The Hollies
Dydd Llun 18 Hydref 2021, 7.00pm
Drysau yn agor am 7pm
DRYSAU'N AGOR 7PM
Mae eiconau chwedlonol roc Prydain, yr Hollies, wedi cyhoeddi taith enfawr 23 o oedau yng ngwledydd Prydain yn hydref 2021.
Mae’r band yn enwog yn sgìl eu halawon neilltuol, esgynnol a’u caneuon gwych o grefftus a bydd y daith ‘The Road Is Long: An Evening With The Hollies’ yn eu gweld yn perfformio eu hits mwyaf adnabyddus gan gynnwys He Ain’t Heavy, He’s My Brother, The Air That I Breathe, Long Cool Woman (In A Black Dress), Bus Stop, Carrie-Anne a Sorry Suzanne.
Yn y rheng mae’r drymiwr egnïol Bobby Elliott, a’r canwr, y cyfansoddwr caneuon, a’r gitarydd blaen Tony Hicks, ill dau’n aelodau gwreiddiol o’r band.Atyn nhw daw’r canwr blaen Peter Howarth, yn ogystal â’r chwaraewr bas Ray Stiles, y canwr Allweddell Ian Parker, a Steve Lauri ar y Gitâr Rhythm.
Mae dawn gerddorol wâr yr Hollies, ynghyd ag ôl-gatalog helaeth o alawon roc a rôl cofiadwy, wedi ymorol am hir oes un o’r grwpiau mwyaf ddaeth i’r fei o Chwyldro Roc Prydain ddechrau’r chwe degau.
Ym 1995, rhoddwyd iddyn nhw Wobr Ivor Novello a fawr chwenychir am Gyfraniad Eithriadol i Gerddoriaeth Prydain, ac yn 2010 fe’u hurddwyd i Oriel Enwogion Roc a Rôl America am eu ‘heffaith ar dwf, datblygiad a pharhad Roc a Rôl’.
Mae pecynnau VIP hefyd ar gael yn cynnwys cwrdd a chyfarch y band, cyfle i dynnu lluniau, llun wedi’i lofnodi a chofrodd laminedig VIP.
A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07391 791934. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.