A Vision of Elvis - WEDI'I GANSLO
Dydd Sadwrn 6 Ionawr 2024, 7.30pm
Rhowch eich sgidiau swêd glas am eich traed a dod i ddathlu cerddoriaeth Brenin Roc a Rôl yng nghwmni Elvis gorau oll gwledydd Prydain – Rob Kingsley – a’i gast dawnus. Dyma ailgreu’n syfrdanol un o gyngherddau byw Elvis Presley, yn mynd â chi ar daith glyweled aruthrol drwy amser fel na welsoch erioed mo’i thebyg.
Yn cynnwys yr hits Stuck on You - It's Now or Never - Return to Sender - GI Blues - Suspicious Minds - The Wonder Of You - American Trilogy a llond gwlad at hynny.
Mae Rob yn meithrin perthynas â’r gynulleidfa ar ei ben – cyn gynted ag y dechreua’r sioe gewch chi’ch cipio ar reid colli cylla teimladol, yn rhan o sbloets gerddorol sy’n Elvis o waed coch cyfan!
Cymeradwyir yn Swyddogol gan Elvis Presley Enterprises (EPE) ar gyfer cyfraniadau elusennol ac fe’i Cymeradwyir yn Swyddogol gan Mr Ed Bonja, Ffotograffydd a Rheolwr Teithio Elvis (1970-1977), a ddywedodd: “On stage Rob Kingsley looks extraordinarily like Elvis. He sings like Elvis, but most importantly, he seems to capture the very soul of Elvis – his charisma, his gestures – hell, he even walks like Elvis!"
Yn perfformio i filoedd o selogion mewn theatrau, gwyliau ac arenâu mawr drwy’r byd yn grwn, gadawodd A Vision of Elvis ei hôl ar hanes o fod y sioe gyntaf gan un o artistiaid teyrnged Elvis i berfformio yn y New Wembley Stadium, i dros hanner can mil o bobol.
www.elvistributeuk.com
“The King is Back” Rolling Stones Magazine
“Like a one to one with Elvis”
President of the Official Elvis Presley Fan Club Finland
“Elvis was in the building” President of the Official Elvis Presley Fan Club India
“Entertaining, enthralling and electric” TheLatest.co.uk
“Simply Superb” North West End
“The best just got better" Lorna Weekes, Theatre Reviewer
Bwriwyd pleidlais drosto’n Flaenaf Artist Teyrnged Elvis Presley ac yn Artist Gorau Dros Bawb yn y
Gwobrau Cerdd Deyrnged Cenedlaethol
Pencampwr Mawr Ewrop yng Nghystadleuaeth Elvis Fwyaf Ewrop
Bwriwyd pleidlais drosto’n Elvis Vegas Gorau yng Nghystadleuaeth
Elvis Fwyaf Ewrop
A thâl postio o £2.00 yn ôl eich dewis.
Ar gyfer tocynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Hyn a hyn sydd ar gael – cofiwch eu codi’n fuan rhag cael eich siomi.