Mae’r wefan yma’n defnyddio briwsion er mwyn gweithio. O ddal i ddefnyddio’r wefan yma, rydych yn derbyn ein bod yn gosod briwsion ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi briwsion i gael rhagor o wybodaeth.
Mae Neuadd Dewi Sant wedi ei gau i’r cyhoedd tan Dydd Llun 3 Mai 2021 gan ein bod yn glynu wrth gyngor a roddwyd gan Lywodraeth y DU. Mae diogelwch ein cyngherddwyr, ein staff a’n hartistiaid o’r pwys mwyaf. Bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar y wefan.
Mae tocynnau ar gael o'n gwefan fel arfer.
Os digwydd bod arnoch angen cysylltu â ni, rhowch ganiad i’n rhif dros dro ar 07743 839816 / 07391 791934. Mae swyddogion ar ochr arall y llinell ffôn o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.30am – 4.00pm. Cofiwch fod yn amyneddgar gan fod y llinell yn brysur a chofio hefyd ein bod, gwaetha’r modd, yn methu ymateb i negeseuon na thestun na llais a adawir ar y rhif yma.
Dydd Mawrth 18 Mai 2021, 7.00pm Drysau yn agor am 7pm
**AD-DREFNU SIOE | DYDDIAD NEWYDD 19.02.2021 **
Carem roi gwybod i chi fod cyngerdd Texas nos Llun 12 Hydref 2020 wedi’i ohirio tan nos Mawrth 18 Mai 2021, oherwydd y sefyllfa annelwig o ran brigo coronavirus (Covid-19).
Bydd y tocynnau sydd gennych ar hyn o bryd yn ddilys ar gyfer y dyddiad newydd. Rydym yn gobeithio y bydd y dyddiad newydd yn gyfleus i chi.
Texas - AILDREFNU
Datganiad yr hyrwyddwr
"Helo bawb,oherwydd sefyllfa barhaus Covid-19, rydym wedi symud dyddiadau ein taith yn y DU, Iwerddon ac Ynys Manaw i 2021.
Roeddem wedi gobeithio na fyddai angen gwneud hyn, ond diogelwch ein cefnogwyr a'n criw yw'r peth pwysicaf i ni. Edrychwn ymlaen at weld pawb allan ar y ffordd y flwyddyn nesaf."
SJM Concerts yn Cyflwyno Texas Dengmlwyddiant ar Hugain Southside A chwaraeir yn ei grynswth yn ogystal â’r hits
DRYSAU'N AGOR 7PM
Ers dros ddeng mlynedd ar hugain profodd Texas ei fod yn un o fandiau gorau erioed yr Alban ac yn ddim llai na thrysor cenedlaethol i’r de o’r ffin.Maes o law eleni ar BMG, i ddilyn eu recordiad mawr ei glod o’r flwyddyn 2017 ‘Jump On Board,’ daw albwm newydd i’r fei.
I gyd-fynd â’i ryddhau, bydd y band yn chwarae taith enfawr o 24 o oedau, yn cychwyn yn Belfast ac yn dod i ben yn Margate.Bydd hefyd yn chwarae yn y London Palladium.
Ym mis Rhagfyr y llynedd chwaraeodd Texas sioe yn Glasgow, yn SWG3 dan ei sang, ei sioe werthodd gyflymaf erioed.I ddathlu dengmlwyddiant ar hugain ‘Southside’, ei albwm début mawr ei glod o’r flwyddyn 1989, chwaraeodd y band yr albwm cyflawn.Ar ôl llwyddiant ysgubol y sioe honno, penderfynodd Texas wneud yr un peth ar ei daith nesaf, ynghyd â rhestr set yn cynnwys caneuon yn hen a newydd.
Ym 1986 y’i ffurfiwyd - gan Sharleen Spiteri sy’n ddiamheuol wych, lawlaw â Johnny McElhone - ac ar hyd ei yrfa ysgubol o lwyddiannus bu’n cerddora’n gampus, wedi gwerthu dros ddeugain miliwn o recordiau, cael 13 o senglau yn neg uchaf gwledydd Prydain, tri albwm #1 yng ngwledydd Prydain ac wyth albwm yn neg uchaf gwledydd Prydain gan gynnwys eu diweddaraf ‘Jump On Board’.
Mae’r pecyn yma’n cynnwys un o’r seddi gorau yn y tŷ i gael blas ar y sioe
Cyfarfod Sharleen Spiteri a chael tynnu eich llun gyda’ch gilydd gan ein Rheolwr VIP
Cael rhestr set benodol y sioe wedi’i llofnodi ymlaen llaw gan Sharleen Spiteri
Casglu print celf A4 y daith, dim ond i gwsmeriaid VIP
Codi’ch cofrodd laminedig a’ch cortyn gwddw VIP
Texas - Pecyn VIP yn Glòs ac yn Bersonol: £88
TMae’r pecyn yma’n cynnwys un o’r seddi gorau yn y tŷ i gael blas ar y sioe
Cael rhestr set benodol y sioe wedi’i llofnodi ymlaen llaw gan Sharleen Spiteri
Casglu print celf A4 y daith, dim ond i gwsmeriaid VIP
Codi’ch cofrodd laminedig a’ch cortyn gwddw VIP
Defnyddwyr cadair olwyn ac un cydymaith (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 07391 791934): Seddi'r stalau @ £31.50 pob tocyn
A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio. Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07391 791934. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.