The Robert Cray Band
Dydd Gwener 20 Mai 2022, 7.30pm
Yr Act Gefnogi- 7.30 pm
The Robert Cray Band - 8.30 pm
Bwciwch NawrMae'r gitarydd nodedig a'r canwr-gyfansoddwr Robert Cray yn dychwelyd i'r DU yn 2021 i gefnogi rhyddhau ei albwm newydd, 'That's What I Heard', dathlu cerddoriaeth Curtis Mayfield, Bobby "Blue" Bland, The Sensational Nightingales a mwy, ochr yn ochr â phedair cân newydd eu hysgrifennu.
Mae gwaith gitâr enaid a chreadigol Cray, sy’n cael ei ystyried yn un o gitarwyr gorau ei genhedlaeth, wedi bod yn rym amlwg yn genre’r blws ers dros ddeugain mlynedd, a chaiff ei gydnabod yn eang gan gyfoedion a chynulleidfaoedd fel ei gilydd.
Yn enillydd Grammy pum gwaith, mae Cray wedi ysgrifennu neu berfformio gyda phawb o Eric Clapton a Stevie Ray Vaughan, i John Lee Hooker, gan ddod yn un o'r artistiaid mwyaf poblogaidd o blith cantorion Blws ac Enaid yn ei rinwedd ei hun, a helpu i lywio a lunio ei chwrs ar hyd y ffordd.
Mae cyfle prin ar y gweill i weld yr artist hwn sy’n diffinio’r genre unwaith eto yn profi ei ddoniau, yn eu cyfuno â'r llais arbennig hwnnw, ac yn perfformio ychydig o’r deunydd mwyaf pwerus yn ei gatalog sy’n mynd nôl dros bedair degawd…
Pris Safonol | £32.50 |
Hyn a hyn o Docynnau Cylch Aur | £42.50 |
A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07391 791934. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.