The Sensational 60s Experience: Taith y Dengmlwyddiant

Daw’r sioe chwe degau fwyaf a gorau sydd ar daith yng ngwledydd Prydain yn ei hôl i Neuadd Dewi Sant Caerdydd am un noson yn unig.   Mae cynhyrchiad 2020 yn newydd sbon danlli grai i ddathlu eu dengmlwyddiant.  Mae’r Sensational 60’s Experience yn dod â swae deirawr atoch chi o hiraeth pur y chwe degau.   Dyma sioe sy’n eli i’r galon does dim dau a bydd yn eich cipio chi’n ôl i'r degawd hud hwnnw, sef y 1960au.   Daw chwe enw chwedlonol i’r llwyfan a rhoi noson fythgofiadwy i chi lle’i cewch chi hi’n anodd aros ar eich eistedd. 

Pa un a ddowch chi i ail-fyw eich atgofion bore oes ynteu dim ond eisiau gweld be mae’ch rhieni’n gwynfydu yn ei gylch ers oes mul.   Dewch i brofi rhyfeddodau cerddorol y chwe degau drosoch eich hun. Dan ei sang o glasuron bythol, dyma sioe’r chwe degau ar gyfer 2020 sy’n rhy dda i’w cholli. 

Yn serennu Mike Pender (llais gwreiddiol y Searchers) y Trems (i gyd yn gyn-aelodau o’r Tremeloes) y Fortunes, y Swinging Blue Jeans a’r Dakotas. Ymhlith yr hits mae Needles and Pins, Silence Is Golden, Storm In A Teacup, Hippy Hippy Shake, Little Children a llond gwlad at hynny.   Camwch yn ôl mewn amser i’r oes pan oedd cerddoriaeth pop ar ei gorau oll. 

CODWCH DOCYNNAU RHAG BLAEN I YMOROL AM EICH SEDD

 
 Pris Safonol £30.50
 Grwpiau Codi deg a chael un AM DDIM

Ynghyd â ffi postio opsiynol o £1.50.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

 
Bwciwch Nawr