Far From Saints - LLEOLIAD A NEWID DYDDIAD (AILDREFNWYD O 29/11/23)
Dydd Iau 7 Rhagfyr 2023, 7.00pm
Ar ôl i’w halbwm début sy’n dwyn eu henw gyrraedd safle #5 yn Siart Albymau Swyddogol Prydain a chael clod y beirniaid ar hyd ac ar led, heddiw mae Far From Saints yn cyhoeddi manylion eu taith lawn gyntaf ar ben y rhaglen yng ngwledydd Prydain ochr yn ochr â rhyddhau’r sengl newydd ‘Let The Light Shine Over You’.
Kelly Jones o Stereophonics gyda Patty Lynn a Dwight Baker o The Wind and The Wave ydi Far From Saints sydd eisoes wedi gwneud strôc gyda’u sioeau dethol hyd yn hyn. Cawsant groeso gorfoleddus yn eu sioe ar ben y rhaglen werthodd bob tocyn yn EartH Theatre, buont yng ngwyliau Ynys Wydrin a Black Deer, chwarae stadia gyda Kings of Leon, budd-gyngerdd Teenage Cancer Trust gyda Roger Daltrey, a sioeau mawr yn yr awyr agored gyda Paul Weller ac Incubus. Mae’r daith newydd ar ben y rhaglen yn cynnwys un oed ar bymtheg, yn dod i ben yn Islington Assembly Hall yn Llundain.
Mae sengl newydd Far From Saints ‘Let The Light Shine Over You’ eisoes wedi ennill ei phlwy yn un o hoelion wyth eu sioeau byw a dyma’r croeso gafodd gan The Upcoming: “one of the most stunning tracks on the record, with some gorgeous strings accompanying Jones and Lynn and adding another element to an already vast soundscape.” Dyma goflaid gynnes o gân sy’n mudlosgi’n eneidfawr, a’i geiriau’n rhoi cipolwg ar benderfyniad at yr adegau hynny pan fo bywyd fel pe’n dechrau gofyn gormod gennym.
“Together, the trio knows no bounds, something that’s evident on Far From Saints, a 10-track mediation on life and love that comes alive in shades of country, rock, folk, soul, and Americana.”****– American Songwriter
**** - The Sun, Something For The Weekend
“It’s the combination of Lynn and Jones’s voices that stands out here: gorgeous tune, beautiful harmonies, great tone and texture and emotional delivery.” - Americana UK
Cysylltu â Far From Saints
Gwefan: https://farfromsaintsband.com/
Youtube: https://www.youtube.com/channel/UCrAt785HgGFkZxBTHVeZ5sQ
Facebook: https://www.facebook.com/farfromsaints
Instagram: https://www.instagram.com/farfromsaintsband/
Tiktok: https://www.tiktok.com/@farfromsaintsband