Mae’r wefan yma’n defnyddio briwsion er mwyn gweithio. O ddal i ddefnyddio’r wefan yma, rydych yn derbyn ein bod yn gosod briwsion ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi briwsion i gael rhagor o wybodaeth.
Mae Neuadd Dewi Sant wedi ei gau i’r cyhoedd tan Dydd Llun 3 Mai 2021 gan ein bod yn glynu wrth gyngor a roddwyd gan Lywodraeth y DU. Mae diogelwch ein cyngherddwyr, ein staff a’n hartistiaid o’r pwys mwyaf. Bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar y wefan.
Mae tocynnau ar gael o'n gwefan fel arfer.
Os digwydd bod arnoch angen cysylltu â ni, rhowch ganiad i’n rhif dros dro ar 07743 839816 / 07966 264164. Mae swyddogion ar ochr arall y llinell ffôn o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.30am – 4.00pm. Cofiwch fod yn amyneddgar gan fod y llinell yn brysur a chofio hefyd ein bod, gwaetha’r modd, yn methu ymateb i negeseuon na thestun na llais a adawir ar y rhif yma.
Carem roi gwybod i chi fod cyngerdd Sixties Gold nos Sadwrn 24 Hydref 2020 wedi’i ohirio tan nos Gwener 22 Hydref 2021, oherwydd y sefyllfa annelwig o ran brigo coronavirus (Covid-19).
Bydd y tocynnau sydd gennych ar hyn o bryd yn ddilys ar gyfer y dyddiad newydd. Rydym yn gobeithio y bydd y dyddiad newydd yn gyfleus i chi.
The Tremeloes | Mamas and Papas UK | Herman's Hermits The Marmalade | The Merseybeats | PJ Proby Steve Ellis | Dave Berry | Gerry's Pacemakers
Y Tremeloes - wedi gwerthu mwy na chan Miliwn o recordiau drwy’r byd yn grwn, yn cynnwys y ddau chwedlonol Len “Chip” Hawkes a Micky Clarke a’u Hits Rhif Un aruthrol Silence Is Golden, Suddenly You Love Me, Even The Bad Times Are Good, (Call Me) Number One a llond gwlad at hynny!!
Hermans Hermits. Un o fandiau’r chwe degau werthodd orau, bellach yn dathlu eu pumlwyddiant a hanner cant.Ym Manceinion ym 1964 y ffurfiwyd y band a chanddo er ei glod dair ar hugain o Senglau Hit a deg Albwm Hit; ymddangosodd mewn tair ffim fawr a gwerthu mwy na phymtheng a thrigain Miliwn o recordiau.Ymhlith yr hits mae:There’s a Kind of Hush, Silhouettes, Can’t You Hear My Heart Beat, Wonderful World, A Must to Avoid, a llond gwlad at hynny.
Y Merseybeats. Stori lwyddiant arall oLerpwl.Ymhlith y recordiau hit mae Sorrow, I Think of You a Wishin’ and Hopin’.
Marmalade oedd pencampwyr Curiad yr Alban ym 1968, yn ychwanegu at sain y gân pop glasurol â chytgordiau penigamp.Ymhlith y caneuon fu ar frig y siartiau mae:Lovin’ Things, Reflections of My Life, Falling Apart at The Seams, Cousin Norman, a’u llwyddaint sgubol Rhif Un a gyfansoddwyd gan Lennon & McCartney Ob-la-Di Ob-la-Da.
Yr Eicon, un o Arch-Sêr y Chwe Degau, PJ Proby, a wahoddwyd i wledydd Prydain am y tro cyntaf gan y Beatles, a’i hits sgubol yn cynnwys Somewhere, Maria, Together ac wrth gwrs yr hit mwyaf un a gychwynnodd bopeth iddo yng ngwledydd Prydain, Hold Me.
Steve Ellis, canwr blaen gwreiddiol a sylfaenydd Love Affair a gafodd bum sengl yn yr Ugain Uchaf, Rainbow Valley, Bringing On Back The Good Times, A Day Without Love yn cynnwys eu Rhif Un clasurol Everlasting Love.
Dave Berry a’i arddull a’i lais neilltuol a’i hits fu ar frig y siartiauThe Crying Game, Little Things, Memphis Tennessee a Mama.
Mamas and Papas uk, yn cynnwys Terry Bradford, Sussie Arneson, Laurie Briggs a Chris White yn perfformio’r caneuon llwyddiannus gwych Monday Monday, California Dreamin’, Dedicated to the One I love a llond gwlad at hynny.
Yn ymuno â’r rheng mae’r cerddorion o fri Gerry’s Pacemakers fydd yn perfformio rhai o hits aruthrol Gerry Marsden sy’n cynnwys I Like It, How Do You Do It, You’ll Never Walk Alone, Ferry Across the Mersey a llond gwlad at hynny!
Ynghyd â ffi postio opsiynol o £1.50. Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07391 791934. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.