Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan yma’n defnyddio briwsion er mwyn gweithio. O ddal i ddefnyddio’r wefan yma, rydych yn derbyn ein bod yn gosod briwsion ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi briwsion i gael rhagor o wybodaeth. 

Mae Neuadd Dewi Sant ar gau i’r cyhoedd hyd nes clywir yn wahanol, mewn grym ar unwaith gan ein bod yn dal at gyngor a roddwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae diogelwch ein cyngherddwyr, ein staff a’n hartistiaid o’r pwys mwyaf.

Bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar y wefan.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

The Best of That'll Be The Day

Mae strafagansa yn heigio gan hiraeth yn eich aros chi, a phennaf berfformiad Roc a Rôl amryfath gwledydd Prydain yn dod yn ei ôl, sef THE BEST OF THAT’LL BE THE DAY!  

Mae’r rhifyn arbennig iawn yma o’r sioe’n cyflwyno’r caneuon, y dynwarediadau a’r sgetshis doniol y mae’r mwyaf o alw amdanyn nhw, o dros dair blynedd ar ddeg ar hugain ar daith! 

Bydd yma hits ysgubol o’r pum degau, y chwe degau, y saith degau a’r wyth degau, mewn noson sy’n drem yn ôl ar adloniant gwych a does dim dau na fyddwch ar eich traed yn dawnsio yn yr eiliau ‘cyn bo’r nos wedi dod i ben’! 

Da o beth ydi codi tocynnau rhag blaen gan fod y sioe fythol-boblogaidd yma’n denu cynulleidfa fawr o gerddgarwyr yn barod y gael parti! 

 

 
 Pris Safonol £24 | £27 | £28.50
 Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Dan 16 oed | Dros 60 | Myfyrwyr | Hawlwyr | Pobl anabl ag un cydymaith £1 yn llai
 Grwpiau o 10 neu’n fwy (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar  029 2087 8444) £1 oddi wrth bob tocyn

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.
*Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.

 
Bwciwch Nawr