Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Sophie Ellis-Bextor - NEWID LLEOLIAD

Yn dilyn llwyddiant ysgubol ei thaith Kitchen Disco yn 2022 pan ddaeth â’i sleifar o sioe ar lein o’r cyfnod clo o’i chegin i lwyfannau mewn tai dan eu sang drwy hyd a lled gwledydd yr ynysoedd hyn, mae Sophie Ellis-Bextor wedi cyhoeddi taith Christmas Kitchen Disco arbennig iawn at 2023.

Bydd taith 2023 yn ei chychwyn hi yn Bexhill, cyn ei throi hi ledled gwledydd Prydain yn cynnwys oed yn y London Eventim Apollo, ac arni glywch chi hits o yrfa Sophie ers y dechrau un, ac at hynny clasuron Doligaidd iawn, i gyd yn null disgo tymhorol Sophie ei hun.

Yn gynharach eleni, daeth Sophie â’i sleifar Instagram i’r llwyfan am y tro cyntaf a mynd â hi’n ysgubol, yn cynnwys diweddglo yn y London Palladium oedd dan ei sang.

Meddai The Arts Desk, ‘[Sophie’s Kitchen Disco live show] … truly felt like you were dancing your cares away with some friends’, a ‘warm and relatable’ oedd geiriau’r Mail on Sunday. Chwedl y Daily Telegraph, roedd yn “unabashedly feelgood echo of lockdown”.

At hynny, rhyddhawyd sioe’r London Palladium yn ddiweddar yn albwm byw 24 trac: ‘Sophie Ellis-Bextor’s Kitchen Disco: Live at the London Palladium’. Mae’r rhestr set yn cynnwys clasuron disgo megis ‘All Night Long’ a ‘Dancing Queen’, yn ogystal â hits Sophie ei hun sy’n denu pawb i’r llawr dawnsio gan gynnwys ‘Murder on the Dancefloor’, ‘Groovejet (If This Ain’t Love)’, ‘Take Me Home (A Girl Like Me)’, a’i sengl ddiweddaraf sydd ar restr A Radio 2, ‘Hypnotized’ gyda Wuh Oh.

 
  • Pris safonol: £33.00 | £40.50 | £43.50 | £58.50

A thâl postio dewisol o £2.00.
I gael tocynnau Hynt, ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444 (dim ond hyn a hyn sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi cael eich siomi).

Hynt logo