Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Johnny Cash Roadshow - WEDI'I GANSLO

Yr unig sioe mae’r Teulu Cash yn ei chymeradwyo! Mae’r Johnny Cash Roadshow yn ei hôl ac yn well nag erioed.  Mae’r artist arobryn Clive John yn talu teyrnged i yrfa Cash fel y Dyn yn ei Ddu, ochr yn ochr â’i wraig eiconig June Carter (Meghan Thomas) a band ar y brig go iawn yn canu’r basgrwth, Fender Telecaster a gitarau acwstig, y drymiau, y piano, yr utgorn a chytgordiau i bedwar llais.  Mae’r sioe eleni’n rhoi’r hits i gyd i chi, megis Walk the Line, Ring of Fire, Jackson, Orange Blossom Special a Boy Named Sue ochr yn ochr â rhai o’r caneuon tywyllach, llawn awyrgylch, megis Hurt, o’r American Recordings diweddarach ac mae hi’n reid colli cylla emosiynol drwy yrfa Cash, yn noson lawn dop o ddifyrrwch bythgofiadwy.  

Bob nos mae’r Johnny Cash Roadshow yn cael cymeradwyaeth sefyll a dyma’r dathliad Johnny Cash sydd ar fynd hwyaf, a gydnabyddir fwyaf ac sy’n dal i fod y mwyaf a’r gorau yn y byd heddiw – pan ddaw i ben byddwch yn ysu am fwy does dim dau.  
 

Dyfyniadau o gymeradwyaeth y teulu Cash 

‘His Resemblance is uncanny’ – Rosanne Cash,

‘Clive captures my Grandfather JUST as he was’  - Caitlin Crowell -Granddaughter of Johnny Cash

‘Absolutely authentic to the point where it felt as if it wasn't a tribute’ - Caitlin Crowell -Granddaughter of Johnny Cash

Clive sings moves and acts just like the 'Man in Black.' The Johnny Cash legend will continue.... Lasse Lindfors - Author and lifelong friend of Johnny Cash

 

Adolygiadau’r Wasg

‘Extraordinary concert’ (Daily Record and Sunday Mail)

Every bit as Dark as Cash himself (York Mix)

 A voice better than the original’ (John Wheatcroft, York Mix)

‘the closest we will get to attending a Johnny Cash concert. We should be grateful for this opportunity’ (The Edge, Bournemouth)

‘What an amazing show, you could have sworn that Johnny Cash was there with you’ ***** (The Ironworks, Inverness)

‘Clive John was mesmerizing as the Man in Black’ (John Carter, New Theatre, Oxford)

‘Energetic and entertaining 5 Star show’ (What’s on stage)

‘Pull out all the stops to see Clive John and his show it is one which is exciting, memorable and quite frankly, unforgettable. ‘ (Carol Lovatt, Whats on, Birmingham) 

 
  • Pris safonol: £25
  • Cyfeillion Neuadd Deri Sant: £2 yn llai
  • Gweithwyr GIG: 2-4-1 gyda cherdyn gostyngiad golau glas dilys bey gerdyn adnabod dilys
  • Time Credits (Ychydig sydd ar gael) (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444): 2 gredyd

Plus an optional £2.00 postage fee.
For Hynt tickets, please contact Box Office on 02920 878444. Limited availability - please book early to avoid disappointment.

Hynt logo

 
Wedi’i ganslo