Mae’r wefan yma’n defnyddio briwsion er mwyn gweithio. O ddal i ddefnyddio’r wefan yma, rydych yn derbyn ein bod yn gosod briwsion ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi briwsion i gael rhagor o wybodaeth.
Mae Neuadd Dewi Sant wedi ei gau i’r cyhoedd tan Dydd Llun 3 Mai 2021 gan ein bod yn glynu wrth gyngor a roddwyd gan Lywodraeth y DU. Mae diogelwch ein cyngherddwyr, ein staff a’n hartistiaid o’r pwys mwyaf. Bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar y wefan.
Mae tocynnau ar gael o'n gwefan fel arfer.
Os digwydd bod arnoch angen cysylltu â ni, rhowch ganiad i’n rhif dros dro ar 07743 839816 / 07966 264164. Mae swyddogion ar ochr arall y llinell ffôn o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.30am – 4.00pm. Cofiwch fod yn amyneddgar gan fod y llinell yn brysur a chofio hefyd ein bod, gwaetha’r modd, yn methu ymateb i negeseuon na thestun na llais a adawir ar y rhif yma.
Queen Machine Symphonic Gyda Kerry Ellis - AILDREFNU
Dydd Llun 11 Hydref 2021, 7.30pm
**AD-DREFNU SIOE | DYDDIAD NEWYDD 11.10.2021 **
Bu trefnwyr y digwyddiad mewn cysylltiad i ddweud: ‘Due to the precautionary recommendations from measures taken by the UK Government it will not be possible to move forward with Queen Machine Symphonic currently scheduled for Wednesday 22nd April 2020.
The show will be rescheduled to Monday 11th October 2021. Be assured that the safety and health of artists, staff and fans is our main priority. Hang on to your ticket - it will be valid for the new date’
Queen Machine Symphonic Gyda Kerry Ellis - AILDREFNU
Y SEREN WEST END A BROADWAY KERRY ELLIS YN DOD AT Y BRENIN TEYRNGEDAU ROC QUEEN MACHINE AR DAITH NEWYDD GYDA CHERDDORFA YNG NGWLEDYDD PRYDAIN
Ar y daith gwbl newydd Queen Machine Symphonic gyda Kerry Ellis perfformir hits mwyaf Queen gan y band teyrnged Ewropeaidd Queen Machine i gyfeiliant y London Symphonic Rock Orchestra a dan arweiniad Matthew Freeman, gyda chreu noson fythgofiadwy o anthemau roc.
Ar eu taith gyntaf yng ngwledydd Prydain, dyma Queen Machine, y band teyrnged ar ben y rhestr i Glwb Selogion Rhyngwladol Swyddogol Queen ac un o’r bandiau mwyaf poblogaidd yn eu mamwlad Denmarc a gwledydd cyfagos Llychlyn lle maen nhw’n gwerthu pob tocyn i’w sioeau dro ar ôl tro.
Atyn nhw daw Kerry Ellis, un o brif actoresau theatr gerdd gwledydd Prydain, y gyntaf i chwarae rôl Meat yn nrama gerdd Queen We Will Rock You. Ers hynny meithrinodd berthynas gerddorol a chyfeillgarwch hir â gitarydd Queen, Brian May, sy’n dweud bod gan y seren llwyfan yma “Britain’s most beautiful voice”. Cynhyrchodd ei halbwm Anthems, ac ar y cyd rhyddhaodd y ddau’r un dilynol Golden Days yn 2017, yn ogystal â theithio gwledydd Prydain ac Ewrop yn eang gyda’i gilydd.
Bjarke Baisner sydd ar flaen Queen Machine, i’w glywed ac i’w weld fel y llanc Freddie Mercury, ac ato daw Peter Møller Jeppesen ar y gitâr, Henrik Østergaard ar yr allweddellau, Jens Lunde ar y bas a Paolo Romano Torquati ar y drymiau.
Geiriau Clwb Selogion Rhyngwladol Swyddogol Queen yn sôn am Queen Machine: “Quite simply one of THE best Queen tribute bands we have ever had at any of our events – don’t miss them.”
Meddai Ben Hatton, Cyfarwyddwr Teithio Theatr i’r hyrwyddwyr Cuffe and Taylor: “For fans of the incredible music of Queen this promises to be a must-see show. Brian May describes Kerry Ellis’s voice as ‘perfect’, and she’s long been associated with her versions of Queen tracks.”
Defnyddwyr cadair olwyn ac un cydymaith - Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 07391 791934): Seddi'r stalau @ £37.50 pob tocyn
A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio. Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07391 791934. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.