Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Wet Wet Wet a Go West - I'W GADARNHAU | Gwybodaeth wedi'i diweddaru i ddilyn

DWY O ACTAU MWYAF EU HOES
GYDA’I GILYDD AM Y TRO CYNTAF UN

Mae dau o fandiau mwyaf eiconig eu hoes, Wet Wet Wet a Go West, wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cyfuno am y tro cyntaf erioed ar daith ddwy act yng ngwledydd Prydain. 

Gwêl y daith Best of Both Worlds y bandiau chwedlonol yn chwarae sioeau drwy hyd a lled gwledydd Prydain ddechrau 2024, yn perfformio eu caneuon arloesol o storfa drysor ar y cyd o hits, a phymtheg ar hugain rhyngddyn o Senglau yn Neugain Uchaf gwledydd Prydain!

Ers deugain mlynedd bellach daliodd Wet Wet Wet a Go West fel ei gilydd i gyfareddu selogion drwy’r byd yn grwn a does yna ddim arwydd eu bod yn arafu dim.Mae’r daith ddeuddeg oed yn ei chychwyn hi yn Neuadd Dewi Sant ar 21ain Ionawr ac yn dod i ben yn y Neuadd Gyngerdd Frenhinol yn Glasgow ar 7fed Chwefror.At hynny bydd Wet Wet Wet yn chwarae tair noson ar ben y rhaglen ar eu pennau’u hunain.

A chanddyn nhw gatalog anhygoel o ganeuon, does dim dwywaith nad ydi Wet Wet Wet yn dipyn o ryfeddod cerddorol wnaeth argraff aruthrol â’u cerddoriaeth dros y blynyddoedd, a’u rhoes ymhlith y bandiau mwyaf llwyddiannus yn hanes cerdd pop gwledydd Prydain.

Ers 2018, Kevin Simm (enillydd The Voice UK ac un o gynaelodau Liberty X) sydd ar flaen Wet Wet Wet a ryddhaodd ei albwm cyntaf gyda Kevin, The Journey, yn 2021 a chael croeso enfawr gan y beirniaid.Ochr yn ochr â Kevin, yma o hyd, Graeme Clark (gitâr bas) a Graeme Duffin (gitâr) sydd ar flaen y band saith darn fu ar flaen y rhaglen mewn sawl gŵyl enfawr. 

Cyfarfu Peter Cox a Richard Drummie, sef Go West, gyntaf ym 1974. Rhyddhawyd eu sengl début We Close Our Eyes yng ngwanwyn 1985.  Cyrhaeddodd Rif Pump yn siartiau gwledydd Prydaina dod yn hit deg uchaf yn yr Unol Daleithiau.  Ar ôl y llwyddiant ‘dros nos’ yma gwelwyd tri hit eto yn neg uchaf gwledydd Prydain– Call Me, Goodbye Girl a Don’t Look Down. 

Darllenwch fwy yma 

Gwefan Wet Wet Wet: Wetwetwet.co.uk 
Gwefan Go W
est: Gowest.org.uk

 
  • Pris safonol: £36 | £42.50 | £58
  • WET WET WET A GO WEST - PROFIAD VIP GWIRIAD SAIN / CWRDD A CHYFARCH

    Ynghyd â thocyn gyda’r drutaf i’r sioe, gewch chi, yn VIP, fynd i wiriadau sain Wet Wet Wet a Go West ill dau lle byddwch chi’r unig rai i’w gweld yn mynd drwy ambell i gân a chewch gyfle hefyd i dynnu eich llun gyda’r ddau fand toc wedyn. Bydd y cyfle gwych yma’n rhoi lle i chi fynd y tu ôl i’r llenni a gwylio’r bandiau’n hwylio at sioe’r noson, gyda chychwyn noson arbennig iawn mewn steil. 

    Wet Wet Wet a Go West – Profiad VIP Gwiriad Sain / Cwrdd a Chyfarch (hyn a hyn sydd ar gael) @ £128: -

    -     Tocyn i’r sioe gyda’r drutaf yn y seddi gorau 
    -     Mynediad dethol i wiriadau sain y ddau fand gan gynnwys eu gweld yn mynd drwy ganeuon dewisol
    -     Cyfle unigol i gael tynnu llun gyda’r ddau fand gyda’i gilydd – y lluniau i gyd i’w tynnu ar gamerâu / ffonau’r cwsmeriaid eu hunain.
    -     Cofrodd VIP laminedig gyda chortyn gwddw  
  • Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) @ £36 yr un

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

Logo Hynt