Mae’r wefan yma’n defnyddio briwsion er mwyn gweithio. O ddal i ddefnyddio’r wefan yma, rydych yn derbyn ein bod yn gosod briwsion ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi briwsion i gael rhagor o wybodaeth.
Mae Neuadd Dewi Sant wedi ei gau i’r cyhoedd tan Dydd Llun 3 Mai 2021 gan ein bod yn glynu wrth gyngor a roddwyd gan Lywodraeth y DU. Mae diogelwch ein cyngherddwyr, ein staff a’n hartistiaid o’r pwys mwyaf. Bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar y wefan.
Mae tocynnau ar gael o'n gwefan fel arfer.
Os digwydd bod arnoch angen cysylltu â ni, rhowch ganiad i’n rhif dros dro ar 07743 839816 / 07966 264164. Mae swyddogion ar ochr arall y llinell ffôn o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.30am – 4.00pm. Cofiwch fod yn amyneddgar gan fod y llinell yn brysur a chofio hefyd ein bod, gwaetha’r modd, yn methu ymateb i negeseuon na thestun na llais a adawir ar y rhif yma.
Dydd Mawrth 26 Hydref 2021, 7.00pm Drysau yn agor am 7pm
**AD-DREFNU SIOE | DYDDIAD NEWYDD 26.10.2021 **
Carem roi gwybod i chi fod cyngerdd Level 42 no Llun 26 Hydref 2020 wedi’i ohirio tan nos Mawrth 26 Hydref 2021, oherwydd y sefyllfa annelwig o ran brigo coronavirus (Covid-19).
Bydd y tocynnau sydd gennych ar hyn o bryd yn ddilys ar gyfer y dyddiad newydd. Rydym yn gobeithio y bydd y dyddiad newydd yn gyfleus i chi.
Fe fu 2019 yn flwyddyn brysur iawn eto i Level 42 a’r hogiau’n chwarae ugain o wyliau o Quebec i Rwsia, Denmarc, yr Iseldiroedd, yr Almaen, y Swistir, Iwerddon a gwledydd Prydain, felly gallem faddau i’r band am fod eisiau llaesu dwylo dipyn ar ôl agos i ddeugain mlynedd wrthi fel lladd nadroedd. “No way!” meddai’r canwr bas a’r blaenwr Mark King. “Touring with the band this year has been about as much fun as I can remember having had on the road, and If you had asked me back in 1980 if I thought we would be selling out theatres around the world when I was sixty years old I probably would have laughed! Hand on heart, this year has been AMAZING. Re-invention can be a wonderful thing!” Gwêl 2020 y daith From Eternity To Here a’r hogiau’n hel eu pac i fynd i resiad o wyliau a chyngherddau sydd eisoes yn y dyddiadur.
Hyd yn hyn rhyddhaodd y band a Mark bedwar ar ddeg o albymau stiwdio, saith albwm byw, EP Sirens, a chwe albwm detholiad, heb sôn am ddeunaw sengl yn y Deugain Uchaf, yn cynnwys Lessons in Love, Something About You, Leaving Me Now, Running in the Family, a Hot Water, Wembley Arena dan ei sang am un noson ar hugain a gwerthu mwy na deng miliwn ar hugain o albymau drwy’r byd yn grwn.
Mewn byr o eiriau maen nhw’n un o fandiau mwyaf llwyddiannus Prydain y 1980au, ac yn sgìl ailryddhau’n ddiweddar gatalog enfawr y band ar Universal Music, a’r gyfres ‘Collected’ ar CD a Finyl, mae’n amlwg eu bod yn dal i fod yn feincnod ar flaen y gad ym maes Ffync Jazz Prydain.
Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 07391 791934): Seddi stalau @ £34.50 pob tocyn
A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio. Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07391 791934. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.