The Alarm
Y Deugeinmlwyddiant 1981 - 2021
Dydd Sadwrn 5 Mehefin 2021, 7.30pm
Daw’r band chwedlonol o Gymru, The Alarm, i Neuadd Dewi Sant nos Sadwrn 5 Mehefin 2021 i chwarae cyngerdd i ddathlu eu deugeinmlwyddiant.
Mae’r achlysur arbennig iawn yma’n ddeugain mlynedd ar ei ben ers y diwrnod berfformion nhw’u gig cyntaf erioed dan yr enw The Alarm yng Ngwesty’r Royal Victoria ym Mhrestatyn ym 1981.
Y digwyddiad yma fydd diweddglo The Gathering 2021 sy’n cychwyn â phenwythnos, a phob tocyn wedi’i werthu, yn Rhyl sef tref enedigol y band ar 21-22 Mai 2021 a’r blaenwr eiconig Mike yn addo mynd â’u selogion ar daith acwstig agosatoch drwy bedwar degawd o gerdd a chân Alarm.Ar 23 Mai 2021, mae Mike yn derbyn her Creigiau Clawdd Offa – ymdaith codi arian elusennol arwrol gan y sefydliad Cariad Gobaith Nerth i gefnogi prosiectau canser blaenoriaethol.
Meddai Mike:“By hiking the 12-day, 177-mile journey to South Wales, I will literally be linking The Alarm’s past to the present – walking from the site of our first ever gig in Prestatyn to St David’s Hall in Cardiff where we will celebrate The Alarm’s official 40th anniversary from 1981-2021.
“Time is of the essence now and for our 40th anniversary year, I want the band and the fans to carry on in the knowledge that we have given more than we have taken, created more than we have destroyed, loved more than we have lost, and built up more than we have taken down.”
Cofiwch mai cyngerdd ydi hwn lle bydd rhan o’r gynulleidfa ar eu traed a bydd gan y rheini sy’n eistedd yn Rhes F gyngherddwyr yn sefyll o’u blaenau.
Cofiwch mai cyngerdd ydi hwn lle bydd rhan o’r gynulleidfa ar eu traed a bydd gan y rheini sy’n eistedd yn Rhes F gyngherddwyr yn sefyll o’u blaenau.
Ynghyd â ffi postio opsiynol o £1.50.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07391 791934. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.