Steve Hackett

  • Rhaid i blant dan 14 oed fod gydag oedolyn
 

Selling England By The Pound - Yr Albwm ar ei Hyd a Deugeinmlwyddiant Spectral Mornings ac Uchelfannau’r albwm newydd

Mae Steve Hackett, cyn-gitarydd di-ffrwyn Genesis, yn cyhoeddi ei Daith Ewropeaidd 2019.   Yn ei chychwyn hi ar 2il Tachwedd 2019, bydd Steve a’i fand yn perfformio ugain sioe o gwmpas gwledydd Prydain. 

Am y tro cyntaf erioed bydd Steve yn perfformio’r albwm arloesol gan Genesis, Selling England By The Pound, yn ei grynswth.   Ym 1973 y’i rhyddhawyd, aeth yr albwm i Rif Tri yn siartiau gwledydd Prydain ac fe’i galwyd yn ‘albwm diffiniol Genesis’. Mae’n cynnwys ffefrynnau mawr fel Dancing with the Moonlit Knight, Firth of FifthCinema Show ac, wrth gwrs, I Know What I Like (In Your Wardrobe). ydd hoff draciau clasurol eraill Genesis hefyd yn amlwg eu lle yn y sioe. 

Mae 2019 hefyd yn ddeugeinmlwyddiant un o albymau solo mwyaf poblogaidd Steve sef Spectral Mornings a Steve yn dathlu’r garreg filltir yma’n gymwys drwy berfformio campweithiau o’r albwm.  

Meddai Steve, "I’m thrilled to be performing the whole of my favourite Genesis album, SELLING ENGLAND BY THE POUND, which caught the attention of John Lennon in 1973. I felt that I was now playing guitar in the world’s best band, and everything was opening up for us… 

Also I look forward to playing all the favourite songs from SPECTRAL MORNINGS, marking its anniversary, plus new album tasters, as well as additional Genesis gems in a terrific grand slam!"

 
Pris Safonol £36.50 | £41.50
Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) seddi'r stalau @ £36.50 pob tocyn

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

 
Dim tocynnau ar ôl