Leo Sayer
The Show Must Go On – Taith yr Hanner Canmlwyddiant
Dydd Sul 3 Hydref 2021, 7.30pm
Bwciwch NawrBydd Leo Sayer, un o chwedlau cerddoriaeth Prydain, ar daith yng ngwledydd Prydain yn 2021 yn dathlu ei hanner canmlwyddiant ym myd cerdd. Yn y perfformiad yma, mae Leo a’i fand yn dod ag egni a hwyl di-ben-draw mewn sioe’n heigio o hits i rai o’i hoff oedfannau drwy hyd a lled y gwledydd yma.
Mae’n adnabyddus drwy’r byd yn grwn ar gorn ei hits fyrdd sy’n cynnwys Thunder In My Heart, Moonlighting, One Man Band, I Can’t Stop Loving You, More Than I Can Say, Have You Ever Been in Love, The Show Must Go On a’r rhifau un ar ddwy lan yr Iwerydd, When I Need You a You Make Me Feel Like Dancing.
Dyma noson rhy dda i’w cholli, yn heigio o hits ac yn berwi o egni.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Leo Sayer
A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07391 791934. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.