Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Y Bootleg Beatles mewn Cyngerdd - NEWID LLEOLIAD

Drwy’r byd yn grwn ystyrir y Bootleg Beatles yn safon Aur Teyrnged a dros y Dolig dônt yn eu holau i fynd â chi ar gorwynt o daith hiraethus eto drwy’r chwe degau.  

Yn fanwl gywir ym mhob iot, mae’r band yn llwyddo i ail-greu’n drawiadol sain a golwg y Ffab Ffôr drwy bob cam eiconig ar eu gyrfa o fri, heb flewyn ar dafod yn rhyfedd o ddilys. Does dim ond eisiau darllen yr adolygiadau’n eu canmol i’r cymylau. 

‘Entirely Convincing’- The Times

‘Less a Tribute more a reincarnation’ - The Daily Telegraph

’Glorious ’ – The Liverpool Echo.

Gyda ’mbach o help gan eu ensemble cerddorfaol bythol-boblogaidd, mae’r sioe aml-gyfrwng hudol yma’n rhy dda i benboethion y Beatles o bob oed ei cholli.   

 

 
  • Pris safonol: £34.50 | £37.50 | £41.50 
  • Pecyn VIP (Dim ond ychydig sydd ar gael, a hynny dim ond drwy Neuadd Dewi Sant) @ £78
    - Gwylio’r sioe o’r seddi gorau
    - Bag cario VIP
    - Print poster arbennig y daith, wedi’i lofnodi gan y band. 

    - Un o’r nwyddau arbennig wedi’i ddylunio’n arbennig a DIM OND i ddalwyr tocynnau VIP
    - Rhaglen y Daith
    - Cofrodd laminedig gasgladwy’r daith a chortyn gwddw sy’n rhoi hawl i chi fynd i’ch bar arian parod preifat eich hun. (Cyn y sioe ac yn yr egwyl)
    - Diod pan gyrhaeddwch chi

  • Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Dros 60 | Myfyrwyr | Hawlwyr | Pobl anabl ag un cydymaith: £1 oddi wrth bob tocyn
  • Grwwpiau o 10 neu’n fwy (ffoniwch y Swyddfa Docynnau Ar 02920 878444): £1 oddi with bob tocyn 

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 

Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.
*Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.

Logo Hynt

 
Bwciwch Nawr