Tales From Topographic Oceans, mae i Rick Wakeman safle chwedlonol yn hanes roc blaengar.Gewch chi ddisgwyl clywed Rick a’r English Rock Ensemble yn rhoi gwedd newydd sbon danlli grai ar roc clasurol, ar eu gorau oll ar daith rhy dda i’w cholli!
Adolygiadau o sioeau’r London Palladium:
‘I left feeling I’d seen two of the most iconic gigs of Rick’s career!’
Prog Report
‘It felt like a privilege to be at such an event.’
Velvet Thunder
Dan 16 oed i fod yng nghwmni oedolyn.
Llun gan: Lee Wilkinson
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.